Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gawson Ni Amser Da!

Dathliad glan môr

gan Alan and Laura Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dathlu’r profiad o gael treulio diwrnod ar lan y môr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ar lawer o galendrau eglwysig mae’r ail Sul ym mis Gorffennaf yn cael ei ddathlu fel Sul y Môr. Bydd digwyddiadau arbennig yn cael eu trefnu, a gwasanaethau ar y traeth mewn rhai trefi glan môr. Fe fydd y trefnyddion yn casglu arian ar gyfer mudiadau, fel  Sefydliad Brenhinol y Badau Achub (RNLI), sy’n hyrwyddo diogelwch ar y môr.
  • Yn gefndir i’r gwasanaeth yma, fe allech chi daflunio delwedd gymwys o dref glan môr leol. Neu, fe allech chi greu arddangosfa o dywod, cregyn, bwced bach a rhaw a theganau glan môr eraill.
  • Fe allech chi arddangos rhai cofroddion o drefi glan môr hefyd. 

Gwasanaeth

  1. Cyfeiriwch at y gwyliau haf sy’n agosáu. Efallai bydd rhai yn cael mynd am dro i rywle am y diwrnod, neu am gyfnod o wyliau hirach. Holwch oes rhai o’r plant wedi bod ar lan y môr. Ble roedden nhw wedi bod? 

    Caiff pob un o’n synhwyrau eu cyffroi ar lan y môr. Gwahoddwch gymuned yr ysgol i ddod ar daith ddychmygol gyda chi i lan y môr. 

  2. (Er mwyn annog y plant i gymryd rhan yn y cwestiynau canlynol, fe allech chi roi cyfle iddyn nhw sgwrsio gyda’i gilydd mewn parau am gyfnod byr.)

    Gadewch i ni ddychmygu ein bod wedi cyrraedd (... enw lle).

    Gadewch i ni fynd i lawr i’r traeth. Beth ydych chi’n gallu ei weld? (Yr haul yn disgleirio ar ddwr y môr. Llongau draw yn y pellter ar y gorwel. Plant eraill yn adeiladu cestyll tywod ac yn padlo yn y dwr. Cregyn yn cuddio yn y tywod. Creaduriaid bach yn nofio yn y pyllau rhwng y creigiau.)

    Beth ydych chi’n gallu ei glywed? (Swn y tonnau’n torri ar y lan. Swn plant yn chwarae ac yn chwerthin. Swn cerddoriaeth o’r ffair. Cri’r gwylanod.)

    Beth ydych chi’n gallu ei deimlo? (Gronynnau garw’r tywod rhwng bodiau eich traed. Yr haul cynnes. Cofiwch roi eli haul! Y dwr yn oer wrth i chi badlo trwyddo. Y tywel braf wrth i chi sychu eich hun.)

    Beth ydych chi’n gallu ei arogli? (Arogl hallt y môr a’r gwymon. Arogl hyfryd yr eli haul. Arogl coginio pysgodyn a sglodion o’r caffi gerllaw.)

    Ydych chi eisiau bwyd? Beth yw eich hoff flas ar lan y môr? Pysgodyn a sglodion? Candi-fflos? Ffyn melys yr inja roc? Hufen ia?

    Ydych chi’n teimlo wedi blino? Mae wedi bod yn ddiwrnod i’w gofio. Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf?

  3. Mae treulio diwrnod ar lan y môr wedi bod yn weithgaredd poblogaidd ers yr amser pan adeiladwyd y rheilffyrdd gyntaf. Roedd dyfodiad y rheilffyrdd yn golygu bod pobl yn gallu teithio’n rhwydd i’r trefi ar yr arfordir. Y dyddiau hyn, fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn mynd i lan y môr mewn car neu ar fws. Mae llawer o bobl yn prynu cofroddion i’w hatgoffa am y trip i lan y môr (dangoswch enghreifftiau o gofroddion os oes gennych chi rai), ac fe fydd rhai yn cadw cregyn neu gerrig crynion yr oedden nhw wedi eu casglu oddi ar y traeth. 

    Sut y byddwch chi’n cofio am ein taith ddychmygol ni heddiw i lan y môr? Yn bennaf, efallai, am y ffordd y gwnaeth gyffroi pob un o’n synhwyrau!

Amser i feddwl

Mae glan y môr yn lle cyffrous iawn, gyda llawer o bethau yno i’w mwynhau.
Byddwch yn ddiolchgar am un trip neilltuol rydych chi’n cofio amdano, neu drip rydych chi’n edrych ymlaen ato.

Gweddi
Dduw’r Creawdwr,
diolch i ti am yr holl wahanol ffyrdd
rydyn ni’n mwynhau dy fyd di -
trwy ddefnyddio ein gwahanol synhwyrau, gweld a chlywed,
teimlo, arogli a blasu.
Diolch i ti am y cyffro sydd i’w deimlo
wrth i ni gael profiadau newydd
ac ymweld â llefydd gwahanol,
yn agos i’n cartref ac ymhell i ffwrdd.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon