Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cofio

Deall bod cofio’n cymell nifer o wahanol emosiynau.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Deall bod cofio’n cymell nifer o wahanol emosiynau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Pabi coch Dydd y Cofio.
  • Delwedd gyfrifiadurol o un pabi coch neu gae yn llawn o flodau pabi coch.
  • Ers 1995, pum deg mlwyddiant diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop, mae wedi dod yn arferiad eto i gofio am achlysur arwyddo’r Cadoediad, cyfamod a wnaed am 11 a.m. ar 11 Tachwedd yn y flwyddyn 1918 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn aml, fe fydd pobl yn cadw 2 funud o dawelwch pan fydd hi’n 11 o’r gloch, ar yr unfed dydd ar ddeg, o’r unfed mis ar ddeg, er mwyn cofio.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch ein bod yn mynd i ddarganfod pa mor dda yw'n atgofion. Faint allwn ni gofio?

    Dywedwch eich bod yn mynd i ddechrau trwy ofyn cwestiynau am yr hyn sydd wedi digwydd heddiw, er enghraifft:

    -  Pwy oedd yn gofalu am eich llinell heddiw?
    -  Pwy oedd yn sefyll gyferbyn â chi yn y llinell?
    -  Sut oeddech chi'n teimlo pan wnaethoch chi godi bore heddiw?

    Beth am y penwythnos diwethaf?

    -  Beth wnaethoch chi brynhawn dydd Sadwrn?
    -  Beth oedd ar y teledu nos Sul?

    Beth am wythnos ddiwethaf? (Holwch gwestiynau sy'n briodol/addas i ddigwyddiadau yn eich ysgol chi.)

    Mae'n mynd yn anoddach cofio am ddigwyddiadau, yn enwedig os yw’r pethau hynny wedi digwydd ymhell yn ôl a llawer o amser wedi mynd heibio.

  2. Chwaraewch y gêm ganlynol. Rhowch ychydig o gliwiau geiriol a bydd y plant yn gorfod dyfalu'r hyn sy'n cael ei gofio. Er enghraifft:

    -  gardd, tân, byrgers eidion (barbiciw)
    -  heulwen, hufen iâ, cregyn, tywod (diwrnod ar lan y môr)
    -  ffrindiau, parseli, balwnau, teisen (parti pen-blwydd).

    Syniadau eraill y gellir eu hystyried byddai Diwrnod Mabolgampau, Diwrnod Crempog, priodas.

  3. Gall y digwyddiadau hyn fod wedi digwydd beth amser yn ôl. Maen nhw'n cael eu cofio oherwydd eu bod yn achlysuron hwyliog. Mae adegau hapus yn dueddol i aros ar ein cof am amser hir.

    Mae adegau trist hefyd yn gallu aros ar ein cof am amser hir.

    (Efallai y byddwch yn dymuno sôn am anifeiliaid anwes sydd wedi marw, neu ffrindiau sydd wedi symud i ffwrdd.) 

  4. Dangoswch y pabi.

    Mae'r pabi hwn yn cael ei ddefnyddio i'n helpu ni gofio rhywbeth a ddigwyddodd nifer fawr o flynyddoedd yn ôl. Bu raid i ddynion a merched dewr o'r wlad hon fynd i ymladd ar gyfandir Ewrop, mewn rhyfel hir, yr ydym ni'n ei galw'n Rhyfel Byd Cyntaf. Lladdwyd llawer o'r milwyr hyn a ddaethon nhw ddim yn ôl adref.

    Roedd eu teuluoedd a'u ffrindiau yn drist iawn. Roedd pawb yn drist oherwydd bod y milwyr dewr yma yn ymladd er lles y wlad gyfan. Sut roedd modd i bawb yn y wlad gyfan ddangos i'r teuluoedd, a oedd wedi colli anwyliaid, fod y genedl yn meddwl amdanyn nhw ac yn cofio ar yr un pryd?

    Penderfynwyd y byddai un diwrnod arbennig yn cael ei neilltuo bob blwyddyn i gofio a gweddïo. Y dyddiad a ddewiswyd oedd 11 Tachwedd, oherwydd ar 11 Tachwedd 1918 y cafodd y Cadoediad ei arwyddo (cadoediad yw cytundeb i roi'r gorau i ryfela).Cafodd y dyddiad hwn ei alw'n Ddydd y Cadoediad neu Ddydd y Cofio.

    Penderfynwyd hefyd y dylai pawb wisgo pabi coch ar y diwrnod hwnnw. Roedd hyn oherwydd bod cannoedd o flodau pabi coch yn tyfu ar y meysydd cad lle'r oedd llawer o'n milwyr wedi colli eu bywyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

  5. O 1939 hyd at 1945, roedd rhyfel byd dychrynllyd arall: yr Ail Ryfel Byd. Yn dilyn hyn, penderfynwyd symud Dydd y Cofio o Dachwedd 11 i'r ail Sul ym mis Tachwedd.  Caiff y Sul hwn ei alw'n Sul y Cofio.

    Ar Sul y Cofio rydym yn cofio am yr aelodau o luoedd arfog Prydain a'r Gymanwlad a fu farw mewn dau ryfel byd. Byddwn hefyd yn cofio'r dynion a'r merched yn y lluoedd arfog a roddodd eu bywyd yn yr holl ryfeloedd sydd wedi digwydd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae gorymdeithiau a gwasanaethau arbennig, a chaiff blodau pabi coch eu gosod wrth gofebion rhyfel.

    Eleni fe fyddwn ni'n meddwl yn arbennig am y llu o filwyr dewr sydd yn parhau i ymladd mewn lleoedd peryglus, fel Afghanistan.

    Bydd gwisgo pabi coch yn dangos, ‘Rydym yn cofio gyda'n gilydd.’

Amser i feddwl

Dangoswch y ddelwedd o un pabi coch a/ neu gae yn llawn o flodau pabi yn Fflandrys.

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch am y llu atgofion hapus sydd gennym ni.
Mae’n ddrwg gennym ni fod yr adeg hon o’r flwyddyn yn dod ag atgofion trist i rai pobl wrth iddyn nhw gofio am rai sydd wedi cael eu lladd mewn rhyfeloedd.
Bydded i ni wisgo ein pabi coch gyda chariad a thosturi,
a bydded i ni gofio, a bod yn ddiolchgar.

Cân/cerddoriaeth

Efallai yr hoffech chi chwarae’r gerddoriaeth Enigma Variations gan Elgar, cerddoriaeth sy’n cael ei chysylltu gyda’r achlysur hwn o ‘gofio’.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon