Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gweld Bai

Helpu’r plant i feddwl am sut y gall eu gweithredoedd effeithio ar bobl eraill.

gan Chris Ruddle

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i feddwl am sut y gall eu gweithredoedd effeithio ar bobl eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Barnu eraill
    ‘Peidiwch â barnu rhag i chi gael eich barnu; oherwydd fel y byddwch chwi’n barnu y cewch chwithau eich barnu, ac â’r mesur a rowch y rhoir i chwithau. Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu sut y dywedi wrth dy gyfaill, ‘Gad i mi dynnu allan y brycheuyn o’th lygad di,’ a dyna drawst yn dy lygad dy hun? Ragrithiwr, yn gyntaf tyn y trawst allan o’th lygad dy hun, ac yna fe weli yn ddigon eglur i dynnu’r brycheuyn o lygad dy gyfaill.’ (Mathew 7.1–5)
  • Fe fydd arnoch chi angen darn o foncyff pren, dau liain sychu llestri neu ddau sgarff i fod yn fwgwd, cadeiriau o gwmpas y neuadd.

 

Gwasanaeth

  1. Gosodwch y cadeiriau fel cwrs ras rwystrau.

    Dewiswch un o’r plant hynaf i ddod ymlaen - rhywun sy’n gwybod y gwahaniaeth rhwng y chwith a’r dde, ac sy’n barod i ymlwybro’r cwrs gyda mwgwd am ei lygaid. Gofynnwch i athro ddod i roi cyfarwyddiadau ar lafar i’r gwirfoddolwr sut i deithio o gwmpas y rhwystrau.

    Hanner ffordd drwy’r broses, rhowch fwgwd am lygaid yr athro hefyd, a newidiwch rai pethau oedd ar y llwybr. Yn awr, fydd yr athro ddim yn gallu rhoi cystal cyfarwyddiadau.

  2. Holwch y plant, a oedd hi’n haws i’r athro roi cyfarwyddiadau cyn cael y mwgwd neu ar ôl iddo gael y mwgwd?

    Nodwch ein bod ni weithiau’n ceisio rhoi cyngor i bobl eraill, a ninnau ddim yn gwybod llawer ein hunain. 

  3. Yn fyr, adroddwch y stori o’r Beibl, a adroddodd Iesu yn ei Bregeth ar y Mynydd – y stori am yr unigolyn oedd â sbecyn bach o lwch yn ei lygad a’r unigolyn arall oedd â darn o foncyff coeden yn ei lygad!  

    Bydd dangos darn o bren i’ch cynulleidfa’n ychwanegu rhywfaint o hiwmor i’ch cyflwyniad. (Gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’ er mwyn cael y stori Feiblaidd.) 

  4. Adroddwch stori arall i’r plant fel, a ganlyn (fe allech chi newid yr enwau i rai a fyddai’n briodol i’w defnyddio yn eich ysgol chi).

    Doedd Rhodri ddim yn hoffi mynd i’r ysgol.

    Roedd pob diwrnod yr un fath. Bob dydd, fe fyddai rhywun yn gas wrtho, ac roedd Rhodri’n meddwl nad ei fai o oedd hynny.

    Wrth iddo gyrraedd yr ysgol un bore, meddyliodd Rhodri, ‘Mae heddiw’n mynd i fod yr un fath â phob diwrnod arall, mae’n debyg, diflas, diflas, diflas.’

    Yn ystod egwyl y bore, roedd Sara ac Owain yn chwarae pêl-droed. Roedd ganddyn nhw bêl newydd sbon. Roedd hi’n edrych yn un dda. Aeth Rhodri at y ddau a gofyn am gael chwarae gyda nhw. Edrychodd Sara ac Owain ar ei gilydd gyda golwg bryderus braidd.

    ‘Na,’ meddai Sara. ‘Mae hon yn bêl newydd, a dydyn ni ddim eisiau ei difetha.’

    Roedd Rhodri’n ddig iawn pan glywodd hyn, ac fe afaelodd yn y bêl a’i thaflu â’i holl egni, dros y ffens, i ardd y ty oedd yn ymyl yr ysgol.

    Amser cinio, edrychodd Rhodri yn ei focs bwyd. Doedd dim o’i le ar gynnwys ei focs, roedd ganddo frechdanau ham ac iogwrt. Ond teimlai Rhodi fod rywbeth felly i ginio ddydd ar ôl dydd braidd yn ddiflas. Eisteddodd wrth y bwrdd cinio yn ymyl Huw. Roedd Rhodri’n hoffi cwmni Huw.

    Edrychodd Rhodi i mewn i focs bwyd Huw. Roedd ganddo fisged siocled. ‘Alla i gael dy fisged siocled di Huw?’ gofynnodd Rhodri iddo.

    ‘Dydyn ni ddim i fod i roi ein bwyd i blant eraill. Rwyt ti’n gwybod hynny’n iawn, Huw. Mae’r prifathro wedi dweud.’

    Roedd Rhodri’n ddig eto, ac fe roddodd gic egr i Huw yn ei figwrn o dan y bwrdd, pan oedd neb yn edrych, ac fe aeth oddi wrtho mewn tymer ddrwg.

    Yn y pnawn, roedd y dosbarth yn cael prawf sillafu. Doedd Rhodri ddim wedi gwneud ei waith cartref, ac roedd yn pryderu rhywfaint. Roedd yn falch bod yr athrawes wedi ei roi i eistedd yn ymyl Cai. Roedd Cai yn dda am sillafu’n gywir. ‘Gaf i weld dy atebion di, Cai?’ gofynnodd Rhodri iddo, gan ddweud wedyn, ‘Os na chaf i, fe fydda i mewn trwbl eto.’

    Dywedodd Cai wrtho, ‘Pam dylwn i dy helpu di? Rwyt ti bob amser yn gas wrth bawb. Ac fe guddiodd Cai ei bapur â’i fraich.

    Cydiodd Rhodri ym mhapur Cai a’i rwygo’n ddarnau ....

    Ar ddiwedd y pnawn, roedd Rhodri’n sefyll y tu allan i ddrws ystafell y prifathro.

    ‘Wel, Rhodri, beth sy’n bod?’ gofynnodd y prifathro iddo.

    ‘Roedd Sara ac Owain yn gwrthod gadael i mi chwarae efo nhw. Doedd Huw ddim eisiau rhannu efo fi. Doedd Cai ddim yn fodlon fy helpu gyda fy ngwaith dosbarth. Mae pawb yn fy nghasáu i.’

  5. Beth roedd Rhodri wedi anghofio’i ddweud, pan oedd yn siarad gyda’r prifathro?

    Ydych chi’n meddwl, petai Rhodri wedi ymddwyn yn wahanol, y byddai’r plant eraill wedi ei hoffi ychydig bach yn well?

Amser i feddwl

Gyda’ch llygaid wedi’u cau, meddyliwch am rywun rydych chi wedi cweryla ag ef neu hi.

Mae’n debyg ei fod yn beth digon hawdd meddwl beth mae’r unigolyn hwnnw wedi ei wneud o’i le, ond treuliwch foment yn meddwl am y camgymeriadau y gallech chi fod wedi eu gwneud.

Yn aml iawn, mae’n haws gweld bai ar rywun arall na sylweddoli beth yw ein beiau ni ein hunain.

Gweddi
Annwyl Dduw,
helpa fi i faddau i fy ffrindiau pan fyddan nhw’n brifo fy nheimladau.
Helpa fi hefyd i ddeall beth fyddaf i’n ei wneud o’i le
pan fydd teimladau fy ffrindiau wedi cael eu brifo
oherwydd y pethau y byddaf i’n eu gwneud.  

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon