Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sukkot: Gwyl Y Tabernalcau

Helpu’r plant i ddysgu am yr wyl Iddewig, Sukkot, a meddwl am fod yn ddiolchgar.

gan Manon Ceridwen Parry

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddysgu am yr wyl Iddewig, Sukkot, a meddwl am fod yn ddiolchgar.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cefndir:
    -  Sukkot yw lluosog y gair Hebraeg sukkah, sydd â nifer o ystyron iddo, yn cynnwys cwt, lloches dros dro, neu rywle i gysgodi.
    -  Mae dyddiad Gwyl y Sukkot yn symudol, ond fe fydd yn digwydd fel arfer ym mis Hydref. Mae’n dechrau ar y pymthegfed diwrnod o Tishri, pum diwrnod ar ôl Yom Kippur.
    -  Mae’n wyl lawen sy’n para saith neu wyth diwrnod, pryd y bydd Iddewon yn cofio am stori’r Exodus a’r pedwar deg mlynedd a dreuliodd eu hynafiaid yn yr anialwch cyn cyrraedd Gwlad yr Addewid.
    -  Mae thema diolch am y cynhaeaf yn perthyn i’r wyl, ac mae hefyd yn ymwneud ag adeiladu llochesi (sukkot), i gofio am y llochesi yr oedd yr Israeliaid yn eu codi iddyn nhw’u hunain yn yr anialwch.
    -  Maen nhw’n chwifio planhigion i’r pedwar cyfeiriad, a’r planhigion hynny yw: etrog (math o ffrwyth citrws), dail palmwydden datys, a changen gyda dail arni o’r coed myrtwydd, a changen a dail arni o’r coed helyg. Mae’r rhain yn cynrychioli’r cynhaeaf. (Gwelwch adran 6.)
  • Fe fydd arnoch chi angen deunyddiau ar gyfer adeiladu’ch lloches – nifer o gadeiriau a rhai blancedi neu blanciau o bren. 

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant faint ohonyn nhw sydd â ‘den’ gartref. 

    Sgwrsiwch am yr amser pan oeddech chi’n blentyn a pha mor hoff oeddech chi o adeiladu ‘den’, neu o godi pabell a gwersylla, neu hyd yn oed chwarae cuddio dan flanced yn y ty. 

    Beth fyddech chi ei angen i adeiladu den? (Rhywbeth i fod yn do, ac yn waliau. Unrhyw beth arall?) 

    Sut byddech chi’n gwneud i’r den edrych yn ddeniadol? 

    (Sgwrsiwch ragor am eich profiad eich hun o greu den pan oeddech chi’n ifanc.)

  2. Eglurwch eich bod yn bwriadu adeiladu den yn ystod y gwasanaeth heddiw.

    Ond, pam? Beth sydd gan adeiladu den i’w wneud â gwasanaeth crefyddol?

    Eglurwch mai’r rheswm yw am fod gwyl grefyddol Iddewig sy’n ymwneud ag adeiladu llochesi.

    Bob blwyddyn, tua mis Hydref, fe fydd pob teulu Iddewig yn dathlu Gwyl y Tabernaclau (sydd hefyd yn cael ei galw’n wyl Sukkot), ac maen nhw’n adeiladu sukkah (sukkah yw un ohonyn nhw - gair unigol; a sukkot yw llawer ohonyn nhw - gair lluosog). Math o loches yw sukkah.

  3. Mae Gwyl y Tabernaclau’n wyl bwysig iawn i bobl y ffydd Iddewig.

    Mae’n cael ei chynnal i gofio am rywbeth a ddigwyddodd ymhell yn ôl yn eu hanes. Roedd eu hynafiaid wedi bod yn gaethweision yn yr Aifft, lle roedden nhw wedi cael eu trin yn wael iawn. Fe achubodd Duw nhw o’u caethiwed ac addo eu harwain i wlad newydd fyddai’n wlad iddyn nhw’u hunain.

    Ond i gyrraedd y wlad hon - Gwlad yr Addewid - roedd yn rhaid iddyn nhw deithio trwy anialdir diffaith. Fe wnaethon nhw dreulio pedwar deg o flynyddoedd yn yr anialwch hwnnw cyn iddyn nhw gyrraedd Gwlad yr Addewid. Yn ystod y cyfnod hwnnw, er mwyn gwarchod eu hunain rhag yr haul crasboeth yn y dydd, ac oerni’r nos, ac amddiffyn eu hunain rhag yr anifeiliaid gwyllt a garwedd y stormydd tywod, roedden nhw’n adeiladu llochesi allan o beth bynnag roedden nhw’n gallu dod o hyd iddo’n tyfu yn yr anialwch.

    Erbyn heddiw, yn ystod yr wyl, mae Iddewon yn cofio pa mor galed oedd yr amser hwnnw i’w hynafiaid yn y diffeithwch, a pha mor falch oedden nhw, yn y diwedd, o gyrraedd y wlad hyfryd oedd a digon o fwyd a diod a lloches iddyn nhw yno. 

    Yn ystod y pedwar deg mlynedd hynny, fe ddysgodd y bobl beth oedd yn ei olygu i orfod dibynnu ar Dduw am bopeth.  Yn yr anialwch, fe ofalodd Duw amdanyn nhw a rhoi iddyn nhw ddigon yn unig o fwyd a diod i’w cadw’n fyw. Roedd yn amser brawychus iawn - ac roedden nhw’n gwerthfawrogi pob mymryn o fwyd a diod roedden nhw’n ei gael.

    Dyna sy’n gwneud yr wyl hon yn wyl o ddiolchgarwch, ac mae’n wyl o weddïo am gynhaeaf da ac am gyflenwad da o fwyd a diod.

  4. Ond fyddai adeiladu lloches yn unig ddim yn ddigon i helpu’r bobl gofio am y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch. Mae’n rhaid iddyn nhw fwyta ac yfed yn eu sukkah, ac ambell dro fe fydd rhai pobl yn cysgu yn eu sukkah hefyd.  

    Fyddech chi’n hoffi cysgu yn eich den? Ddim am hir mae’n debyg! Ond mae byw allan yn y sukkot yn atgoffa’r bobl Iddewig pa mor lwcus ydyn nhw i gael rhywbeth gwell na dim ond lloches syml i fyw ynddi. 

  5. (Wrth i chi roi’r eglurhad canlynol, adeiladwch fath o loches: fe allech chi ddefnyddio’r wal sydd y tu ôl i chi yn y neuadd neu’r ystafell ddosbarth, oherwydd mae’n bosib defnyddio un wal sydd yno’n barod fel rhan o sukkah.) Defnyddiwch ddwy gadair wedyn ar bob ochr a rhowch flancedi neu ddarnau o bren dros y top.)

    Mae rheolau pendant gan Iddewon ar sut i adeiladu sukkah. Mae’r rheolau hyn yn dweud bod rhaid cael o leiaf dair wal, wedi’u llunio o unrhyw ddefnydd - gall un fod yn dalcen ty hyd yn oed. Rhaid i’r to gael ei wneud o ddeunydd organig (unrhyw beth a fu unwaith yn tyfu yn y ddaear), er enghraifft, canghennau neu stribedi pren neu fambw. Rhaid i chi fod yn gallu gweld yr awyr (yr haul a’r sêr) trwy’r to, i’w hatgoffa am yr adeg y treuliodd eu hynafiaid yn byw mewn llochesi heb do iawn arnyn nhw.

    Y tu mewn i’r sukkah, caiff y waliau eu haddurno â ffrwythau a changhennau, neu unrhyw beth sy’n ymwneud â’r cynhaeaf, fel gwenith er enghraifft, a bydd y pethau hyn yn hongian o’r to.

    Efallai y gallech chi, yn ystod y dydd, wneud lluniau i’w gosod yn y sukkah i wneud i’r lle edrych yn ddeniadol, ac fel modd o atgoffa pawb am y cynhaeaf.

  6. Yn ystod Gwyl y Tabernaclau, mae Iddewon yn mynd i wasanaethau yn y synagog i ddiolch i Dduw am ddarparu bwyd a dwr i’r bobl ers talwm yn yr anialwch, ac i ddiolch i Dduw am y cynhaeaf.

    Bob dydd, yn ystod yr wyl, fe fyddan nhw’n gorymdeithio, ac fe fyddan nhw’n clymu gyda’i gilydd bedwar planhigyn ac yn eu chwifio i bob un o’r pedwar cyfeiriad er mwyn dangos bod Duw ym mhob man.

    Fe fyddan nhw hefyd yn adrodd salmau o ddiolch i Dduw.

    Efallai y gallech chi roi cyfle i bawb yn ei dro fynd i mewn i’r lloches i adrodd gweddi neu i feddwl am yr holl bethau rydyn ni’n dymuno diolch amdanyn nhw.

Amser i feddwl

I ddiweddu’r gwasanaeth, dywedwch eich bod yn mynd i ddefnyddio un o’r salmau sy’n arfer cael eu darllen yn ystod yr wyl hon. Wrth i chi ddarllen, anogwch y plant i feddwl am yr holl bethau y maen nhw’n ddiolchgar amdanyn nhw.

Salm 114
Pan ddaeth Israel allan o’r Aifft,
ty Jacob o blith pobl estron eu hiaith,
daeth Jwda yn gysegr iddo,
ac Israel yn arglwyddiaeth iddo.
Edrychodd y môr a chilio,
a throdd yr Iorddonen yn ei hôl.
Neidiodd y mynyddoedd fel hyrddod,
a’r bryniau fel wyn.

Beth sydd arnat, fôr, dy fod yn cilio,
a’r Iorddonen, dy fod yn troi’n ôl?
Pam, fynyddoedd, yr ydych yn neidio fel hyrddod,
a chwithau’r bryniau, fel wyn?
Cryna, O ddaear, ym mhresenoldeb yr Arglwydd,
ym mhresenoldeb Duw Jacob,
sy’n troi’r graig yn llyn dwr
a’r callestr yn ffynhonnau.

Gweddi
Arglwydd Dduw,
diolch am bob peth yr wyt ti’n eu rhoi i ni:
bwyd i’w fwyta, dillad i’w gwisgo, a chartrefi i fyw ynddyn nhw.
Helpa ni bob amser i fod yn ddiolchgar.

Cân/cerddoriaeth

Canwch un emyn diolchgarwch y mae plant yr ysgol yn hoff ohoni.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon