Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Agorwch Eich Ceg I Flasu; Agorwch Eich Llygaid I Weld...

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ein hannog i fod yn ddiolchgar am y pethau rydyn ni’n gallu eu blasu a’u gweld.

Paratoad a Deunyddiau

  • Deg o wahangleifion
    ‘Yr oedd ef, ar ei ffordd i Jerwsalem, yn mynd trwy’r wlad rhwng Samaria a Galilea, ac yn mynd i mewn i ryw bentref, pan ddaeth deg o ddynion gwahanglwyfus i gyfarfod ag ef. Safasant bellter oddi wrtho a chodi eu lleisiau arno: “Iesu, feistr, trugarha wrthym.” Gwelodd ef hwy ac meddai wrthynt, “Ewch i’ch dangos eich hunain i’r offeiriaid.” Ac ar eu ffordd yno, fe’u glanhawyd hwy. Ac un ohonynt, pan welodd ei fod wedi ei iachau, a ddychwelodd gan ogoneddu Duw â llais uchel. Syrthiodd ar ei wyneb wrth draed Iesu gan ddiolch iddo; a Samariad oedd ef. Atebodd Iesu, “Oni lanhawyd y deg? Ble mae’r naw? Ai’r estron hwn yn unig a gafwyd i ddychwelyd ac i roi gogoniant i Dduw? Yna meddai wrtho,  “Cod, a dos ar dy hynt; dy ffydd sydd wedi dy iachau di.”’ (Luc 17.11–19)
  • Am yr athrawiaeth Feiblaidd ynghylch agor ein llygaid a’n ceg, gwelwch Salm 34.8.
  • Fe fydd arnoch chi angen grawnwin (gwelwch rhif 2).
  • Fe fydd arnoch chi angen cerddoriaeth (gwelwch rhif 3 a’r adran ‘Amser i feddwl’).
  • Hefyd, fe fydd arnoch chi angen bwrdd gwyn a phin ffelt (gwelwch rhif 2 a rhif 3).
    Byddwch yn ofalus gyda’r grawnwin – ystyriwch y perygl posib y gallai plentyn dagu wrth eu bwyta.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant fod y gwasanaeth hwn yn ymwneud â’r peth pwysicaf un. Mae’r Beibl yn dweud wrthym am agor ein ceg a blasu, ac agor ein llygaid a gweld pa mor dda yw Duw. Felly, gadewch i ni flasu rhywbeth, a gweld rhywbeth.

  2. Gofynnwch am ddau wirfoddolwr. Rhowch ychydig o rawnwin i bob un. Edrychwch faint o’r grawnwin y bydd y ddau’n gallu eu dal (yn ddelfrydol, yn eu dwylo, er y gallech chi ofyn iddyn nhw geisio’u dal a’u ceg, ond byddwch yn ofalus iawn) trwy eu taflu i’r awyr a’u dal. Os ydych chi’n gallu dangos iddyn nhw gyntaf sut i wneud byddai hynny’n syniad da! Wrth reswm, os bydd y grawnwin yn disgyn ar lawr, peidiwch â gadael i’r plant eu bwyta!

    Gofynnwch:  Beth mae pobl yn hoffi ei fwyta? (Nodwch yr awgrymiadau ar y bwrdd gwyn.)

  3. Gofynnwch am ddau wirfoddolwr sy’n gallu cadw’u llygaid ar agor am amser hir heb ‘blincio’. Chwaraewch gerddoriaeth tra byddwch chi a’r gynulleidfa’n cadw golwg ar y ddau. Pa mor hir y byddan nhw’n gallu cadw eu llygaid ar agor?

    Gofynnwch i’r plant: Beth ydych chi’n gallu ei weld yn y neuadd hon, neu’r dosbarth hwn, sy’n rhodd gan Dduw? (Eto, lluniwch restr ar y bwrdd gwyn.) 

    Beth ydych chi’n gallu ei weld y tu allan, sy’n rhodd gan Dduw? (Lluniwch restr arall.) 

  4. Darllenwch stori’r Deg o wahangleifion o Efengyl Luc 17.12–19 (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’ er mwyn cael y stori). Neu, adroddwch y stori yn eich geiriau eich hun.

    Pwysleisiwch sut mae’r stori’n dangos mai’r UN hwnnw a ddaeth yn ei ôl i ddweud diolch oedd yr unig un i gael ei wella’n iawn – dim ond hwnnw gafodd iachâd gwirioneddol.

Amser i feddwl

Gweddi

Gan ddefnyddio’r rhestrau rydych chi wedi’u hysgrifennu ar y bwrdd gwyn, arweiniwch y plant mewn gweddi o ddiolchgarwch yn ôl y ffurf ganlynol:

Arweinydd  Am . . .

Plant  Diolch i ti, Dduw.

Arweinydd  Am . . .

Plant  Diolch i ti, Dduw.

(Efallai yr hoffech chi chwarae cerddoriaeth yn y cefndir.)

Gweddi derfynol

Agor ein ceg fel y gallwn flasu,

agor ein llygaid fel y gallwn weld

yr holl roddion rwyt ti’n eu rhoi i ni, Arglwydd.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon