Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ignatius O Loyola

Dydd gwyl - 31 Gorffennaf

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am fywyd a gweinidogaeth Ignatius o Loyola, sylfaenydd y mudiad Jeswitaidd Pabyddol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bwrdd gwyn neu siart troi.
  • Cardiau gyda’r geiriau ‘Ysgol Feithrin’, ‘Ysgol Gynradd’ ac ‘Ysgol Uwchradd’ wedi eu hysgrifennu arnyn nhw.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i un o’r plant ieuengaf enwi eich ysgol ac ysgrifennwch yr enw ar y bwrdd gwyn. 

    Yna holwch y plant ydyn nhw’n gwybod enwau unrhyw ysgolion eraill yn yr ardal – cynradd neu uwchradd. Cofnodwch yr awgrymiadau, neu gofynnwch i’r plant gofnodi’r enwau hyn ar y bwrdd gwyn neu’r siart troi.

    Eglurwch i’r plant eich bod yn mynd i sôn wrthyn nhw heddiw am fachgen a ddaeth, wedi iddo dyfu’n ddyn, i fod yn gyfrifol am sefydlu nifer fawr o ysgolion ledled y byd. 

  2. Cafodd y bachgen hwnnw, bachgen o’r enw Ignatius, ei eni yn Sbaen yn y flwyddyn 1491. Roedd yn ieuengaf o 11 o blant, a phan oedd yn ddim ond 7 oed fe fu farw ei fam. Ychydig yn ddiweddarach, fe ddaeth Ignatius yn facwy neu’n was bach (math o was a oedd yn cael ei hyfforddi ar gyfer bod yn farchog yng ngosgordd uchelwr). Pan oedd yn 18 oed, fe ddaeth yn filwr.

    Roedd Ignatius yn filwr da, ac yn cael ei ystyried yn ddyn ifanc dewr gan ei gyd-filwyr. Ond, 12 mlynedd ar ôl iddo ymuno â’r fyddin, fe gafodd ei daro yn ei goes gan belen wedi ei saethu o wn mawr, a chafodd ei anafu’n ddifrifol. Doedd y driniaeth a gafodd yn yr ysbyty yn dilyn ei anffawd ddim yn driniaeth lwyddiannus iawn, ac roedd yn gloff wedyn am weddill ei oes.

    Pan oedd yn yr ysbyty gofynnodd Ignatius am lyfr i’w ddarllen. Cafodd lyfr am hanes Iesu Grist a llyfr yn cynnwys storïau am rai o’r seintiau Cristnogol.

    Gwnaeth y llyfrau hyn argraff fawr arno, a phenderfynodd y byddai’n cysegru gweddill ei fywyd i Dduw. Ond roedd ganddo broblem. Yn y dyddiau hynny, roedd disgwyl i offeiriadon allu siarad gyda’r bobl yn yr iaith Ladin. Roedd y Beibl wedi ei argraffu mewn Lladin, a dim ond mewn Lladin yr oedd hi’n bosib cynnal y gwasanaethau yn yr eglwysi. A doedd Ignatius ddim yn gallu siarad gair o Ladin!

    Felly, fe benderfynodd Ignatius fynd yn ei ôl i’r ysgol! Roedd yn ddyn 33 mlwydd oed erbyn hynny, ond fe ymunodd â dosbarth o fechgyn 10 oed. Roedd pobl yn chwerthin am ei ben, ac roedd pethau’n anodd iddo, ond roedd yn benderfynol o ddal ati - ac ymhen sbel, fe lwyddodd Fe gymrodd ddeng mlynedd iddo, ond yn y diwedd fe ddaeth yn offeiriad!

    Wedi hynny, fe gasglodd Ignatius grwp o chwech o ffrindiau iddo ynghyd. Gyda’i gilydd fe addunedodd y grwp hwnnw i roi eu bywyd i wasanaethu’r Eglwys gan fyw bywyd tlawd a sanctaidd. Roedden nhw’n barod i fynd i ble bynnag y byddai’r Pab yn eu hanfon. Ac fe aethon nhw gyda’i gilydd i deithio’r byd er mwyn dweud wrth bobl am Dduw, ble bynnag y bydden nhw’n mynd.

    Cafodd Ignatius fywyd cyffrous. Daeth llawer o bobl i gredu yn Nuw am eu bod wedi ei glywed yn siarad; roedd pobl mewn rhai gwledydd yn ei groesawu, ond doedd pobl mewn rhai gwledydd eraill ddim yn rhoi croeso iddo. Fe ysgrifennodd Ignatius nifer o lyfrau, ac fe dreuliodd gyfnod mewn carchar hyd yn oed oherwydd yr hyn yr oedd yn ei gredu.

    Dros amser, fe ddaeth llawer iawn o bobl i ddilyn athrawiaethau Ignatius. Fe enwyd y bobl hyn yn Jeswitiaid. Wedi i Ignatius ddechrau mynd yn hen, a methu teithio’r byd yn hawdd, fe ganolbwyntiodd ei egni ar anfon Jeswitiaid eraill i wahanol rannau’r byd. Yn ogystal â sôn wrth bobl am Dduw, roedd ei ddilynwyr yn sefydlu ysgolion a cholegau, am fod Ignatius yn credu bod addysgu disgyblion am Dduw’n rhan hanfodol  addysg.

    Bu farw Ignatius yn sydyn ar 31 Gorffennaf 1556. Hyd heddiw, ledled y byd, fe fydd Jeswitiaid yn cadw Dydd Gwyl ac yn dathlu ar ddiwrnod olaf mis Gorffennaf i gofio am Ignatius.

  3. Mae llawer o bobl wedi cael eu dylanwadu gan fywyd Ignatius o Loyola. Heddiw, y Jeswitiaid yw’r urdd unigol fwyaf o offeiriadon a brodyr yn yr Eglwys Babyddol.

    Mae’r Jeswitiaid yn parhau i fod yn ymwneud ag addysg . Mae dros 500 o brifysgolion  a cholegau Jeswitaidd ledled y byd, yn addysgu dros 20,000 o fyfyrwyr bob blwyddyn.

  4. Pan oedd yn ifanc, roedd Ignatius yn meddwl bod ganddo fywyd llewyrchus o’i flaen fel milwr – ond fe aeth pethau o chwith iddo. Ac yntau wedi ei anafu, fe allai fod wedi treulio gweddill ei oes yn ddiflas a digalon, ac fe allai fod wedi gweld bai ar Dduw, ac wedi chwerwi. Ond nid dyna a wnaeth. Fe ddilynodd gynllun Duw ar ei gyfer, ac roedd yn ddigon dewr i wneud unrhyw beth yr oedd angen ei wneud er mwyn newid ei fywyd. Mae’n rhaid bod mynd yn ei ôl i’r ysgol at fechgyn 10 oed wedi bod yn anodd iddo. Ond, roedd yn benderfynol o wneud hynny os oedd hynny’n golygu nad oedd ei fywyd yn mynd i fod yn ofer. 

  5. Beth fyddwn ni’n ei wneud pan fydd pethau’n mynd o chwith yn ein bywydau? Fyddwn ni’n grwgnach ac yn cwyno, ac yn teimlo’n isel ein hysbryd? Fe ddangosodd Ignatius na ddylen ni byth roi’r gorau i obeithio gan fod pethau cadarnhaol yn gallu deillio o sefyllfaoedd gwael weithiau. Rhaid i ni fod ag agwedd gadarnhaol , a gafael ym mhob cyfle y byddwn ni’n ei gael yn ein bywyd!

    Mae Gwyl Ignatius o Loyola yn ein helpu i ganolbwyntio ar y da sy’n gallu deillio o sefyllfaoedd gwael.

Amser i feddwl

Fe ysgrifennodd Ignatius y geiriau hyn (yn ei iaith ei hun) i Dduw: ‘Rho i mi dy gariad a dy ras yn unig. Gyda’r ddau beth hwnnw rydw i’n ddigon cyfoethog, a does gen i eisiau dim rhagor.’

Oedwch am foment a meddyliwch am eich diwrnod hyd yn hyn. Ydych chi eisoes wedi cwyno am rywbeth sydd ddim yn mynd yn union fel yr hoffech chi?

-  Efallai nad oeddech eisiau codi o’r gwely, y bore ’ma!
-  Efallai eich bod wedi dymuno cael rhywbeth gwahanol i frecwast, a doedd y peth hwnnw ddim ar gael.
-  Efallai bod rhywbeth wedi mynd o’i le ar y buarth chwarae pan ddaethoch chi i’r ysgol.

Gadewch i ni ofyn i Dduw ein helpu i fod fel Ignatius o Loyola, bob amser yn chwilio am y pethau gorau mewn unrhyw sefyllfa, ac yn barod i fod yn fodlon â’r hyn sydd gennym ni.

Gweddi
Annwyl Dduw,
pan fydd pethau’n mynd o chwith, helpa ni i sylweddoli dy fod ti yno gyda ni.
Hyd yn oed pan fyddwn ni’n methu deall y rheswm pam fod pethau’n digwydd,
helpa ni i wybod bod gen ti gynllun ar gyfer ein bywyd.
Diolch am waith Ignatius o Loyola.
Diolch bod cymaint o bobl yn cael budd, hyd heddiw, oherwydd yr hyn a wnaeth Ignatius yn ystod ei fywyd.
Helpa ninnau i fyw ein bywydau mewn ffordd sy’n rhoi budd i bobl eraill.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon