Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pen-Blwydd Y Guru Nanak Dev Ji

Dathliad Sikhaidd

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dathlu bywyd y Guru Nanak a’i ymrwymiad i gydraddoldeb.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch fag anrheg yn cynnwys dillad parti, hwter parti, hetiau parti, baneri, CD  o gerddoriaeth parti, teisen fach (cupcake) gyda channwyll arni, a matsis i’w goleuo.
  • Llun o Guru Nanak Dev Ji. Gwelwch: 
    www.allaboutsikhs.com
    www.sikhs.org
  • Mae pen-blwydd y Guru Nanak Dev Ji (1469–1539) yn draddodiadol yn cael ei ddathlu yn ystod mis Kartik (Hydref/ Tachwedd). Mae’n bosib defnyddio’r gwasanaeth hwn unrhyw dro yn ystod y cyfnod hwnnw.
  • Ystyr ‘Guru’ yw ‘athro’; ac mae’r geiriau ‘Dev Ji’ yn cael eu hychwanegu fel arwydd o barch.

Gwasanaeth

  1. Mae pawb yn wahanol. Does dim ond eisiau i chi edrych o’ch cwmpas. Welwch chi rywun sy’n union yr un fath â chi? Na. Mae rhai ohonom yn dal, eraill yn fyr. Mae gan rai ohonom wallt tywyll, eraill â gwallt golau. Mae rhai ohonom yn ferched, eraill yn fechgyn.

    Does neb sy’n union yr un fath â chi yn yr ysgol hon. Yn wir, does neb sy’n union yr un fath â chi yn y byd cyfan.

    A’r hyn sy’n anhygoel yw na fu neb erioed, ac ni fydd neb byth ychwaith yn union yr un fath â chi . Rhyfeddol ynte, ydych chi ddim yn meddwl?

  2. Ond, mae un peth sy’n gyffredin i ni i gyd. Bob blwyddyn, ryw dro, fe fydd pob un ohonom yn cael ein pen-blwydd. Iawn? Gadewch i mi wneud yn siwr. Oes rhywun yma sydd ddim yn cael ei ben-blwydd bob blwyddyn? Na, fe fyddwn ni i gyd yn cael pen-blwydd. 

    (Dechreuwch dynnu’r eitemau allan o’r bag a’u rhoi ar y bwrdd.) Yn aml fe fyddwn ni’n cael dillad newydd i fynd i barti. Fyddai partïon pen-blwydd ddim yr un peth heb y cyrn hwtio, yr hetiau a’r baneri. Fe fyddwn ni wrth ein bodd yn canu ac yn dawnsio i’n hoff gerddoriaeth oddi ar CDs mewn partïon. Ac yna, wrth gwrs, mae yno gacen, gyda’r holl ganhwyllau arni i’w diffodd a gwneud dymuniad wedyn. 

  3. Bob blwyddyn, tua’r adeg hon o’r flwyddyn, mae Sikhiaid yn dathlu pen-blwydd dyn o’r enw Nanak Dev. (Dangoswch lun ohono, os yw hynny’n bosib.) 

    Roedd Nanak Dev yn byw dros 500 mlynedd yn ôl, ond mae pobl yn dal i ddathlu ei ben-blwydd bob blwyddyn. Gadewch i ni wybod pam. 

  4. Cafodd Nanak ei eni yn y flwyddyn 1469. Cafodd ei eni i deulu cyffredin mewn pentref cyffredin yn India. Fel llawer o blant ifanc, roedd yn chwilfrydig iawn ac yn holi llawer o gwestiynau. Pan oedd yn fachgen roedd yn gofalu am wartheg y teulu ac fe fyddai’n mwynhau trafod materion bywyd gyda gwyr sanctaidd Mwslimaidd a Hindwaidd a oedd yn byw yn y coedlannau o gwmpas y pentref.  

    Fe briododd Nanak pan oedd yn 16 oed, ac roedd ganddo ddau fab. Roedd yn gweithio fel cyfrifydd yn ystod y dydd, ac yn ei amser hamdden roedd yn mwynhau barddoniaeth, canu a chyfansoddi cerddoriaeth.

    Ond, fe newidiodd popeth. Fe newidiodd y dyn cyffredin hwn. Fe ymddangosodd Duw i Nanak.

    Gadawodd Nanak ei swydd, ac fe roddodd bopeth oedd ganddo i’r bobl dlawd. Fe deithiodd ar hyd a lled y wlad i ddweud wrth bobl am yr hyn yr oedd Duw wedi’i ddatguddio iddo.

    Pan aeth yn oedrannus, fe fyddai pobl yn teithio o bellteroedd mawr i ddod i wrando arno ef yn addysgu’r bobl yn ei gartref. Daeth pobl i adnabod y dyn hwn fel athro pwysig neu ‘guru’.

  5. Roedd y neges gan Dduw’n syml. Duw sydd wedi creu pawb ac mae Duw’n caru pawb. Yng ngolwg Duw mae pawb yn gydradd. Yn ifanc a hen. Cyfoethog neu dlawd. Gwryw neu fenyw. Hindw neu Fwslim. Ac mae Duw eisiau i ni i gyd drin ein gilydd a phawb arall yn gydradd.

    Roedd hon yn neges anodd ar y pryd oherwydd bod Hindwiaid a Mwslimiaid yn dadlau ac yn cweryla o hyd ynghylch materion crefyddol. Mae’n neges anodd ei chofio hyd yn oed heddiw.

  6. Mae’r rhai hynny sy’n dilyn athrawiaeth Guru Nanak heddiw’n cael ei galw’n Sikhiaid. Mae’r Guru Nanak yn bwysig iawn yn eu golwg am mai ef oedd sylfaenydd y grefydd Sikhaidd. Dyna pam y maen nhw’n dathlu ei ben-blwydd bob blwyddyn gyda brwdfrydedd a llawenydd mawr.
     
  7. Yn rhanbarth y Punjab, yn India, mae’r plant yn cael dillad newydd ar ben-blwydd Guru Nanak (dangoswch y dillad parti) ac maen nhw’n cael diwrnod o wyliau ysgol er mwyn gallu ymuno yn y dathliadau.

    Yn aml, fe fydd y bobl yn gorymdeithio trwy’r strydoedd. Caiff y gorymdeithiau hyn eu harwain gan arweinwyr crefyddol, ac fe fydd bandiau neu grwpiau cerddorol yr ysgolion yn eu dilyn (chwythwch un o’r cyrn hwtio) ac fe fydd pobl yn gwisgo arfwisg ffug (dangoswch yr hetiau parti).

    Fe fydd llwybr yr orymdaith yn cael ei addurno â blodau a baneri, (dangoswch y baneri), ac fe fydd y mynedfeydd wedi eu haddurno gan ddarlunio gwahanol agweddau ar Sikhiaeth.

    Yn y temlau Sikhaidd, sy’n cael eu galw’n gurdwaras, mae llyfr sanctaidd y Sikhiaid, sy’n cael ei alw’n Guru Granth Sahib, yn cael ei ddarllen o’i ddechrau i’w ddiwedd.

    Ar ôl i’r darllen ddod i ben bydd cerddoriaeth yn dilyn (dangoswch y CD o gerddoriaeth parti), a bydd y bobl yn gwrando ar wersi a barddoniaeth.

    Bydd pawb yn rhannu pryd o fwyd o’r gegin rydd. Fe fydd bwydydd arbennig (dangoswch y deisen fach gyda’r gannwyll arni) yn cael eu bwyta a’i weini i bawb sydd yno.

    Caiff canhwyllau eu goleuo (goleuwch y gannwyll fach) yn y temlau Sikhaidd ac yn y cartrefi, yn y siopau ac yn y swyddfeydd. Caiff arddangosfeydd tân gwyllt eu trefnu a bydd y rheini’n parhau tan yn hwyr yn y nos (diffoddwch y gannwyll). Mae’n swnio fel clamp o barti, yn wir!

Amser i feddwl

Mae Sikhiaid yn cofio pen-blwydd y Guru Nanak bob blwyddyn am ei fod yn ddyn arbennig iawn gyda neges arbennig. Gadewch i ni dreulio moment neu ddwy yn atgoffa ein hunain am ei neges.

Pa un ai bachgen neu ferch ydych chi,
Duw sydd wedi eich creu chi.
Pa un ai ifanc neu hen ydych chi,
Mae Duw’n gofalu amdanoch chi.
Pa un ai cyfoethog neu dlawd ydych chi,
Mae Duw’n eich caru chi.

Beth bynnag yw’r grefydd rydych chi’n ei dilyn,
Duw sydd wedi eich creu chi.
Pa wlad bynnag y cawsoch chi eich geni ynddi,
Mae Duw’n gofalu amdanoch chi.
Beth bynnag rydych chi’n gallu ei wneud neu ddim yn gallu ei wneud,
Mae Duw’n eich caru chi.

Yn union fel y gwnaeth Guru Nanak, fe allwn ninnau ddewis byw yn ôl y neges hon yn ein bywyd heddiw.
Fe allwn ni ddewis peidio â chwerthin am ben y rhai hynny sy’n wahanol i ni.
Fe allwn ni ddewis bod yn garedig.

Fe allwn ni ddewis peidio â chweryla gyda’r rhai hynny sy’n wahanol i ni.
Fe allwn ni ddewis dod â heddwch.

Fe allwn ni ddewis peidio ag edrych i lawr ar y rhai hynny sy’n wahanol i ni.
Fe allwn ni ddewis trin pawb yn gydradd.

Cyn i ni fynd, cymrwch un olwg arall o’ch cwmpas.
Ydyn, rydyn ni i gyd yn wahanol.
Ond mae pob un ohonom ni’n gydradd hefyd. 

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon