Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Ci, Yr Wydd A'r Jar

Cwestiynu a yw cael mwy o rywbeth yn arwain at fwy o hapusrwydd.

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cwestiynu a yw cael mwy o rywbeth yn arwain at fwy o hapusrwydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen:
    -  lluniau o ddau dy hardd (lluniau o dai crand y mae’r plant wedi ymweld â nhw, o bosib);
    -  jar sy’n cynnwys siocledi, y gallwch chi roi eich llaw ynddo, ond na allwch ei thynnu oddi yno os bydd eich dwrn yn llawn o siocledi; 
    -  asgwrn, neu lun ci;
    -  wy (wedi’i baentio’n lliw aur) neu lun o wydd.
  • Fe allech chi baratoi rhai o’r plant i adrodd y storïau.
  • Daw’r adnod, sydd yn rhan 6, o Lythyr Paul at y Philipiaid 4.11.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y gwasanaeth trwy ddweud eich bod yn mynd i sôn am dy, asgwrn, wy a jar. 

  2. Dangoswch y lluniau o’r ddau dy hardd. Gofynnwch i’r plant godi eu dwylo i nodi pa dy yr hoffen nhw fyw ynddo. Gofynnwch: Hyd yn oed pe byddech chi’n gallu byw yn y ty hwn, a fyddai hynny’n ddigon i’ch gwneud chi’n hapus?

  3. Adroddwch stori’r ci a ddaeth o hyd i asgwrn mawr. Roedd y ci’n dal yr asgwrn yn dynn yn ei geg. Byddai’n ysgyrnygu’n fygythiol ar unrhyw un a geisiai ddwyn yr asgwrn oddi arno. Penderfynodd fynd i’r goedlan i gladdu’r asgwrn yn y ddaear.

    Wrth fynd i’r goedlan, roedd angen croesi afon fach ac aeth y ci dros y bont droed er mwyn cael mynd i’r ochr arall. Wrth iddo gerdded dros y bont fe edrychodd i’r dwr. Yno, fe welodd gi arall, tebyg iawn iddo ef ei hun, gydag asgwrn mawr yn ei geg. Ond roedd yn ymddangos fel pe bai gan y ci hwnnw asgwrn mwy. Dechreuodd y ci ysgyrnygu’n fygythiol eto, ac fe ddechreuodd y ci arall ysgyrnygu’n fygythiol yn ôl arno hefyd.

    ‘Rydw i eisiau’r asgwrn acw, hefyd,’ meddyliodd y ci barus, ac fe agorodd ei geg a chyfarth ar y ci arall yn y dwr.

    Wrth gwrs, fe gwympodd ei asgwrn o’i geg i’r dwr, ac fe gariodd lli’r afon yr asgwrn i ffwrdd.

  4. Dyna stori’r ci. Ond ydych chi wedi clywed am stori’r wydd?

    Un diwrnod aeth ffermwr i weld a oedd yr wydd a’i nyth yn iawn, a chyfrif faint o wyau oedd yn y nyth. Pan edrychodd, roedd yn methu credu’r hyn a welai. Yno, ar y gwellt yn y nyth, yr oedd wy aur disglair! Cododd y ffermwr yr wy a sylweddolodd ei fod yn aur pur.

    Bob bore, ar ôl hynny , pan fyddai’n mynd i edrych yn y nyth, roedd wy aur arall yno. Roedd y ffermwr a’i wraig wrth eu bodd, ac fe ddaethon nhw’n gyfoethog iawn yn fuan trwy werthu’r wyau aur a chael pris da amdanyn nhw. Ond un diwrnod, fe ddywedodd y ffermwr wrtho’i hun, ‘Mae’n rhaid bod yr wydd yn llawn o wyau aur, fe hoffwn i eu cael i gyd.’ Felly, fe gydiodd mewn cyllell finiog, a lladd yr wydd, a’i hagor . . . ond doedd dim un wy aur yno. Ac o’r diwrnod hwnnw ymlaen doedd dim rhagor o wyau aur.

  5. Pe byddai’r ci a’r ffermwr wedi sylweddoli beth oedd ganddyn nhw, ac wedi bodloni ar hynny, fe fyddai popeth wedi bod yn iawn. Ond roedden nhw’n farus, ac roedden nhw eisiau mwy a mwy, doedden nhw ddim yn gallu mwynhau’r hyn roedd Duw wedi’i roi iddyn nhw.

    Sylwch ar y siocledi neu’r melysion yn y jar. (Yn farus, rowch eich llaw yn y jar gan afael mewn cymaint ag y gallwch chi o’r melysion. Rydych chi’n gafael yn dynn ynddyn nhw, ond rydych chi’n methu cael eich dwrn allan.)

    Beth sydd raid i mi ei wneud er mwyn gallu cael fy llaw allan?

    Weithiau mae’n well i ni roi’r gorau i flysio pethau sydd gan bobl eraill, fel y gallwn ni fod yn rhydd, a mwynhau'r hyn sydd gennym ni.

  6. Fe ddywedodd dyn o’r enw Paul, y mae ei hanes yn y Beibl, ‘Nid fy mod yn dweud hyn am fod arnaf angen, oherwydd yr wyf fi wedi dysgu bod yn fodlon, beth bynnag fy amgylchiadau.’ Mae hynny’n golygu bod Paul yn fodlon â’r hyn oedd ganddo. Doedd Paul ddim yn cymharu ei hun ag eraill, a doedd arno ddim eisiau mwy a mwy o hyd. Yn hytrach fe ddiolchai i Dduw, ac roedd yn fodlon ac yn hapus gyda’r hyn oedd ganddo.

Amser i feddwl

Gadewch i ni dreulio moment yn meddwl am yr hyn y gallech chi fod â rhestr ohonyn nhw yn eich meddwl, fel y pethau yr hoffech chi eu cael.

Fydd y pethau hyn, o ddifrif, yn eich gwneud yn hapusach pe byddech chi’n eu cael nhw?

Beth sydd yn wir yn eich gwneud yn hapus? Allwch chi brynu’r peth hwnnw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
helpa fi i beidio â bod fel y ci,
nac fel y ffarmwr,
ond i sylweddoli faint o roddion yr wyt ti wedi eu rhoi i ni.
Helpa fi i fod yn hapus gyda’r hyn sydd gen i.
Helpa fi i ymddiried y byddi di’n rhoi popeth y mae arnaf fi ei angen i mi.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon