Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Byd Duw

Meddwl am ein cyfrifoldeb tuag at y byd.

gan David Bennie

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am ein cyfrifoldeb tuag at y byd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r darlleniad o’r Beibl i’w gael yn Genesis 1.26 (gwelwch adran 2).

Gwasanaeth

  1. Sut rydyn ni’n gweld Duw o’n cwmpas ni heddiw?

    Gallai’r ymateb gewch chi i’r cwestiwn fod fel a ganlyn: gyda’n dychymyg – dim nes byddwn ni wedi marw – trwy feddwl amdano – yn ein breuddwydion.

    Fe allech chithau ychwanegu: wrth weddïo – trwy edrych at fyd natur – yng ngweithredoedd pobl dda – wrth i ni garu a gofalu am bobl mewn angen – trwy ddarllen gair Duw, y Beibl. 

  2. Beth yw enw llyfr cyntaf y Beibl?

    Mae penodau cyntaf y Beibl yn dweud wrthym ni fod Duw wedi creu’r byd, ac fe greodd ddynion a merched a gofalu amdanyn nhw. Beth mae hyn yn ei ddweud am Dduw?

    Ym mhennod gyntaf y Beibl, cawn wybod hyn: Dywedodd Duw, ‘Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni, i lywodraethu ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ar yr anifeiliaid gwyllt, ar yr holl ddaear, ac ar bopeth sy’n ymlusgo ar y ddaear’ (Genesis 1.26).

    Mae Duw wedi rhoi’r cyfrifoldeb arnom ni i ofalu am ei fyd.

  3. Gan bwy mae anifail anwes? (Dwylo i fyny)
    Pa anifail anwes sydd gennych chi? 
    Pwy sy’n gofalu am eich anifail anwes?
    Rydych chi’n caru eich anifail anwes, mae’n debyg? 
    Mae Duw eisiau i ni ofalu am ein hanifeiliaid anwes a’u caru. 

  4. Mae Duw eisiau i ni ofalu am ei greadigaeth gyfan, hynny yw, am y byd cyfan. 
    Mae Duw eisiau i ni ofalu am ein gilydd, am ein hanifeiliaid anwes, y mannau rydyn ni’n byw ynddyn nhw, ein hysgol, ac am bethau ym mhob man.

Amser i feddwl

Meddyliwch am eich atebion i’r cwestiynau hyn. 

Sut y gallwch chi ddangos heddiw eich bod y gofalu:

–  pan fyddwch chi yn yr ysgol (saib)
–  pan fyddwch chi’n chwarae ar iard yr ysgol (saib)
–  pan fyddwch chi gartref, gyda’ch teulu (saib) 
–  pan fyddwch chi’n chwarae y tu allan i’ch cartref (saib) 
–  pan fyddwch chi yn y gymuned, yn y siopau, yn y parc?

(Saib)

Gweddi

Diolch, Arglwydd, dy fod ti wedi creu lle mor hyfryd i ni fyw ynddo.
Rydyn ni’n gweddïo, Arglwydd, y byddwn ni’n gallu
cyflawni’r ymddiriedaeth rwyt ti wedi’i rhoi ynom ni i ofalu am dy fyd di.
Helpa ni i garu’r rhai sydd o’n cwmpas a gofalu amdanyn nhw,
yn agos ac ymhell.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon