Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Amynedd!

Helpu’r plant i ddeall beth yw gwerth amynedd.

gan Susan MacLean

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddeall beth yw gwerth amynedd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Lluniau o wartheg tew.
  • Lluniau o wartheg tenau. 

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r disgyblion sôn wrthych chi am y pethau roedden nhw wedi’u cael yn anodd aros amdanyn nhw – penblwyddi, priodas deuluol, gwyliau, genedigaeth brawd neu chwaer fach.

    Wnaethon nhw deimlo erioed fel pe byddai'r pethau hynny byth yn mynd i ddigwydd? 

  2. Yn y Beibl, mae stori am ddyn o'r enw Joseff. Mae'n stori hir. Heddiw rydyn ni'n trafod rhan o'r stori ac yn dal i fyny gyda Joseff pan mae yn y carchar. Mae Joseff wedi bod yno am flynyddoedd. Mae'n rhaid ei fod yn dechrau meddwl a oedd byth yn mynd i gael ei ryddhau!

    Yn y carchar, mae gan Joseff ffrind, a oedd yn arfer bod yn gweithio fel pentrulliad yn gweini ar y brenin. Un diwrnod caiff y pentrulliad ei ollwng yn rhydd o’r carchar, a chaiff ei swydd yn ôl. Ef yw pentrulliad y brenin unwaith yn rhagor.

    Dwy flynedd y ddiweddarach, mae'r brenin yn cael breuddwyd. Mae'n breuddwydio ei fod yn gweld saith buwch d tew a hardd yn bwyta'r gwair. Wedyn mae'n gweld saith buwch arall, ond mae'r rheini'n denau ac yn hyll. Mae'r gwartheg tenau a hyll yn sefyll wrth ymyl y gwartheg tew a hardd. Yna, mae'r gwartheg tenau a hyll yn bwyta'r gwartheg tew a hardd. (Defnyddiwch luniau i ddangos hyn.)  Wedyn caiff y brenin ail freuddwyd. Y tro hwn mae'n breuddwydio bod saith tywysen denau o yd yn llyncu saith tywysen dew o yd.

    Pan wnaeth y brenin ddeffro, mae'r brenin yn awyddus i gael gwybod beth yw ystyr y breuddwydion a gafodd, ond doedd neb yn gallu dweud wrtho. Yn sydyn, fe gofiodd y pentrulliad ei fod wedi cael breuddwyd pan oedd yn y carchar, a phan adroddodd hi wrth Joseff, roedd Joseff wedi gallu dweud wrtho beth oedd ei hystyr. Felly fe ddywedodd y pentrulliad wrth y brenin bod un a oedd yn garcharor fyddai'n gallu dehongli breuddwydion.

    Ar unwaith, fe anfonodd y brenin am Joseff. Mae’r gwarchodwyr yn mynd i'w nôl ar unwaith. Maen nhw'n gwneud iddo ymolchi, yna maen nhw'n ei eillio, rhoi dillad glân amdano, a mynd ag ef at y brenin.

    Mae'r brenin yn gofyn i Joseff a yw'n gallu dehongli ei freuddwydion.  Mae Joseff yn dweud nad yw ef yn gallu, ond y byddai Duw’n gallu gwneud hynny. Felly mae'r brenin yn adrodd ei freuddwydion wrth Joseff. 

    Mae Joseff yn dweud wrth y brenin bod y ddwy freuddwyd yn golygu'r un peth - bod Duw yn datguddio'r hyn y mae'n mynd i'w wneud. Mae Joseff yn dweud bod y saith fuwch dew a hardd yn cynrychioli saith o flynyddoedd da gyda llawer o gnydau toreithiog yn tyfu yn y wlad. Mae'r saith buwch denau a hyll yn cynrychioli saith o flynyddoedd drwg fydd yn dilyn y saith mlynedd dda. Yn ystod y saith mlynedd ddrwg ni fydd cnydau yn tyfu. Bydd newyn yn y wlad.

    Mae Duw yn bwriadu i hyn ddigwydd, ac fe fydd yn digwydd.

    Mae Joseff yn dweud wrth y brenin y byddai'n beth doeth iddo benodi rhywun i ofalu am storio'r bwyd ychwanegol fyddai'n tyfu yn ystod y saith mlynedd dda.  Wedyn, fe fyddai bwyd ar gael i'w fwyta yn ystod y saith mlynedd o gynaeafau gwael.

    Pwy, feddyliwch chi y mae'r brenin yn ei ddewis? Mae'n dewis Joseff! Joseff fydd y rheolwr dros y cyfan o'r Aifft. Dim ond y brenin fyddai'n bwysicach na Joseff. Mae'r brenin yn gosod modrwy frenhinol ar un o fysedd Joseff, yn rhoi dillad crand iddo i'w gwisgo, a chadwyn aur i'w rhoi o amgylch ei wddf. A chafodd holl bobl yr Aifft eu harbed rhag marw o newyn.

  3. Roedd Duw o ddifrif gyda Joseff.  Roedd Joseff wedi meddwl na fyddai ond yn gallu breuddwydio am y dydd y byddai'n cael ei ryddhau o'r carchar. Ond nid yn unig fe gafodd ei ryddhau o'r carchar, ond fe gafodd swydd o awdurdod yn yr Aifft.  Fe dalodd iddo fod yn amyneddgar!

Amser i feddwl

Ydych chi’n teimlo’n ddiamynedd am rywbeth ar hyn o bryd?

Mae’n anodd disgwyl i rywbeth ddigwydd, ond fe ddylem ni fod yn amyneddgar ac aros am yr adeg iawn. Mae’n dda bod yn amyneddgar a disgwyl gan y bydd y canlyniadau terfynol yn werth yr holl aros.

Gweddi

Diolch i ti, Dduw, am yr holl bethau rwyt ti’n eu rhoi i ni.  

Helpa ni i fod yn amyneddgar,

yn enwedig pan fyddwn ni’n disgwyl i rywbeth cyffrous ddigwydd. 

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon