Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhoi Eich Lle I  Rywun Arall

Gwasanaeth wedi ei seilio ar y Gemau Olympaidd, sy’n ystyried bod hunanaberth yn well nag ennill.

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Gwasanaeth wedi ei seilio ar y Gemau Olympaidd, sy’n ystyried bod hunanaberth yn well nag ennill.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y cadwyni a’r cwch bach, neu lun o gwch. Holwch y plant beth maen nhw’n ei feddwl sy’n gyffredin rhwng caethwas o America a morwr yn y Gemau Olympaidd? 

    Derbyniwch rai awgrymiadau gan y plant cyn adrodd y storïau canlynol.

  2. Flynyddoedd lawer yn ôl, yn America, roedd llawer iawn o bobl a oedd yn Americaniaid Affricanaidd yn gaethweision yn Ne’r wlad. Yng Ngogledd y wlad, roedd y bobl hyn yn cael bod yn rhydd, ac weithiau fe fyddai rhai o’r caethweision yn dianc o’r De i’r Gogledd. Fe fydden nhw’n teithio, y guddiedig, am gannoedd o filltiroedd trwy gyfrwng yr hyn y bydden nhw’n ei alw ‘Underground Railroad’. Nid rheilffordd go iawn oedd hon ond system o nifer o gartrefi a mannau lle gallai’r bobl hyn guddio ynddyn nhw. Roedd perchnogion y tai yn cytuno i roi lloches i gaethweision a fyddai’n dianc, ac yn rhoi bwyd iddyn nhw a lle iddyn nhw orffwys am gyfnod, cyn iddyn nhw ailgychwyn ar eu taith hir ymlaen i ryddid.

    Roedd hi’n daith beryglus - roedd yn rhaid i’r bobl deithio yn y nos, a phan fyddai’r caethweision neu’r bobl oedd yn eu helpu’n cael eu dal, fe fydden nhw’n cael eu cosbi’n llym iawn gan awdurdodau’r wlad.

    Un diwrnod, fe benderfynodd caethwas o’r enw Harriet Tubman geisio dianc, a chychwyn ar ei thaith anodd i’r Gogledd ac i ryddid. Fe ddywedodd cymdoges groenwyn wrthi sut i ddod o hyd i’r lloches gyntaf. Pan gyrhaeddodd yno, fe’i rhoddwyd hi ar wagen, ei chuddio o dan sachau, ac fe gafodd ei chludo i’r man cuddio nesaf ar y daith. Yn y ffordd honno, o’r naill le i’r llall, fe lwyddodd i gyrraedd Philadelphia yn y Gogledd. Roedd hi wedi gallu dianc!

    Ond yn hytrach na mwynhau ei rhyddid, fe ddaliodd Harriet ati i helpu caethweision eraill, a thrwy hynny roedd hi mewn perygl o gael ei dal eto ac eto, dro ar ôl tro. Fe aeth yn ôl un deg tri o weithiau ar hyd yr Underground Railroad, a chyda help y bobl a oedd yn ei helpu, fe lwyddodd i achub ei theulu yn gyntaf, ac o leiaf saith deg yn rhagor o bobl eraill a oedd yn gaethweision. Fe lwyddodd i’w cael yn rhydd gan ddweud, bob amser, bod Duw yn ei helpu.

    Fe gafodd ei galw’n ‘Moses’ oherwydd y ffordd yr arweiniodd hi’r bobl o’u caethiwed, yn union fel y gwnaeth Moses arwain yr Israeliaid o’u caethiwed yn yr Aifft fel yn yr hanes sydd i’w gael yn y Beibl. (Dangoswch y poster o Harriet Tubman.)

  3. Rhywun arall a wnaeth ymdrech fawr a rhywbeth rhyfeddol er mwyn rhywun arall oedd morwr o’r enw Lawrence Lemieux o Ganada. 

    (Dangoswch y llun o Lawrence.) Yn 1988, roedd Lawrence yn hwylio ar ben ei hun mewn ras hwylio yng Ngemau Olympaidd Seoul, De Korea. Roedd nifer fawr o gychod yn y ras. A thua hanner y ffordd trwy’r ras roedd Lawrence yn yr ail safle – gyda siawns dda o ennill medal! 

    Ond, fe gododd gwynt cryf iawn, gan achosi tonnau enfawr a hyrddio’r cychod hwyliau. Wrth edrych yn ôl i gyfeiriad y cychod eraill, fe welodd Lawrence gwch gyda dau forwr ynddo – ond roedd un wedi cwympo i’r môr ac roedd y llall yn gwyro allan o’r cwch. Yna fe drodd eu cwch drosodd yn y dwr. Gwaeddodd Lawrence arnyn nhw, ond doedd yr un o’r ddau’n gallu ei glywed am fod swn y gwynt a’r tonnau’n rhy gryf. 

    Heb feddwl ddwywaith, fe benderfynodd Lawrence droi ei gwch yn ôl a mynd i achub y ddau. Wrth wneud hyn, wrth gwrs, roedd yn colli ei safle yn y ras. Fe lwyddodd i achub y morwyr, a oedd wedi eu hanafu yn ogystal â bod wedi colli ei rheolaeth ar eu cwch yn y storm. Fe arhosodd gyda’r ddau nes daeth y cwch patrôl swyddogol i’w hachub, ac fe helpodd y ddau i fynd ar y cwch hwnnw ac yna fe ail ymunodd â’r ras.

  4. O ganlyniad i’r oedi hwn, fe gyrhaeddodd Lawrence derfyn y ras, nid yn ail ond yn ail ar hugain. Ond pan ddaeth yr amser i’r beirniaid gyflwyno’r medalau fe wnaethon nhw, er hynny, ddyfarnu’r ail wobr i Lawrence – roedden nhw’n sylweddoli ei fod yn wir yn enillydd Olympaidd. Ac wrth gyflwyno’r fedal iddo, fe wnaeth llywydd y Gemau ei ganmol am ei ddewrder, ei aberth a’i sbortsmonaeth, gan ddweud ei fod yn ymgorffori’r hyn oll mae’r ddelfryd Olympaidd yn ymwneud â hi. Dywedodd,  ‘By your sportmanship, self sacrifice and courage, you embody all that is right with the Olympic ideal’. 

  5. Roedd Harriet a Lawrence, ill dau, yn fodlon rhoi’r gorau i rywbeth gwerthfawr, ac yn fodlon peryglu eu hunain a cholli rhywbeth pwysig er mwyn helpu pobl eraill. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu Grist wedi gwneud yr un peth. Mae’r Beibl yn dweud bod Iesu wedi rhoi’r cyfan er ein mwyn ni.

Amser i feddwl

Mae gan Dduw fwy o ddiddordeb yn yr hyn rydyn ni’n fodlon ei roi er mwyn helpu pobl eraill na’r hyn rydyn ni’n ei ennill i ni ein hunain. Mae hynny’n wir am fyd chwaraeon, ac am ein bywyd cyfan. Mae medalau Duw’n cael eu cyflwyno  am faint o gariad sydd gennym ni, nid am ba mor gyflym rydyn ni’n gallu rhedeg.

Gweddi
Arglwydd Iesu Grist,
diolch am Harriet a Lawrence,
a diolch dy fod ti wedi rhoi popeth er ein mwyn ni.
Helpa ni i redeg dy ras di.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon