Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sialens I'r Tim

Gwasanaeth wedi ei seilio ar y Gemau Olympaidd, sy’n cadarnhau ac yn annog gwaith tîm.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Gwasanaeth wedi ei seilio ar y Gemau Olympaidd, sy’n cadarnhau ac yn annog gwaith tîm.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r casgliad cyflawn o ddarnau 50 ceiniog Chwaraeon Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn cynnwys 29 o ddarnau 50c yn darlunio: campau dwr; saethyddiaeth; athletau; badminton; boccia (un o gampau’r chwaraeon Paralympaidd); bocsio; pêl-fasged; canwio / neu rwyfo caiac; beicio; marchogaeth; cleddyfaeth; pêl-droed; gêm pêl gôl; gymnasteg; pêl law; hoci; jiwdo; pentathlon modern; rhwyfo; hwylio; saethu; taekwondo; tennis bwrdd; tennis; triathlon; pêl foli; codi pwysau; rygbi cadair olwyn; reslo.

  • Fe fydd arnoch chi angen nifer o ddarnau 50c, yn ddelfrydol, rhai o’r casgliad sy’n dathlu Gemau Olympaidd Llundain 2012, os gallwch chi ddod o hyd i rai.

  • Mae’n bosib dod o hyd i wybodaeth am y 29 darn 50c, a delweddau ohonyn nhw ar y wefan: https://www.royalmint.com/discover/uk-coins/coin-design-and-specifications/london-2012-coins/

  • Ac mae golwg cyffredinol i’w gael ar: http://www.bbc.co.uk/news/uk-11527266

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y darnau 50c sydd gennych chi. Nid yw pob darn yr un fath. Tra mae llun o ben y frenhines bob amser ar un ochr, sef y tu blaen (neu’r ‘head’), mae amrywiaeth o ddyluniadau i’w cael ar yr ochr arall, ar y gwrthwyneb (neu’r ‘tail’). 

    Er mwyn nodi’r Gemau Olympaidd, mae’r Mint Brenhinol (y ganolfan sy’n cynhyrchu ein holl ddarnau arian Prydeinig, a’r lle y caiff medalau swyddogol y Gemau Olympaidd eu cynhyrchu hefyd) wedi cyhoeddi a chynhyrchu Casgliad 50c Chwaraeon Gemau Olympaidd Llundain 2012. Mae 29 math gwahanol o ddarnau 50c, gyda gwahanol ddelweddau ar bob un, yn darlunio’r amrywiol chwaraeon sy’n digwydd yn y Gemau Olympaidd. 

  2. Tafluniwch rai o’r dyluniadau (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’) a gwahoddwch gymuned yr ysgol i nodi’r gwahanol chwaraeon a sgwrsio amdanyn nhw. Wrth eu trafod, efallai y bydd angen i chi gydgyfrannu gwybodaeth a phrofiad. Dyna beth yw gwaith tîm! 

  3. Yn 2009, cynhaliwyd cystadleuaeth i ddylunio’r darnau 50c hyn. Mae pob un o’r 29 darn wedi eu cynllunio gan wahanol bobl, ac mae pob un yn adlewyrchu arddull a diddordebau unigol y dylunwyr. Un o’r darnau yn y casgliad yw darn sy’n darlunio athletau, wedi ei ddylunio gan Florence Jackson, a enillodd gystadleuaeth y rhaglen deledu Blue Peter pan oedd hi’n ddim ond naw oed. Dyma enghraifft arall o waith tîm – pobl yn gweithio gyda’i gilydd i gyrraedd nod y maen nhw’n ei rannu. 

  4. Tra mae rhai o’r chwaraeon sy’n cael eu darlunio yn gystadlaethau tîm, mae rhai cystadlaethau eraill yn gystadlaethau unigol. Ac fe all rhai ohonyn nhw fod y ddau beth. Pa rai o’r chwaraeon canlynol (sy’n cael eu darlunio ar y darnau 50c) sydd bob amser, neu ran amlaf, yn gystadlaethau tîm?

    pêl-droed; cleddyfaeth; hoci; pêl-fasged; jiwdo; athletau; codi pwysau; rygbi cadair olwyn.

  5. Wrth fod yn rhan o dîm, mae’n rhaid i’r chwaraewyr gefnogi ei gilydd a helpu’r naill a’r llall. Fydd pob aelod ddim yn yr un safle, ac ni fydd pob un a’r un cyfrifoldeb. Fe fydd tîm da yn gwneud y gorau o wahanol gryfderau a galluoedd aelodau’r tîm. 

    Yn yr ysgol heddiw, ar ba adegau y bydd gwaith tîm yn bwysig? 
    Sut deimlad yw bod yn rhan o dîm? 
    Pam fod gwaith tîm yn rhoi her i ni? 
    Beth sy’n gwneud tîm cryf?

    (Derbyniwch awgrymiadau a’u crynhoi.)

  6. Gosodwch her i’r plant: gwahoddwch bob dosbarth i geisio dod o hyd i hynny sy’n bosib o’r darnau arian arbennig hyn (mae 89 miliwn wedi eu cynhyrchu a’u rhoi i’w defnyddio gan y bobl, ond mae’n anodd iawn dod o hyd i rai yn eich newid o ddydd i ddydd).  

    Tybed fydd unrhyw ddosbarth yn gallu dod o hyd i’r 29 cynllun? Wrth gwrs, mae rhai pobl yn gallu prynu set gyflawn o’r darnau 50c gan y Mint brenhinol, ond y rheol yn yr her yma sy’n cael ei gosod i’r plant heddiw yw dod o hyd i’r darnau, fesul un, wrth gael newid yn y siop ac ati. Efallai y bydd angen iddyn nhw ofyn i ffrindiau ac aelodau eu teulu eu helpu  Dyna enghraifft eto o waith tîm! 

    Gofynnwch i bob dosbarth gadw cofnod o’r rhai maen nhw’n dod o hyd iddyn nhw drwy dynnu ffotograff o’r darnau. Byddai cyfle hefyd i blant unigol gasglu set o rwbiadau o’r darnau. 

  7. Pwysleisiwch y ffaith, bod cyfle i gymuned yr ysgol gyfan - trwy weithio mewn timau – ddod o hyd i ragor o’r darnau arian nag y byddai unigolyn yn gallu ei wneud ar ei ben ei hun. Ac er mwyn dod o hyd i’r nifer fwyaf o ddarnau arian, fe fydd angen i bob dosbarth gyfuno eu hymdrechion. Gwaith tîm yn wir! 

Amser i feddwl

Fydd un darn 50c ddim yn prynu llawer, ond gall pentwr ohonyn nhw fod yn llawer mwy o werth.
Mae pedwar yn werth £2.
Deg yn £5.
Mae ugain yn gwneud £10.
Ac mae dau ddeg naw yn werth ... £14.50!

Gyda’i gilydd maen nhw’n werth llawer mwy!

Mae gwaith tîm yn beth felly.
Mae’n bosib i ni gyflawni llawer mwy gyda’n gilydd.
Rydyn ni’n gyfoethocach pan fyddwn ni’n rhan o dîm. 

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon