Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dyw Popeth Ddim Fel Mae'n Ymddangos

‘Y lleidr bisgedi’

gan Kirk Hayles

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried peidio â neidio i ganlyniadau na barnu eraill yn rhy sydyn, ac ymateb yn garedig hyd yn oed pan fyddwn ni wedi cael cam.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gwasanaeth hwn wedi ei seilio ar y gerdd, ‘The cookie thief’, gan Valerie Cox.
  • Fe fydd arnoch chi angen dau fag papur yn union yr un fath, yn cynnwys pum bisged yr un (bisgedi bach y mae’n bosib eu bwyta’n gyflym fyddai orau). Gwiriwch rhag alergedd bwyd.
  • Fe fydd arnoch chi angen bag teithio hefyd, a dau neu dri o lyfrau. Rhowch un llyfr ac un o’r bagiau bisgedi yn y bag teithio – ynghyd ag eitemau eraill i ‘guddio’ y bag bisgedi.
  • Cyn y gwasanaeth, gosodwch dair cadair yn y tu blaen, lle byddwch chi’n cyflwyno. Gosodwch y bag teithio ar y gadair ganol a’r bag papur arall gyda’r pum bisged ynddo ychydig o’r golwg y tu ôl i’r bag teithio. Mae’r cadeiriau’n cynrychioli ystafell aros yn y maes awyr. Gosodwch ddwy gadair arall ar ochr y llwyfan – dyma’r awyren.
  • Fe ddewisais beidio darllen y gerdd, dim ond dweud y stori, gyda’r plant yn actio’r symudiadau. Er mwyn cyflwyno’r ddrama, fe fydd arnoch chi angen dau gymeriad i gynrychioli’r teithwyr (dyn a dynes). Does dim rhaid ymarfer llawer o flaen llaw i chwarae’r rolau hyn, fe allan nhw wneud y symudiadau wrth i chi adrodd y stori.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i ddau wirfoddolwr actio’r stori rydych chi’n mynd i’w hadrodd. 

    Gofynnwch i’r ddau eistedd ar y ddwy gadair bob ochr i’r bag teithio. Eglurwch mai teithwyr ydyn nhw’n disgwyl am gael mynd ar awyren mewn maes awyr. Dydyn nhw ddim yn adnabod ei gilydd, ac maen nhw’n disgwyl i rywun gyhoeddi bod eu hawyren yn barod iddyn nhw fynd arni.

    Mae’r dyn yn darllen llyfr (rhowch lyfr i un o’r actorion i’w ddarllen).

  2. ‘Y lleidr bisgedi’

    Mae’r wraig yn dechrau blino aros. Felly, mae’n penderfynu y byddai hithau’n estyn ei llyfr hithau i’w ddarllen am sbel (mae hi’n tynnu ei llyfr allan o’r bag teithio).  

    Daw cyhoeddiad dros y system sain yn ymddiheuro bod ei hawyren hi’n mynd i fod ychydig yn hwyr yn cychwyn.

    Mae’r wraig yn teimlo ei bod eisiau bwyd, felly mae’n penderfynu y byddai’n bwyta un o’i bisgedi. Heb brin godi ei phen o’i llyfr, mae hi’n estyn am y bag papur ac yn cymryd bisged ohono (mae’r ferch yn tynnu bisged allan o’r bag papur sydd y tu ôl i’r bag teithio). 

    Er syndod iddi, mae’r dyn hefyd yn rhoi ei law yn y bag papur, ac mae yntau’n cymryd bisged o’r bag ac yn ei bwyta (mae’r bachgen yn tynnu bisged allan o’r un bag papur). 

    Mae’r wraig wedi rhyfeddu, ac mae hi’n meddwl bod y dyn yn ddigywilydd iawn. Dydi hi ddim yn dweud unrhyw beth wrtho, ond mae hi’n edrych yn ddig iawn. 

    Mae’n cymryd bisged arall allan o’r bag. Ac eto, mae’r dyn hefyd, sy’n dal i ddarllen ei lyfr, yn cymryd bisged arall o’r bag ac yn ei bwyta. (Fe allech chi wneud tipyn o ddrama o hyn – sut mae’r wraig yn teimlo – i gyfleu ei syndod a’i dicter. Anogwch y plant i ddychmygu sut bydden nhw’n teimlo pe bydden nhw yn yr un sefyllfa.)

    Ond yna, er syndod mawr iddi eto, mae’r dyn yn rhoi ei law yn y bag ac yn tynnu’r fisged olaf allan. Mae’n edrych ar y wraig, yn torri’r fisged yn ei hanner, ac yn cynnig un hanner iddi hi. Mae’n bwyta’r hanner arall ei hun. 

    Mae’r wraig yn cipio’r fisged o’i law, ac yn ei bwyta, gan edrych yn gas a gwgu mwy nag erioed. 

    Ymhen sbel, fe ddaw’r llais eto drwy’r system sain yn cyhoeddi bod yr awyren y mae’r wraig yn disgwyl amdani yn barod ar gyfer y teithwyr. Mae’n gwthio ei llyfr i’r bag teithio, yn ei gau, ac yn ei roi dros ei hysgwydd. Mae’n cydio yn y bag papur gwag, yn ei wasgu’n belen ac yn ei daflu i fasged sbwriel gan edrych yn ddig ar y dyn wrth gerdded heibio iddo at y drws oedd yn arwain i’r awyren (mae’r ferch yn cerdded draw ac yn eistedd ar un o’r ddwy gadair arall sydd ar y llwyfan, sef yr awyren). Mae’r dyn yn aros yn ei le, am awyren i fynd i le arall.

    Gan wneud ei hun yn gyfforddus yn ei sedd, mae’r wraig yn paratoi ei hun ar gyfer ei siwrne. Mae’n mynd i’w bag eto i nôl ei llyfr. (Mae’n ebychu mewn syndod. Mae hi’n methu credu’r hyn mae hi’n ei weld!) 

    O diar! Mae’n gweld ei bag bisgedi! (Mae’n tynnu bag papur allan o’r bag teithio. Mae’r bag yn union yr un fath â’r bag roedd hi newydd ei wasgu a’i daflu i’r bin – ond mae pum bisged yn y bag. Daliwch hwn i fyny i bawb gael ei weld.) 

  3. Yn dibynnu ar oedran y plant, ewch dros y stori’n fras ato i’w hatgoffa o’r hyn sydd wedi digwydd. Pwysleisiwch fod y dyn wedi cynnig hanner y fisged olaf i’r wraig hyd yn oed, er mai ei fisgedi ef oedden nhw – a hithau eisoes wedi bwyta hanner ei fisgedi bron!

Amser i feddwl

Dyna sefyllfa ddifrifol i fod ynddi! 

Ond, meddyliwch am yr hyn a wnaeth y dyn. Er bod y wraig yn bwyta ei fisgedi, yn rasol fe ganiataodd iddi gael hanner ei fisged olaf.

Fyddech chi wedi gwneud yr un peth? 

Yn union fel y gwnaeth y wraig, fyddwn ni’n meddwl pethau gwael am bobl sy’n ymddwyn yn rhyfedd? Efallai y dylen ni weithiau droi’r hyn rydyn ni’n ei feddwl a’i ben i waered, ac ymateb yn garedig hyd yn oed pan fyddwn ni’n teimlo ein bod wedi cael cam.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon