Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ramadan

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried sut mae gwrthod rhywbeth i ni ein hunain, rhywbeth rydyn ni’n ei flysio, yn dysgu hunanreolaeth i ni, ac yn gwneud i ni werthfawrogi’n fwy y pethau hynny rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae trefn y flwyddyn Fwslimaidd yn seiliedig ar fisoedd y lleuad. Fe fydd y Ramadan yn digwydd ar y nawfed mis o galendr y lleuad. Mae hi’n wyl symudol, yn dibynnu ar y lleuad, ac yn symud ymlaen 10 neu 11 diwrnod bob blwyddyn. Mae’r wyl yn dechrau gyda’r olwg gyntaf o’r lleuad newydd.

    Mae gwyl Ramadan, cyfnod o fis, yn adeg i bobl ystyried eu bywyd eu hunain ac yn adeg o ymrwymiad crefyddol mawr. Yn ystod Ramadan, fe fydd Mwslimiaid yn ymprydio o doriad gwawr hyd fachlud haul bob dydd. Pwrpas hyn yw darostwng eu hanghenion corfforol a rhoi blaenoriaeth i’w anghenion ysbrydol, gan osgoi deisyfiadau bydol a chanolbwyntio ar Dduw, Allah, a’i fendithion. Mae Mwslimiaid yn credu eu bod, wrth iddyn nhw atal eu hunain rhag bwyta, yn dysgu gwersi mewn gostyngeiddrwydd, hunanreolaeth ac empathi.

    Mae sawl clip fideo sy’n ymwneud â hyn i’w gweld ar YouTube, a allai fod o help i’r plant gael y teimlad sy’n gysylltiedig â Ramadan. Bydd gofyn i chi ddewis eich clipiau eich hun os  byddwch am eu defnyddio’r adnoddau hyn. Gwiriwch reolau hawlfraint eich ysgol.
  • Paratowch lond plât o deisennau fel Mars Bar Cake (neu rywbeth yr un mor felys a hyfryd y byddai’r plant yn hoff ohonyn nhw!) a’r rheini wedi eu torri’n ddarnau. Torrwch rai darnau bach, ac eraill yn ddarnau mwy a rhai sy’n amlwg dipyn yn fwy na’r lleill.
  • Fe fydd arnoch chi angen cloc dysgu dweud yr amser.

Gwasanaeth

  1. Gwahoddwch rai o’r plant, o wahanol ddosbarthiadau, i ddod ymlaen atoch chi i gael darn o deisen siocled. Sylwch ar yr ymgiprys sydd rhwng y plant er mwyn cael y darnau mwyaf.

    Gofynnwch i’r plant oedden nhw’n cael trafferth i ddewis pa ddarn y bydden nhw’n eu hoffi?

    Pwy gafodd y tamaid mwyaf?

    Pwy a feddyliodd, am eiliad, y dylai beidio â bod yn farus, ac a ddewisodd ddarn llai? Doedd hynny ddim mor hawdd, nag oedd, a’r darnau teisen yn edrych mor hyfryd?!

  2. Eglurwch nad oes unrhyw un ohonom sy’n ei chael hi’n hawdd dweud ‘Na!’ wrth y llais bach sydd y tu mewn i ni. Y llais hwnnw sy’n ein cymell i fynd am y mwyaf a’r gorau, neu i geisio cael pethau’n gyntaf o flaen pawb arall. Hunanoldeb yw hynny, ac rydym i gyd yn euog o fod ychydig yn hunanol o dro i dro. Mae’n rhywbeth sy’n nodweddiadol o gymeriad bodau dynol.

  3. Eglurwch, pe byddai’r gwasanaeth hwn yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod y mae Mwslimiaid yn ei alw’n ‘Ramadan’, fyddai dim un plentyn sy’n Fwslim wedi dod ymlaen i gael hyd yn oed y darn lleiaf o deisen, hyd yn oed os mai hon oedd eu hoff deisen o holl deisennau’r wlad. Fydden nhw ddim yn dod ymlaen i gael tamaid o deisen oherwydd eu bod yn cadw ympryd y Ramadan.

    Yn ystod cyfnod y Ramadan, sy’n para am fis, fydd Mwslimiaid ddim yn bwyta unrhyw fwyd yn ystod oriau golau dydd. Mae cannoedd o filoedd o bobl sy’n perthyn i’r ffydd Fwslimaidd ledled y byd yn cymryd rhan yn yr ympryd hwn. Fe fydd Mwslimiaid yn mynd i’r ysgol ac i’w gwaith, fel ar unrhyw ddiwrnod arall, yn ystod Ramadan. Ond, fe fyddan nhw’n treulio rhagor o amser yn gweddïo neu’n darllen eu llyfr sanctaidd, y Qur’an, ac yn gofalu am y bobl dlawd.

    Cyn toriad y wawr yn y bore, a hithau’n dal i fod yn dywyll, mae pawb yn deffro er mwyn bwyta brecwast ysgafn sy’n cael ei alw’n suhoor. Fe fydd yn rhaid iddyn nhw fodloni ar hynny wedyn am weddill y diwrnod, nes bydd yr haul yn machlud a’r nos yn dod eto. Wedi hynny, fe fyddan nhw’n cael bwyta, y tro hwn enw’r pryd bwyd y byddan nhw’n ei gael yw iftar.

  4. Defnyddiwch y cloc i ddangos yr amser pan fydd y wawr yn torri yn y wlad hon ar yr adeg hon o’r flwyddyn, a dangos wedyn yr amser pan fydd yr haul yn machlud a golau dydd yn dod i ben. Faint o oriau o olau dydd yw hynny?

    Fyddech chi’n ei chael hi’n anodd ymprydio am yr holl oriau? Fyddai hynny’n anoddach mewn gwlad lle mae’r tywydd yn boeth, neu lle mae’r tywydd yn oer?

    Nodwch adegau ar y dydd pryd y byddai’n anodd ymprydio - amser egwyl, amser cinio, neu ar ôl mynd adref o’r ysgol. Meddyliwch am yr arogleuon hyfryd a fydd yn dod o gegin yr ysgol ganol dydd.

    Gofynnwch i rai o’r plant lenwi’r bwlch yn y frawddeg ganlynol: ‘Pe byddwn i’n arogli . . . fe fyddai fy mol yn gwneud swn!’

  5. Holwch y plant beth fydden nhw wedi ei ddysgu, tybed, trwy dreulio mis cyfan yn peidio â bwyta yn ystod y dydd, hyd yn oed pan fydden nhw eisiau bwyd yn fawr iawn.

    -  Rydyn ni’n dysgu dweud ‘Na’ wrthym ein hunain am bopeth mae ein corff yn ei flysio.
    -  Rydyn ni’n dysgu sut deimlad yw bod yn wan ac i fod angen nerth o rywle gwahanol.
    -  Rydyn ni’n dysgu uniaethu â’r nifer fawr o bobl yn y byd sydd yn dlawd iawn ac sy’n byw fel hyn, yn newynog, ddydd ar ôl dydd.
    -  Rydyn ni’n dysgu canolbwyntio ar Dduw a’i fendithion.
    -  Rydyn ni’n dysgu bod aros am bethau, yn wir, yn dda i ni.

  6. Ar ddiwedd cyfnod y Ramadan daw’r wyl enfawr, yr Eid-ul Fitr. Beth ydych chi’n feddwl y mae Mwslimiaid yn ei wneud yn ystod yr wyl hon?

    Maen nhw’n mynd i’r mosg lleol i weddïo, ac maen nhw’n gwledda ac yn bwyta o lot!

Amser i feddwl

Mae dweud ‘Na’ wrth rywbeth y byddem ni’n hoffi ei gael yn anodd. Does neb ohonom yn hoffi gwrthod bwyd i ni ein hunain, neu wrthod i ni ein hunain gael aros yn y gwely’n hwyr yn ystod y penwythnos, neu wrthod i ni ein hunain bleserau fel gwylio teledu a chwarae gemau.

Pa bryd y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd dweud ‘Na’?

Gweddi
Annwyl Dduw,
rydyn ni’n gweddïo dros y rhai sydd ar hyn o bryd yn ymprydio yn ystod Ramadan.
Helpa nhw i ymwrthod ag anghenion eu corff.
Helpa nhw i fod yn nes at Allah.
Helpa nhw i fod yn dosturiol tuag at y bobl rheini yn y byd sydd yn newynog.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon