Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Wythnos Y Senedd 2012

Egluro ‘democratiaeth’ fel thema ganolog Wythnos y Senedd ac archwilio’r priodweddau sy’n gwneud arweinydd da.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Egluro ‘democratiaeth’ fel thema ganolog Wythnos y Senedd ac archwilio’r priodweddau sy’n gwneud arweinydd da.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Eglurwch fod rhywbeth o'r enw ‘Parliament Week - Wythnos y Senedd’, sef gweithgaredd a fydd yn cael ei drefnu gan Senedd y D.U. yn digwydd rhwng 19 a 25 Tachwedd. 

    Amcan yr wythnos yw cael pobl ledled y D.U. i siarad am y Senedd, am wleidyddiaeth ac am ddemocratiaeth. 

  2. Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod beth yw ystyr y gair ‘Senedd’, a gwerthfawrogwch unrhyw awgrymiadau, gan geisio tynnu ohonyn nhw y pwyntiau canlynol:

    -  Senedd yn Saesneg yw ‘Parliament’, ac yn Llundain mae adeilad sy’n cael ei alw’n Houses of Parliament, lle mae gwleidyddion o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn trafod materion pwysig ac yn llunio deddfau. 

    -  Mae Senedd hefyd yn yr Alban. Yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon mae’r bobl yn ethol ‘Cynulliad’. 

    -  Mae gan wahanol seneddau wahanol systemau ar gyfer ethol pobl i’w cynrychioli, ond y naill ffordd neu’r llall mae’r Aelodau Seneddol yn cael eu dewis gan y bobl y maen nhw’n eu gwasanaethu.

    Fe allech chi, os yw hynny’n briodol, nodi bod gennym ni hefyd yn y D.U. yr House of Lords - Ty’r Arglwyddi - ond nid cael eu hethol y mae aelodau Ty’r Arglwyddi. Maen nhw’n cael eu dewis am eu profiad a’u gwybodaeth, ac maen nhw’n cynnig help i’r llywodraeth etholedig ac yn  cael yr aelodau Seneddol i ‘ailfeddwl’ ynghylch pethau ambell dro!

  3. Eglurwch, er bod hyn yn ymddangos rywfaint yn gymhleth, mae seneddau etholedig yn ffordd o fod yn ddemocrataidd. 

    Holwch y plant eto beth maen nhw’n feddwl yw ystyr y geiriau ‘democrataidd’ a ‘democratiaeth’, a dewch i’r casgliad mai’r ystyr yw bod pobl gyffredin y wlad yn cael yr hawl i ddewis pwy sy’n eu harwain. 

    Fe ddywedodd Abraham Lincoln, arlywydd America yn yr 1800au, mai democratiaeth yw ‘Llywodraeth y bobl, gan y bobl, i’r bobl’, sef ‘Government of the people, by the people, for the people’.

  4. Awgrymwch y gallai’r plant roi cynnig ar ethol arweinydd mewn ffug etholiad. 

    Er mwyn cael y dyfyniadau i’w harddangos ewch i’r wefan: <https://www.radiowaves.co.uk/story/301978/title/whatmakesagreatleader> (mae ffilm fer ar y wefan hefyd y gallech chi ei dangos os hoffech chi), neu dangoswch y dyfyniadau sy’n dilyn, a’u darllen i’r plant. 

    (Efallai yr hoffech chi egluro mai dyn a oedd yn byw yn India yn y ganrif ddiwethaf oedd Mahatma Gandhi, dyn a fyddai’n defnyddio dulliau hollol ddi-drais  wrth helpu i geisio cael ei wlad yn annibynnol o lywodraeth Prydain.)

    Ewch trwy bob un o’r sleidiau a’r datganiadau gan egluro y bydd gan bob un o’r plant un bleidlais yr un ar y diwedd i ddewis yr unigolyn y maen nhw’n teimlo a fyddai’n gwneud yr arweinydd gorau ar y wlad yn ôl yr hyn maen nhw’n ei ddweud, ac unrhyw beth mae’r plant yn ei wybod amdanyn nhw.

    -  ‘When I despair, I remember that all through history the ways of truth and love have always won.’ (Gandhi) - Pan fydda i’n anobeithio, rydw i’n cofio bod ffyrdd gwirionedd a chariad wedi ennill bob amser trwy’r oesoedd.

    -  ‘You have to be unique, and different, and shine in your own way.’ (Lady Gaga) - Rhaid i chi fod yn unigryw, ac yn wahanol, a disgleirio yn eich ffordd eich hun. 

    -  ‘Courage is what it takes to stand up and speak. Courage is also what it takes to sit down and listen.’ (Winston Churchill) - Dewrder yw’r hyn sydd ei angen i sefyll i fyny a siarad. Dewrder hefyd yw’r hyn sydd ei angen i eistedd i lawr a gwrando.

    -  ‘I stand for freedom of expression, doing what you believe in, and going after your dreams.’ (Madonna) - Rydw i’n cynrychioli rhyddid mynegiant, gwneud yr hyn rydych chi’n credu ynddo, a dilyn eich breuddwydion. 

    -  ‘Education is the most powerful weapon which you can use to change the world.’ (Nelson Mandela) - Addysg yw’r arf cryfaf y gallwch chi ei ddefnyddio i newid y byd.

    -  ‘I still look at myself and want to improve.’ (David Beckham) - Rydw i’n dal i edrych arnaf fy hun ac eisiau gwella.

  5. Cynhaliwch bleidlais gan ofyn i bawb godi eu dwylo, a chyhoeddwch pwy yw’r enillydd! Pwysleisiwch hefyd ei bod yn gallu bod yn anodd weithiau i ddewis – efallai y byddech chi wedi hoffi pleidleisio i fwy nag un, neu efallai eich bod yn siomedig am na wnaeth yr un roeddech chi wedi ei ddewis wedi ennill. Ond dyna sut mae democratiaeth yn gweithio. 

    Yn y diwedd, mae pawb yn cytuno i fynd gyda’r hyn y mae’r rhan fwyaf o bobl (y mwyafrif) yn penderfynu arno. Ac unwaith y bydd yr un sydd wedi cael ei ethol yn cymryd ei le, neu ei lle, mae’r unigolyn hwnnw wedyn yn cynrychioli pawb (nid dim ond y rhai oedd wedi pleidleisio iddo!) – dyna beth yw democratiaeth! 

Amser i feddwl

Llenwch y bylchau yn eich meddwl:

–  Democratiaeth yw . . .

–  Mae democratiaeth yn bwysig oherwydd . . .

–  Pe byddwn i’n sefyll mewn etholiad, fy neges i i’r bobl fyddai  . . . 

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon