Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Eid Ul-Fitr

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl beth yw ystyr y geiriau ‘Eid ul-Fitr’, a thrwy hynny ddeall rhywbeth am wahanol agweddau ar yr wyl Fwslimaidd hon.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gwyl Fwslimaidd yw Eid ul-Fitr sy’n nodi diwedd Ramadan, y mis sanctaidd o ymprydio. Gall yr wyl barhau am un, dau, neu dri diwrnod. Mae’n dechrau pan ddaw’r lleuad newydd i’r golwg ym Mecca.
    Gair Arabeg yw Eid sy’n golygu ‘miri.
    Ystyr y gair Arabeg ul-Fitr yw ‘torri’r ympryd’. 
    Mae Eid mubarak yn golygu ‘miri bendigaid’, a dyna’r cyfarchiad cyffredinol y mae pobl yn ei ddefnyddio i gyfarch ei gilydd ar y dyddiau’r wyl.
  • Casglwch eitemau, neu luniau o eitemau, sy’n gysylltiedig â dathlu, er enghraifft, celyn, craceri, tân gwyllt, pedol, cerdyn pen-blwydd, canhwyllau, un rhosyn coch, jeli, pwdin Nadolig (gwelwch adran 1).
  • bwrdd gwyn / bysellfwrdd / PowerPoint: geiriau a’u hystyron, a brawddegau i’w rhoi mewn trefn (gwelwch adran 3 a 4).
  • Os yw hynny’n bosibl, ceisiwch help plant sy’n Fwslimiaid i egluro beth sy’n digwydd yn ystod yr wyl (gwelwch adran 4).
  • Casglwch nifer o eitemau sy’n gysylltiedig â gwyl Eid ul-Fitr - pecyn o ddatys, cerdyn Eid neu ddelwedd oddi ar y rhyngrwyd (llawer i’w cael ar YouTube, ond gwiriwch yr hawlfraint a’r cynnwys).
  • Papurau bach Stick-it neu Post-it, un ar gyfer pob plentyn ac aelod o staff.
  • (Dewisol) Datys: digon i allu rhoi un bob un i bawb yn y gynulleidfa, i’w bwyta (gwelwch y diweddglo yn yr adran ‘Amser i feddwl’).

Gwasanaeth

  1. Mae’r rhan fwyaf o bobl, ym mhob rhan o’r byd, yn hoffi dathlu. Mae’n bosibl eu bod yn dathlu gwahanol bethau ar wahanol ddyddiau ac mewn gwahanol ffyrdd. Ond fel arfer mae’r dathliad yn golygu llawenydd a hapusrwydd. 

    Naill ai chwaraewch y gêm: Dyfalwch y dathliad yn ôl yr eitem. (Dangoswch rai eitemau, fel y rhai sy’n cael eu hawgrymu yn yr ail bwynt bwled uchod.)

    Neu, nodwch a thrafodwch yn gryno: ar ba adegau y byddwn ni’n dathlu, sut y byddwn ni’n dathlu, gyda phwy y byddwn ni’n dathlu.

    Gofynnwch: Beth yw’r dathliad mwyaf rydych chi wedi bod yn rhan ohono? 

  2. Eglurwch fod pobl, ledled y byd, sy’n dilyn y ffydd Fwslimaidd yn dathlu gwyl o’r enw Eid ul-Fitr. Mae’r wyl hon yn cael ei chynnal unwaith y flwyddyn, ond nid ar yr un adeg bob blwyddyn, am fod gwyliau Mwslimaidd yn dibynnu ar y lleuad am eu dyddiadau. Eleni mae gwyl Eid ul-Fitr yn dechrau ar Awst 19. Fe fydd yr wyl yn parhau am un, dau, neu dri diwrnod.

  3. Ar y bwrdd gwyn dangoswch y geiriau Arabeg canlynol a’u hystyron:

    Eid - miri
    ul-Fitr - torri’r ympryd
    Eid mubarak - miri bendigaid.

    Eglurwch fod Mwslimiaid yn cyfarch ei gilydd ar yr wyl gyda’r geiriau Eid mubarak, sy’n golygu ‘miri bendigaid’ - yn debyg i’r cyfarchiad ‘Nadolig Llawen’.

    Ystyriwch y geiriau hyn, a gofynnwch i’r plant ddweud wrthych chi am beth mae’r geiriau’n gwneud iddyn nhw feddwl. Er enghraifft:

    Mae ‘Eid’ yn awgrymu hwyl, chwerthin, addurniadau (dangoswch gerdyn Eid).
    Mae ‘ul-Fitr’ yn cysylltu’r wyl hon â Ramadan, ac yn awgrymu bod bwyd yn rhan o’r dathliad. (Dangoswch y pecyn datys.)
    Ac mae’r gair ‘mubarak’ yn awgrymu bod yr wyl yn ymwneud â chrefydd a ffydd. 

  4. Y peth cyntaf sy’n digwydd ar ddiwrnod yr wyl yw bod miliynau o bobl yn codi y bore hwnnw cyn i’r haul godi, y union fel y gwnaethon nhw bob dydd am y 30 diwrnod blaenorol (yn ystod Ramadan). Ac yna, fe fydd pob un ohonyn nhw’n paratoi yn yr un ffordd yn union!

    (Rhestrwch y digwyddiadau canlynol yn eu trefn, gan ddefnyddio’r bwrdd gwyn. Os oes plant Mwslimaidd yn eich ysgol, defnyddiwch nhw i wneud yr ymarferiad hwn.)

    -  Maen nhw’n gweddïo ar Dduw, Allah.
    -  Maen nhw’n glanhau eu dannedd.
    -  Maen nhw’n ymolchi yn y gawod.
    -  Maen nhw’n gwisgo’u dillad gorau, neu ddillad newydd, a phersawr.
    -  Maen nhw’n adrodd gweddi Eid arbennig.
    -  Maen nhw’n cael brecwast ysgafn, yn aml gyda’r ffrwythau datys.
    -  Maen nhw’n mynd i’r mosg ar gyfer gweddïau boreol arbennig.
    -  Maen nhw’n cyfarch aelodau eu teulu a’u ffrindiau, ac yn rhannu pryd o fwyd gyda’i gilydd.

    Mae’r Eid ul-Fitr yn wir yn ddathliad cymunedol. Felly, mae’r bobl yn treulio’u hamser yn ymweld â’i gilydd, yn bwyta, ac yn cael hwyl fawr a chwerthin.

  5. Yn ystod yr Eid ul-Fitr, mae Mwslimiaid, nid yn unig yn dathlu diwedd yr ymprydio, ond hefyd yn diolch am yr help a’r nerth gawson nhw gan Allah i ymarfer hunanreolaeth trwy eu cyfnod o ymprydio yn ystod y mis blaenorol, mis Ramadan. 

  6. Yn ystod Ramadan, roedd y Mwslimiaid yn ystyried y math o fywyd roedden nhw wedi bod yn ei fyw, ac yn holi eu hunain: 

    Fuon nhw’n feddylgar tuag at bobl eraill yn eu teulu ac yn y gymuned ehangach?

    Wnaethon nhw faddau i’r unigolyn hwnnw a wnaeth gam â nhw?

    Mae eu llyfr sanctaidd, y Qur’an, yn dweud wrthyn nhw mai dyna sut y dylen nhw fod yn byw. Felly, gyda’r wyl hapus, yr Eid ul-Fitr daw hefyd amser i ddweud sori wrth y naill a’r llall, a chymodi. Caiff y bobl eu hannog i faddau ac anghofio unrhyw anghydfod a chwynion sydd wedi bod ganddyn nhw yn erbyn rhywun yn ystod y flwyddyn. Dyma reswm arall pam fod Eid ul-Fitr yn adeg o lawenydd mawr yn y gymuned Fwslimaidd.

Amser i feddwl

Efallai y gallwn ni ddefnyddio’r amser hwn i feddwl am unrhyw genfigen neu ddicter y gallwn ni fod yn ei ddal yn erbyn rhywun rydyn ni’n ei adnabod.

Rydyn ni’n mynd i ddefnyddio’r papurau bach Post-it rydych chi wedi’u cael i’ch helpu chi gyda hyn. (Gofalwch bod yr oedolion sy’n bresennol yn cael un bob un hefyd.) Nawr, mae eisiau i bob un ohonom ni feddwl am rywun y dylen ni faddau iddo ef neu hi. Efallai mai ffrind neu rywun yn eich teulu fydd hwnnw neu honno, neu oedolyn arall o bosib. Dychmygwch wedyn eich bod chi’n ysgrifennu ar y papur bach yr hyn mae’r unigolyn hwnnw wedi’i wneud i frifo’ch teimladau neu wneud i chi fod yn ddig.

Pan fyddwch chi’n barod i faddau, gwasgwch y papur bach yn belen a’i ollwng yn y bin wrth i chi fynd allan o’r gwasanaeth. Yna, fe allwch chi deimlo eich bod yn mynd oddi yno gyda chalon ysgafnach.

Gweddi
Diolch am ddathliadau,
diolch am yr adegau hapus y byddwn ni’n eu treulio gyda’r bobl rydyn ni’n eu caru.
Bendithia’r rhai sy’n mwynhau diwedd y cyfnod o ymprydio.
Gad i’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu ddod â llawenydd iddyn nhw, a maddeuant, a theimlad o fod yn hapus yn eu cymuned.

Gweithgaredd wrth Ymadael

Diweddu’r gwasanaeth

Cyfarchwch bawb wrth iddyn nhw ymadael gyda’r cyfarchiad Eid mubarak.

Gweithgaredd diweddglo

Fe allech chi gynnig y ffrwythau datys i’r plant wrth iddyn nhw ymadael â’r gwasanaeth (ond gofalwch nad oes carreg neu hedyn caled yn y ffrwythau, a byddwch yn ymwybodol y gallai rhai plant fod ag alergedd). Mae’n bosibl na fydd rhai wedi blasu’r ffrwyth hwn o’r blaen.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon