Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Newidiadau

gan Manon Ceridwen Parry

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i weld bod newid yn gallu bod yn anodd, ond yn beth anochel, rhywbeth sy’n gorfod digwydd ran amlaf, ac annog y plant i fod yn ystyriol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch amrywiaeth o hen gardiau cyfarch – er enghraifft, cardiau Nadolig, Pasg, pen-blwydd, genedigaeth babi bach, swydd newydd, cartref newydd.

Gwasanaeth

  1. Holwch oes rhywun wedi cael ei ben-blwydd yn yr wythnos diwethaf, neu a fydd yn cael ei ben-blwydd yn fuan.

    Holwch y rhai hynny sut maen nhw’n teimlo am eu pen-blwydd. Oedden nhw, neu ydyn nhw’n teimlo’n gyffrous? Pa anrhegion gawson nhw, neu maen nhw’n gobeithio’u cael?

  2. Yna, holwch y gynulleidfa i gyd sut maen nhw’n teimlo am benblwyddi. Sut maen nhw’n teimlo am y Nadolig? Oes rhyw ddyddiau eraill yn ystod y flwyddyn y maen nhw’n edych ymlaen atyn nhw bob blwyddyn?

    Trafodwch y ffaith bod y digwyddiadau hyn, nid yn unig yn adegau llawen rydyn ni’n eu mwynhau, ond hefyd yn ddigwyddiadau sy’n nodi bod amser yn mynd yn ei flaen yn ein bywydau. Mae’r dyddiau, yr wythnosau, a’r blynyddoedd yn mynd ymlaen - mae’n debyg ein bod, wrth fynd yn hyn yn teimlo llai o gyffro wrth edrych ymlaen at y pen-blwydd nesaf bob tro (efallai y bydd un neu ddau o’r athrawon yn nodio ac yn cytuno a chi wrth i chi ddweud hyn!).

    Mae’r achlysuron hyn i gyd yn nodi newid - dangoswch y cardiau cyfarch sy’n dymuno’n dda i rywun yn eu swydd newydd, neu gartref newydd, a’r cardiau llongyfarch ar enedigaeth babi bach. Mae’r cardiau’n nodi achlysur pan fydd rhywbeth newydd wedi digwydd, sy’n golygu newid, ond newid rydyn ni’n falch ohono ran amlaf.

  3. Ond nid yw newid bob amser yn rhywbeth rydyn ni’n falch ohono. Ambell dro, mae rhywun yn gorfod cael swydd newydd am fod y ffatri neu’r siop lle roedden nhw’n gweithio cyn hynny wedi cau. Neu efallai bod rhywun sy’n symud i gartref newydd yn gorfod symud i fyw i dref arall, ac fe fydden nhw’n colli cwmni eu ffrindiau.

    Efallai bod ‘newid’ yn teimlo fel peth drwg ambell dro, ond yn aml fe fydd yn rhaid i ni ddod i arfer â’r peth, ac wedyn mae pethau’n well. Efallai bod rhai ohonoch eisoes wedi symud i fyw i dy arall, a’ch bod wedi bod yn teimlo’n drist am sbel. Ond wedyn fe ddaethoch chi i adnabod pobl a phlant eraill, ac ar ôl hynny roedd gennych chi eich hen ffrindiau yn dal i fod ac roedd gennych chi ffrindiau newydd hefyd. Felly, mae’n bosib i ambell ‘newid’, rydyn ni’n meddwl ei fod yn beth drwg, fod yn rhywbeth llawer gwell nag roedden ni wedi ei ddychmygu.

    Mae rhai achosion o ‘newid’, fodd bynnag, bob amser yn drist. Er enghraifft, efallai bod ffrind i chi wedi symud i fyw i wlad arall, ac mae’n debyg na fyddech yn gweld eich  ffrind byth wedyn. (Fe allai fod yn briodol yma i sôn am brofedigaeth - yn ddibynnol ar y cyd-destun.)

  4. Allwn ni byth ddweud a fydd ‘newid’ yn ddrwg neu’n dda. Ond mae un peth yn sicr: fe fydd pob un sydd yma heddiw yn wynebu newidiadau yn ein bywyd yn y dyfodol. Gofynnwch i’r plant awgrymu enghreifftiau o newid a fydd yn debygol o ddod i’w rhan.

    Mae newid yn nodwedd o fywyd. Rhaid i ni dderbyn bod pethau’n newid. Allwn ni ddim gwneud i amser stopio, ac wrth i amser fynd yn ei flaen mae pethau yn newid.

Amser i feddwl

Mae llawer o draddodiadau crefyddol, yn cynnwys Bwdhaeth a Christnogaeth, yn ein hannog i ‘fod yn ystyriol’. Hynny yw, byw yn y foment - a pheidio â phryderu gormod am y gorffennol nac am newidiadau yn y dyfodol, ond bod yn hapus i fyw yn y foment, yma, nawr, a gwneud yn fawr o bob munud o’n bywydau.

Ydych chi’n byw yn y foment?

(Gofynnwch i’r plant ymdawelu a chau eu llygaid.)

Meddyliwch am yr holl bethau da yn eich bywyd ar hyn o bryd.

Meddyliwch am y pethau a fydd yn newid yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.

Meddyliwch yn ôl, os gallwch chi, at yr adeg hon flwyddyn yn ôl.

Nawr, meddyliwch am yr holl bethau da sydd wedi digwydd i chi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Gweddi 
Arglwydd Dduw,
rydyn ni’n diolch i ti am ‘newidiadau’.
Weithiau mae newidiadau’n gallu bod yn anodd,
ond helpa ni i dderbyn unrhyw newid,
a mwynhau'r foment rydyn ni ynddi nawr.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon