Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Janmashtami

Canolbwyntio ar yr wyl Hindwaidd, Janmashtami, a nodi pa mor bwysig yw croeso.

gan Alan Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Canolbwyntio ar yr wyl Hindwaidd, Janmashtami, a nodi pa mor bwysig yw croeso.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gwasanaeth hwn yn addas ar gyfer dechrau blwyddyn ysgol newydd.
  • Fe fydd arnoch chi angen delwedd o Krishna i’w harddangos. Krishna oedd yr avatar, neu’r ffurf ddynol o’r duw Hindwaidd Vishnu.
  • Efallai yr hoffech chi baratoi grwp o blant i feimio neu i adrodd y stori (gwelwch rhif 4). Fe fydd arnoch chi hefyd eisiau darn byr o gerddoriaeth ffliwt i’w chwarae yn ystod yr ‘Amser i feddwl’.

Gwasanaeth

  1. Soniwch ei bod hi’n arferiad yn aml gan lawer o gymunedau ffydd i ddathlu genedigaeth proffwydi a duwiau sy’n bwysig yn eu golwg. Mewn gwyl o’r enw Janmashtami, mae pobl sy’n dilyn y ffydd Hindwaidd yn dathlu pen-blwydd yr Arglwydd Krishna. 

    Mae’r dyddiad pan fyddan nhw’n dathlu yn amrywio, ond yn digwydd fel arfer tua diwedd yr haf, rywbryd rhwng canol mis Awst a chanol mis Medi. 

  2. Dangoswch ddelwedd o Krishna. Un ystyr i’w enw yw ‘glas tywyll’. Felly, dyma pam y mae’n aml yn cael ei ddarlunio â chroen glas.

    Mae Krishna’n canu’r ffliwt, offeryn cerdd sy’n cael ei gysylltu â llawenydd, heddwch a chytgord.

  3. Eglurwch fod yr Hindwiaid yn credu bod Krishna wedi cael ei eni am hanner nos. Felly, fe fyddan nhw’n dathlu Janmashtami yn eu teml (neu’r mandir), trwy ganu caneuon traddodiadol (bhajans) nes y bydd hi’n hwyr yn y nos. Fe fyddan nhw’n dawnsio ac yn cyflwyno offrymau.

    Fe fydd delw o’r baban Krishna’n cael ei ymolchi a’i gosod mewn crud dan orchudd. Ar hanner nos, fe fydd y gorchudd yn cael ei dynnu. Yna, fe fyddan nhw’n canu clychau. Mae pawb yn falch o gael rhoi croeso i Krishna.

    Wedi hynny, fe fyddan nhw’n rhannu hoff fwydydd.

    Ambell dro, fe fydd stori bywyd Krishna’n blentyn yn cael ei hadrodd ar ffurf dramâu syml.

  4. Krishna

    Brenin drwg ofnadwy oedd Kamsa.

    Roedd llais wedi dweud wrtho am fod yn ofalus. Roedd y llais wedi dweud y byddai wythfed plentyn ei chwaer yn ei ladd.

    Roedd Kamsa mor ofnadwy o ddig am hyn ac mor genfigennus f e benderfynodd garcharu ei chwaer, Devaki, a’i gwr Vasudeva. Ac os bydden nhw’n cael plant, roedd y brenin drwg ac ofnadwy Kamsa yn trefnu i rywun ladd y babanod.

    Ond, roedd yr Arglwydd Vishnu wedi gweld o’r nefoedd beth oedd yn digwydd.

    Ymhen amser, fe gafodd wythfed plentyn Devaki ei eni – bachgen bach! Ond doedd hwn ddim yn fabi bach cyffredin. Ei enw oedd Krishna. Roedd yr Arglwydd Vishnu wedi dod i lawr o’r nefoedd i achub y byd rhag drygioni.

    Roedd yr awyr a’r ddaear yn llawenhau. O’r diwedd roedd yno heddwch a hapusrwydd. 

    Fe helpodd y Duwiau Vasudeva i ddianc o’r carchar heibio’r ceidwaid. Ac, yn ddewr iawn, fe gariodd y baban Krishna ar draws afon lydan i wlad arall lle cawson nhw groeso gan fugail gwartheg caredig a’i wraig. Gadawyd Krishna yno gyda nhw, lle cafodd ei fagu yn eu gofal. Roedd yn ddiogel yno.

    Aeth Vasudeva yn ôl at Devaki gyda babi bach a oedd yn ferch i’r bugail gwartheg a’i wraig. Ond roedd hi’n dduwies, ac felly roedd hi’n ddiogel. Pan geisiodd y brenin Kamsa ei lladd hi, fe hedfanodd hi yn ôl i’r nefoedd.

    Wrth iddo dyfu, fe ddaeth Krishna’n ffrindiau gyda bechgyn a merched eraill a oedd yn gofalu am y gwartheg. Roedd wrth ei fodd yn eu cwmni ac fe fyddai wrth ei fodd yn canu ei ffliwt.

Amser i feddwl

Chwaraewch ddarn byr o gerddoriaeth ffliwt.

Gofynnwch i’r plant feddwl am y stori ac am y croeso a gafodd Krishna.

Anogwch y plant i ystyried beth allan nhw’i wneud i groesawu plant a phobl eraill ar ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd hon.

Sut deimlad yw bod yn rhywun newydd mewn ysgol, efallai eich bod yn un o’r plant ieuengaf, neu wedi dod yno o le arall, o bell?

Ym mha ffordd y mae’n bosib gwneud yr ysgol yn lle diogel a chyfeillgar? 

Gweddi
Dyma ein hysgol.
Gad i heddwch breswylio yma.
Gad i’r ystafelloedd fod yn llawn bodlonrwydd.
Gad i gariad drigo yma.
Cariad y naill at y llall.
Cariad tuag at ddynoliaeth.
Cariad tuag at fywyd ei hun.
A chariad Duw.

    (Addasiad i waith Anhysbys)

Efallai y byddai’n well gan rai ddefnyddio’r addasiad hwn:

Dyma ein hysgol.
Gad i heddwch fyw yma.
Gad i’r ystafelloedd fod yn llawn cyfeillgarwch.
Gad i ni rannu cariad.
Cariad y naill at y llall.
Cariad at yr holl ddynoliaeth.
Cariad at ddysgu
A chariad at fywyd ei hun.

   (addasiad Alan Barker wedi’i gyfieithu) 

 

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon