Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Raksha Bandhan

Meddwl am berthynas brodyr a chwiorydd gan gyfeirio at yr wyl Hindwaidd, Raksha Bandhan.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am berthynas brodyr a chwiorydd gan gyfeirio at yr wyl Hindwaidd, Raksha Bandhan.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gwyl symudol yw Raksha Bandhan, sy’n cael ei chynnal yn ystod mis Shravan, fel arfer ym mis Awst (er mwyn cael dyddiadau gwyliau crefyddol a dyddiau sanctaidd am y tair blynedd nesaf, edrychwch ar:  www.bbc.co.uk/religion/tools/calendar/).
  • Fe fydd arnoch chi angen breichled (neu wats) sydd o werth sentimental i chi, i’w dangos ar ddechrau’r gwasanaeth. Neu, fe allech chi gyflwyno’r thema gyda breichledau cyfeillgarwch neu fandiau elusen sy’n cael eu gwisgo am yr arddwrn.
  • Fe allech chi wahodd plant sydd o deuluoedd sy’n dilyn y ffydd Hindwaidd i egluro traddodiadau ac arwyddocâd yr wyl hon, ac i ddangos breichled rakhi (‘edau sanctaidd’). Neu, o bosib, fe allech chi brynu rakhi yn lleol, neu oddi ar y rhyngrwyd.
  • Mae’n bosib i chi hefyd ddod o hyd i luniau ar y rhyngrwyd o deuluoedd yn dathlu’r wyl, ac yn clymu rakhi (os yw telerau hawlfraint yn caniatáu).
  • (Dewisol) Paratowch rai plant i ddarllen datganiadau sy’n cadarnhau’r cwlwm teuluol (gwelwch adran 5).
  • Os yw’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddefnyddio yn ystod wythnos olaf y flwyddyn ysgol, fe allech chi gyflwyno bandiau cyfeillgarwch wedi’u llunio yn lliwiau’r ysgol, i bob plentyn sy’n ymadael (gwelwch adran 6).

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y gwasanaeth trwy ddangos y freichled neu’r wats sydd gennych chi, a sôn am ei gwerth sentimental i chi. Pwy roddodd y freichled neu’r  wats i chi? Pa gwlwm cyfeillgarwch mae hi’n ei gynrychioli? 

    Neu, dangoswch y gwahanol freichledi cyfeillgarwch a bandiau elusen sydd gennych chi. Eglurwch eu harwyddocâd – eu bod yn cael eu prynu a’u gwisgo i ddangos eich bod yn cefnogi achosion da ac ymgyrchoedd. Cyfeiriwch at yr arfer o wneud a chyfnewid breichledau a bandiau cyfeillgarwch. 

  2. Mae’r wyl, Raksha Bandhan, sy’n cael ei dathlu mewn cymunedau Hindwaidd ledled y byd (a rhai cymunedau Sikh hefyd), yn adeg arbennig pan fydd brodyr a chwiorydd yn dangos cariad a gofal tuag at y naill a’r llall.

    Os oes rhai yn y gwasanaeth sy’n dilyn y ffydd Hindwaidd, gwahoddwch nhw i ddisgrifio rhai o draddodiadau a seremonïau eu cartref.

    Fe fydd chwaer yn clymu breichled liwgar, o’r enw rakhi, am arddwrn de ei brawd. Mae hyn yn cynrychioli ei chariad tuag at ei brawd a’i gweddïau drosto. Mae’n golygu y bydd hi bob amser yn gweddïo y bydd Duw’n cadw ei brawd yn ddiogel. Mae’n defnyddio powdr coch i roi nod ar dalcen ei brawd. Dyma arwydd o fendith, sy’n cael ei alw’n tilak.

    Yn gyfnewid am hynny, fe fydd y brawd yn addo gofalu am ei chwaer, a’i gwarchod trwy gydol ei bywyd. Ac mae’n rhoi rhodd o arian neu emwaith iddi.

    Hefyd fe fyddan nhw’n rhoi melysion i’r naill a’r llall i’w bwyta.

    Os oes merch heb frawd, yna fe fydd yn rhoi rakhi i gefnder neu ffrind, cyn belled â’i fod ef yn barod i wneud yr un ymrwymiad gydol oes.

    Ystyr y gair raksha yw ‘amddiffyn’, ac ystyr bandhan yw ‘clymu’. Gwyl yw Raksha Bandhan sy’n cryfhau cwlwm teuluol. Fe fydd llawer o ferched yn anfon rakhi i frodyr sy’n byw ymhell oddi wrthyn nhw.

  3. Mae nifer o storïau’n egluro sut y dechreuodd yr wyl boblogaidd hon.

    Mae un yn sôn am ryfel ffyrnig rhwng y da a’r drwg, pan oedd y brenin drwg, Bali, yn ymladd yn erbyn Indra, brenin y duwiau. Cafodd Indra ei yrru allan o’i deyrnas, ac roedd yn ofni y byddai’n cael ei drechu. Ond fe wnaeth ei wraig, Indrani, weddïo am help. Rhoddodd yr Arglwydd Vishnu freichled sidan iddi i’w rhoi am arddwrn Indra. Fe addawodd Vishnu iddi y byddai’r freichled yn cadw Indra’n ddiogel. Ac fe gadwyd yr addewid. Pan fu Indra a Bali’n ymladd wedyn, fe wnaeth y freichled arbed bywyd Indra. Fe gafodd y bobl ddrwg eu trechu, ac fe enillodd Indra ei deyrnas yn ôl.

  4. Os yw hynny’n briodol, cyfeiriwch at y gwyliau ysgol. Fe fydd plant yn treulio amser gartref gyda’u brodyr a’u chwiorydd. Nid yw hyn yn hawdd bob amser. Weithiau fe fydd brodyr a chwiorydd yn cweryla neu’n genfigennus o’i gilydd. Mewn bywyd teuluol, rhaid i ni ddysgu bod yn amyneddgar a cheisio deall ein gilydd.

    Gwahoddwch gymuned yr ysgol i feddwl sut mae’n bosibl iddyn nhw ofalu am y naill a’r llall yn ystod gwyliau’r ysgol. Beth allan nhw’i wneud i gadw’r naill a’r llall yn ddiogel? Trafodwch pa mor bwysig yw cadw’n ddiogel ar y ffordd fawr a pheidio â chwarae mewn mannau peryglus.

  5. Trafodwch wedyn bod rhai plant yn gwybod peth mor anodd yw cael eich gwahanu oddi wrth eich brawd neu eich chwaer. Gwahoddwch aelodau o gymuned yr ysgol i gadarnhau cwlwm teuluol gyda brawddegau fel: ‘Rydw i’n gwerthfawrogi fy mrawd, oherwydd . . .’; ‘Rydw i’n gwerthfawrogi fy chwaer, oherwydd . . .’ (Fe fyddai’n bosibl i chi baratoi’r cyfraniadau hyn o flaen llaw, neu ddibynnu ar ymatebion digymell.) 

  6. Cyfeiriwch at y rhai sy’n mynd i symud ymlaen i ysgolion eraill. Fe all cefnogaeth a gweddïau brodyr, chwiorydd a ffrindiau olygu llawer iawn iddyn nhw. (Fe fyddai’n bosibl cyflwyno breichledau ar y pwnt hwn i’r rhai sy’n ymadael.) 

  7. Diweddwch y gwasanaeth gyda’r syniad bod Raksha Bandhan yn dangos i ni sut mae credu yn Nuw, a gofalu am ein gilydd. Mae’n gallu ein clymu gyda’n gilydd a’n gwneud ni’n gryf, waeth pa ffydd rydyn ni’n ei dilyn. 

Amser i feddwl

Byddwch yn ddiolchgar am gwlwm teuluol.

Gweddïwch am fendith Duw, a’i ofal am y rhai hynny sy’n agos atoch chi.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon