Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Paryushan

Ystyried gwyl y grefydd Jain, sef gwyl Paryushan.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried gwyl y grefydd Jain, sef gwyl Paryushan.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen casgliad o wrthrychau sy’n cynrychioli gwahanol fathau o dywydd. Er enghraifft: 
    sbectol haul, bwced a rhaw 
    ymbarél, dillad glaw (cot a het law)
    sgarff, menig a het gynnes
    sled, esgidiau glaw
    melin wynt, barcut
  • Dangoswch arwyddair yr ysgol ar y bwrdd gwyn, neu ar PowerPoint.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch bob un o’r eitemau sydd gennych chi, fesul un, a gofynnwch i’r plant awgrymu ym mha fath o dywydd y bydden nhw’n defnyddio’r gwahanol bethau. 

    Gofynnwch i rai o’r plant ddod atoch chi i’r tu blaen, a dal yr eitemau i lawr wrth eu hochr. Eglurwch eich bod yn mynd i chwarae gêm pryd y byddwch chi’n galw gwahanol fathau o dywydd. Wrth i chi alw, rydych chi eisiau i’r plant sy’n dal y gwahanol eitemau godi neu wisgo’r eitem briodol, neu actio rhan. Er enghraifft: 
    –  os ydych chi’n galw ‘haul’, fe fydd un plentyn yn gwisgo’r sbectol haul, ac un arall yn actio tyllu yn y tywod gyda’r rhaw ac yn llenwi’r bwced;
    –  os ydych chi’n galw ‘eira’, fe fydd un plentyn yn gwisgo’r esgidiau glaw, ac un arall yn actio mynd ar y sled;
     os ydych chi’n galw ‘glaw’, fe fydd un plentyn codi ei ymbarél, ac un arall yn gwisgo’r got law neu’r het law;
    –  os ydych chi’n galw ‘gwynt’, fe fydd un plentyn chwythu’r felin wynt ac yn gwneud iddi droi, ac un arall yn ceisio hedfan y barcut;
    –  os ydych chi’n galw ‘rhew’, fe fydd un plentyn gwisgo’r het gynnes a’r sgarff, ac un arall yn gwisgo menig.

    Ail adroddwch y geiriau am y tywydd mewn trefn wahanol fel y bydd yn rhaid i’r plant ymateb yn gyflym. Fe allech chi ofyn i weddill y gynulleidfa feimio’r symudiadau ar yr un pryd a’r plant sydd yn y tu blaen, wedyn, hefyd. 

    Neu fe allech chi ofyn i un o’r plant alw’r gwahanol fathau o dywydd yn eich lle chi. 

  2. Holwch y plant a oes unrhyw un wedi clywed am y ‘tymor glawog’. Eglurwch ein bod ni yn y wlad hon, yn debygol o gael glaw ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Ond mewn rhai rhannau o’r byd, dim ond am ychydig  wythnosau y bydd hi’n bwrw glaw. Fe fydd hi’n bwrw glaw yn drwm am gyfnod byr, ond mae hi’n hollol sych am weddill y flwyddyn.

    Holwch y plant ydyn nhw’n gallu meddwl pa fath o broblemau allai digwydd mewn gwledydd le mae’r tymor glaw yn digwydd ( y problemau cyffredin yw llifogydd mawr yn yr afonydd pan ddaw’r glaw, cartrefi ac adeiladau’n cael eu hysgubo i ffwrdd gyda’r lli, cnydau’n cael eu difrodi, ac wrth gwrs, sychder mawr a newyn yn ystod y cyfnodau sych.)

  3. Mae’r rhai sy’n dilyn y grefydd Jain, crefydd sydd i’w chael yn bennaf yn India, (er bod Jainiaid yn byw yn y rhan fwyaf o wledydd y byd erbyn hyn), wedi gwneud defnydd penodol o’r tymor glawog.

    Yn India, mae gwyr a gwragedd sanctaidd yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn teithio o le i le. Yn ystod y tymor glawog, mae’n anodd iddyn nhw deithio, felly fe fydd yr athrawon hyn yn aros mewn un lle, pentref neu dref, am ychydig fisoedd. O ganlyniad, tra mae’r glaw yn parhau, mae’r bobl sanctaidd hyn ar gael mewn man neilltuol i addysgu ac arwain y bobl gyffredin.

  4. Yng nghanol y tymor glawog mae Jainiaid yn dathlu gwyl Paryushan, gwyl sy’n para o wyth i ddeg diwrnod. Yn ystod y cyfnod hwn, fe fydd Jainiaid yn aml yn treulio amser yn ymprydio ac yn myfyrio, ac yn ymweld â themlau a chysegrfeydd yn rheolaidd i gael eu haddysgu gan y gwyr a’r gwragedd sanctaidd.

    Fe fyddwn ni’n meddwl am wyl fel digwyddiad lliwgar, swnllyd, llawn hwyl, ond nid peth felly yw gwyl Paryushan. Mae’r wyl hon yn ymwneud ag ystyried ein bywyd ein hunain, a dod o hyd i heddwch mewnol.

    Erbyn diwedd yr wyth i ddeg diwrnod, gobaith y Jainiaid yw y byddan nhw’n fwy pur, yn gofidio llai am bethau materol (fel arian, ceir, dillad, bwyd, ac ati), ac y byddan nhw’n hapusach nag yr oedden nhw cyn hynny.

  5. Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod beth yw arwyddair. Os oes arwyddair gan eich ysgol cyfeiriwch yn benodol at hwnnw.

    Arwyddair y bobl sy’n dilyn y grefydd Jain yw - ‘Mae ar bawb eisiau byw’, neu yn Saesneg, ‘Live and let live’.

    Gofynnwch i’r plant beth maen nhw’n feddwl yw ystyr hyn.

    Eglurwch mai nod gwyl Paryushan yw helpu’r Jainiaid i fyw eu bywyd eu hunain mewn heddwch a llawenydd, ac mae hefyd yn eu hatgoffa nad ydyn nhw fod i farnu pobl eraill. Rhaid iddyn nhw drin pawb arall â pharch, am fod pob unigolyn yn bwysig iawn.

    Y gobaith, yn dilyn gwyl Paryushan, yw yn hytrach na phlesio’u hunain yn unig, fe fydd Jainiaid yn ceisio gwneud pobl eraill yn hapus hefyd. Mae’n arwyddair da, y gallai pob un ohonom ei ddilyn.

Amser i feddwl

Meddyliwch am arwyddair Jain: ‘Mae ar bawb eisiau byw/ ‘Live and let live’.

Sut rydyn ni’n trin pobl eraill?

Ydyn ni’n garedig wrth rai, ac yn gas wrth bobl eraill?

Ydyn ni’n trin pobl gyfoethog neu bobl bwysig yn wahanol i’r ffordd rydyn ni’n trin rhywun sy’n dlawd neu’n amhoblogaidd?

Efallai eich bod yn adnabod rhywun sydd ychydig bach yn wahanol i bawb arall, rhywun rydych chi’n ei chael hi’n anodd ei hoffi.

Treuliwch foment neu ddwy i sylweddoli bod yr unigolyn hwnnw’n rhywun arbennig, a cheisiwch feddwl am ffordd y gallech chi wneud y person hwnnw’n hapus heddiw. 

Gweddi

Dyma addasiad o bennill sy’n cael ei dysgu ar y cof a’i llefaru yn ystod gwyl Paryushan. (Mae ychydig o wahaniaeth yng ngeiriau’r ail fersiwn, ac fe allech chi ddefnyddio honno fel gweddi, os hoffech chi.)

Rwy’n maddau i bob peth byw.
Gad i bob peth byw faddau i mi.
Mae fy nghyfeillgarwch gyda phob peth byw.
Dyw fy ngelyniaeth ddim yn bod.
Bydded heddwch, cytgord, a llwyddiant i bawb.

Annwyl Dduw,
helpa fi bob amser i faddau.
Mae’n ddrwg gen i am yr adegau rydw i wedi trin unrhyw beth byw mewn ffordd sydd ddim yn iawn.
Helpa fi i drin pethau byw â pharch.

Helpa fi i fyw mewn heddwch gyda phob peth.
Helpa bob un ohonom i fyw mewn heddwch a chytgord,
gan fod hynny’n well ar les y byd.

 

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon