Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Drysau Cyfle

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2012)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i weld pa mor bwysig yw cymryd y cyfle pan fydd cyfle’n cael ei gynnig iddyn nhw.

Paratoad a Deunyddiau

Llwythwch i lawr y lluniau sy’n cael eu rhestru yma. Os nad yw hynny’n bosibl, yna fe fyddai unrhyw luniau o ddrysau’n addas.
http://msbsclassblog.files.wordpress.com/2011/08/the-door.jpg
http://www.trekearth.com/gallery/photo1204245.htm
http://www.flickr.com/photos/peaceandhappiness/3778423036/

Gwasanaeth

  1. Eglurwch i’r plant eich bod, mewn munud, yn mynd i ddangos rhai lluniau iddyn nhw. Mae rhywbeth yr un fath yn y lluniau i gyd. 

    Dywedwch wrthyn nhw eich bod, cyn dangos y lluniau, eisiau i’r plant ddyfalu lluniau o beth sydd gennych chi. Rhowch gliwiau i awgrymu mai lluniau o ddrysau sydd gennych chi, er enghraifft:

    –  Fe alla i weld tri o’r rhai o ble rwy’n sefyll (newidiwch y nifer fel mae’n briodol). 
    –  Mae’r pethau hyn, yn aml, wedi’u gwneud o bren. 
    –  Mae Mr Jones yn eistedd yn ymyl un o’r rhain (newidiwch yr enw fel mae’n briodol). 

  2. Eglurwch i’r plant bod y lluniau maen nhw’n mynd i’w gweld, gennych chi, o ddrysau, a rhyw ddirgelwch yn perthyn iddyn nhw.

    Dangoswch lun pob drws yn ei dro, a gofynnwch i’r plant ddisgrifio beth maen nhw’n ei ddychmygu fydden nhw’n dod o hyd iddo pe bydden nhw’n agor y drws. Eglurwch nad oes atebion cywir ac anghywir; rydych chi’n syml eisiau i’r plant ddefnyddio’u dychymyg.

  3. Eglurwch fod y rhan fwyaf o’r drysau y byddwn ni’n mynd trwyddyn nhw yn gyfarwydd i ni. Rydyn ni’n gwybod beth y byddwn ni’n disgwyl ei weld yr ochr arall pan fyddwn ni’n mynd trwy ddrws ein dosbarth, trwy ddrws ein cartref, neu ddrws ein hystafell wely. Er hynny, mae drysau eraill yn ein bywyd y bydd pob un ohonom yn cael profiad o fynd trywddyn nhw. Mae’r drysau hyn yn cael eu galw’n ‘ddrysau cyfle’.

    Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gwybod beth tybed yw ‘drws cyfle’? Eglurwch ein bod i gyd yn cael cyfleoedd i roi cynnig ar bethau newydd.

    -  Efallai ein bod yn dechrau blwyddyn ysgol newydd, ac yn cael cyfle i ddod i adnabod athro neu athrawes newydd.
    -  Efallai ein bod yn cael cyfle i roi cynnig ar weithgaredd neu chwaraeon newydd, neu ddysgu sgil newydd.
    -  Efallai ein bod yn cael cyfle i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd.

  4. Eglurwch fod pob cyfle newydd a gawn ni fel drws. Fe allwn ni ddewis cadw’r drws ar gau a pheidio â chamu ymlaen a mynd trwyddo – hynny yw, fe allwn ni ddewis peidio â chymryd y cyfle sy’n cael ei roi i ni. Neu, fe allwn ni ddweud ‘iawn’ pan gawn ni’r cyfle. Mae dweud ‘iawn’ fel agor drws, a cherdded drwyddo, er mwyn cael profi beth bynnag sydd gan y cyfle newydd i’w gynnig i ni.

    Weithiau, fe fydd yr hyn gawn ni yr ochr arall i’r drws yn anodd, ac efallai y byddwn yn penderfynu nad ydyn ni’n hoffi beth sydd yno. Ond, o leiaf, fe fyddwn ni wedi cael profiad newydd i’w gario gyda ni ar gyfer gweddill ein bywyd.

  5. Bydd y flwyddyn ysgol sydd i ddod yn llawn o gyfleoedd newydd. Gadwech i ni gymryd pob cyfle gawn ni, a rhoi cynnig ar lawer o bethau newydd.

Amser i feddwl

Ydych chi’n cofio amser y gwnaethoch chi rywbeth newydd, am y tro cyntaf? Efallai mai eich diwrnod cyntaf yn yr ysgol oedd hwnnw, eich gwers nofio gyntaf, neu y tro cyntaf i chi reidio beic dwy olwyn.

Sut roeddech chi’n teimlo?

Efallai eich bod ychydig yn bryderus. Rhaid bod yn ddewr i roi cynnig ar rywbeth newydd – rhaid i chi fod yn ddigon dewr i gamu ymlaen a rhoi cynnig ar rywbeth, er eich bod yn ansicr beth fydd yn digwydd.

Beth am benderfynu y byddwch chi, yn ystod yr wythnos hon, yn rhoi cynnig ar un peth dydych chi erioed wedi’i wneud o’r blaen? (Fe allech chi annog y plant i roi gwybod i chi os byddan nhw’n llwyddo!)

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch am yr holl gyfleoedd gawn ni yn y byd.
Helpa ni i fod yn ddigon dewr bob amser i roi cynnig ar bethau newydd
ac i gymryd y cyfleoedd a gawn ni.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon