Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Un Gafod Syndod Mawr Wrth Gwrdd A Iesu

Nicodemus

gan Margaret Chapman

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1/2

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddeall yr her a osododd Iesu i Nicodemus.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddwch chi’n chwarae rhan Nicodemus. Efallai yr hoffech hi wisgo rhywbeth am eich pen i ddarlunio’r cymeriad (chwiliwch ar y rhyngrwyd am luniau).
  • Mae’r sgwrs rhwng Nicodemus a Iesu i’w chael yn Efengyl Ioan 3.1–16.
  • Mae’r stori am y nadroedd gwenwynig yn yr anialwch i’w chael yn Numeri 21.4–9.
  • (Dewisol) Casglwch nifer o luniau i’w dangos:
    -  silwét o rywun yn y nos
    -  llun wyneb rhywun sydd wedi cael syndod
    -  llun neidr ar bolyn
    -  llun Iesu ar y groes
    -  y geiriau canlynol o Efengyl Ioan 3.16 wedi eu hysgrifennu (er enghraifft, ar PowerPoint): ‘Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.’ 

Gwasanaeth

  1. (Chwaraewch ran Nicodemus yn ymgripio ar draws yr ystafell.)

    Rydw i wedi trefnu i gwrdd â rhywun yn gyfrinachol - athro, o’r enw Iesu. Mae gen i ddiddordeb yn yr hyn sydd ganddo i’w ddweud. Ond fiw i mi adael i fy nghydweithwyr wybod, sef y Phariseaid. Dydi’r Phariseaid i ddim yn hoffi Iesu. Felly rydw i’n mynd i gwrdd â Iesu yn y nos.

  2. Syndod! (Dangoswch y llun o wyneb rhywun sydd wedi cael syndod.) Pan siaradais i’n foneddigaidd gyda Iesu, fe wnaeth anwybyddu’r hyn oedd gen i i’w ddweud, gan awgrymu os oeddech chi eisiau cael eich derbyn i deyrnas Duw nad oedd pwrpas dim ond bod yn grefyddol. Yn hytrach, roedd angen i chi ddechrau o’r newydd eto, fel cael eich geni eto. Dyna syndod! 

  3. Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n swnio braidd yn hurt, felly fe ofynnais iddo, ‘Beth? Wyt ti’n awgrymu bod angen i rywun fynd yn ôl i mewn i fol ei fam a chael ei eni eto?’

    Na! Fe eglurodd Iesu i mi beth oedd yn ceisio’i ddweud. Roedd yn dweud bod Duw’n dod i mewn i galon pobl, ac i’w bywyd, wrth iddyn nhw roi eu ffydd yn Nuw a meddwl am Dduw yn lle meddwl amdanyn nhw’u hunain.

  4. Yr ail syndod! (Dangoswch lun y neidr ar bolyn, neu chwifiwch neidr blastig ar ffon.) Fe wnaeth Iesu fy atgoffa o rywbeth a ddigwyddodd ymhell yn ôl yn hanes ein pobl. Unwaith, roedd pla o nadroedd ac roedd llawer o bobl yn cael eu brathu gan y nadroedd gwenwynig ac yn marw. Fe ddywedodd Duw wrth Moses, sef arweinydd y bobl, am wneud cerflun o neidr allan o’r metel efydd a gosod y cerflun ar bolyn tal. Yna, roedd i fod i wahodd y bobl i ddod i edrych ar y neidr efydd ac fe fydden nhw’n cael eu gwella. Fe ddywedodd Iesu wrthyf fi, Nicodemus, y byddai ef ei hun, Iesu, yn cael ei godi, ac y byddai pawb fyddai’n edrych arno, ac yn bod â ffydd ynddo, yn cael eu derbyn i deyrnas Duw. Ac felly, y cyfan y byddai’n rhaid i mi ei wneud fyddai edrych ar Iesu a bod â ffydd ynddo.

    Wel yn wir! Oedd Iesu’n mynd i allu gwneud hynny i bobl? Ac fe feddyliais i tybed ai hwn oedd y Meseia, yr achubwr, yr oedd Duw wedi addo ei fod yn mynd i’w anfon at y bobl ryw ddiwrnod. Ai hwn, Iesu, oedd y dyn hwnnw?

  5. Yna, fe ddywedodd Iesu rywbeth hyfryd wrthyf fi, rhywbeth na wnaf i byth ei anghofio. Rydw i wedi ysgrifennu beth ddywedodd o, yma, fel y gallwch chi ddarllen ei eiriau gyda fi. Fe ddywedodd, ‘Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.’

    Dyna i chi addewid hyfryd. Wyddoch chi, cyn i mi gwrdd â Iesu roeddwn i’n meddwl fy mod i’n ddigon da i gwrdd â Duw. Nawr rydw i’n sylweddoli mai’r ffordd i allu bod yn ddigon da i gwrdd â Duw yw bod â ffydd yn Iesu, ac nid dim ond meddwl eich bod yn ddigon da fel rydych chi.

  6. Roedd gen i ofn beth fyddai’r Phariseaid yn ei ddweud pe bydden nhw’n gwybod fy mod i’n dilyn Iesu, felly mae’n ddrwg gen i gyfaddef, ond fe fues i’n dilyn Iesu yn y dirgel wedyn. Ychydig ar ôl hynny, fe wnaeth gelynion Iesu ei roi i farw ar y groes bren hon, ac fe gafodd y groes ei chodi i bawb allu gweld Iesu (dangoswch y llun o Iesu ar y groes).

    Wedi i Iesu farw, fe wnes i sylweddoli mai’r peth lleiaf fyddwn i’n gallu ei wneud iddo fyddai helpu ei gyfeillion i’w gladdu.

  7. A wyddoch chi beth ddigwyddodd? Dri diwrnod wedi hynny fe gododd Iesu o farw’n fyw! Wel dyna i chi beth yw syndod go iawn! (Dangoswch y llun o wyneb rhywun sydd wedi cael syndod.

    Erbyn hyn dydw i ddim yn dilyn Iesu yn y dirgel. Rydw i’n hapus iawn i ddweud wrth bawb fy mod yn ei ddilyn, ac yn falch o hynny.

Amser i feddwl

Rydyn ni’n meddwl mai dim ond trwy fod yn grefyddol a da y gallwn ni gael ein derbyn gan Dduw. Y newyddion da yn y Beibl yw bod Iesu yn hollol dda, ac fe ddaeth o’r nefoedd fel bod pawb sydd â ffydd ynddo ef yn gallu cael eu derbyn gan Dduw.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Iesu,
diolch i ti am adael y nefoedd a dod i’n daear ni.
Diolch i ti am egluro i Nicodemus sut y gallai gael ei dderbyn gan Dduw.
Diolch i ti am farw ar y groes er mwyn dangos i ni faint mae Duw’n ein caru ni.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon