Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Divali : Gwyl Goleuni

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried arwyddocâd yr wyl Hindwaidd, Diwali.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen tortsh fach neu olau bach sydd i’w gael weithiau ar gylch allwedd car.
  • 8 cannwyll fach (tea lights) mewn cynhwysyddion diogel.
  • Mae’n bosib dod o hyd i ddelweddau o ddathliadau Diwali ar y rhyngrwyd (yn ôl cytundeb hawlfraint).
  • Fe fyddai’n bosib i grwp o blant actio stori Rama a Sita, a’r stori’n cael ei hadrodd trwy gyfrwng cyflwyniad PowerPoint , neu (os hoffech chi ffurf lawnach) fe allech chi addasu The Divali Story gan Anita Ganeri.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y thema, goleuni, trwy nodi y byddwn ni cyn hir yn nesáu at adeg dywyllaf y flwyddyn. Fe fydd y dydd yn byrhau nawr, ac fe fydd yn tywyllu’n gynt, yn enwedig ar ôl i ni droi’r clociau’n ôl awr ddiwedd mis Hydref. Mae’n dda cael tortsh fach neu olau allwedd os byddwn ni’n dod adref yn y tywyllwch.

  2. Nodwch mai goleuni yw thema gwyl grefyddol o’r enw Diwali (sydd hefyd yn cael ei sillafu fel Divali), ac mae’r wyl yn aml yn cael ei galw’n ‘wyl y goleuni’. 

    Mae’r wyl yn cael ei dathlu gan y bobl sy’n dilyn y ffydd Hindwaidd ym mis Kartika (ein mis Hydref neu fis Tachwedd ni). Caiff ei chynnal ar y noson dywyllaf o’r mis, noson y lleuad newydd, pan fyddwch chi ddim yn gallu gweld y lleuad yn yr awyr. (Mae’r dyddiad yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Fel arfer, bydd yn digwydd tuag adeg ein gwyliau hanner tymor, ond mae’n hwyrach eleni.) 

  3. Eglurwch mai achlysur hapus yw Diwali. Gwahoddwch y plant sydd â’u teulu’n Hindwiaid i ddisgrifio beth fyddan nhw’n ei wneud yn ystod y dathlu. 

    Bydd teuluoedd yn paratoi trwy lanhau ac addurno’u cartrefi. 
    Bydd strydoedd ac adeiladau’n cael eu haddurno â goleuadau. 
    Bydd y bobl yn anfon cardiau ac yn rhoi anrhegion i’w gilydd. 
    Bydd y bobl yn mwynhau bwydydd arbennig a melysion. 
    Mae tân gwyllt yn rhan o’r dathliadau.   
    Bydd pawb yn gweddïo am ffyniant a lwc dda yn y dyddiau sydd i ddod. 
    Ac yn fwyaf arbennig, fe fydd lampau bach clai (sy’n cael eu galw’n divas) yn cael eu goleuo. 

  4. Mae pobl yn ansicr o darddiad yr wyl. Mae nifer o storïau yn egluro sut y dechreuodd. Un o’r storïau mwyaf cyfarwydd yw stori Rama a Sita, stori sy’n cael ei hailadrodd bob blwyddyn yn ystod y Diwali.

    Tywysog oedd yr Arglwydd Rama, ac roedd wedi priodi tywysoges hardd o’r enw Sita. Roedd tad Rama eisiau iddo fod yn frenin, ond doedd ei fam ddim yn cytuno. Roedd hi eisiau i frawd Rama, sef Bharat, gael yr anrhydedd honno. 

    Cafodd Rama a Sita orchymyn i adael y deyrnas am 14 o flynyddoedd. Aeth brawd arall, Lakshman, gyda nhw.

    Ymhen amser, bu farw’r hen frenin, tad Rama. Roedd Bharat yn gwybod beth oedd dymuniad ei dad, sef bod Rama’n ei olynu fel brenin, ac fe aeth i goedwig bell i chwilio am ei frodyr a dod o hyd iddyn nhw yno. Fe roddodd wahoddiad i Rama a Sita ddod yn ôl i’r deyrnas i fod yn frenin a brenhines. Ond roedden nhw wedi addo cadw draw am 14 mlynedd, ac roedd Rama’n mynnu cadw at ei air.

    Felly, fe wnaethon nhw aros yn y goedwig. Ond un diwrnod fe ddaeth brenin drwg o’r enw Ravana a dal Sita a’i chario i ynys bell. Cadwodd Ravana Sita’n garcharor yn ei balas ar yr ynys.

    Chwiliodd Rama a Lakshman amdani. Fe ddywedodd aderyn wrthyn nhw ble roedd Sita’n cael ei chadw’n gaeth. Gyda help Hanuman, y mwnci-gadfridog, aeth Rama i’r castell, ac fe fu brwydr fawr yno rhyngddyn nhw â’r brenin drwg. Yn y diwedd, fe laddodd Rama y brenin drwg gyda saeth aur, ac fe lwyddodd i achub Sita.

    Ar ôl 14 mlynedd, roedd hi’n ddiogel i Rama fynd yn ôl adref. Tua diwedd eu taith, roedd y nos yn dywyll iawn, a dim lleuad i oleuo’r llwybr oedd o’u blaen. Felly, er mwyn i’r Brenin Rama a’r Frenhines Sita allu dod o hyd i’w ffordd adref yn ddiogel, fe osododd pawb lampau bach y tu allan i’w tai.

    Dyna’r rheswm pam y bydd y bobl yn goleuo lampau bach clai bob blwyddyn yn ystod gwyl Diwali.

Amser i feddwl

Diweddwch trwy droi’r golau i lawr a goleuo’r canhwyllau bach yn araf. 

Gwahoddwch bawb i feddwl am stori Rama a Sita.

Mae’r stori’n dweud sut y mae’r da yn gallu trechu’r drwg. Mae’n cyfeirio at ba mor bwysig yw cyfeillgarwch a ffyddlondeb, rhoi a rhannu, daioni a hapusrwydd, gobaith a dechreuadau newydd.

Mae’n dangos sut y mae cyfeillgarwch yn gallu darparu cefnogaeth yn ystod adegau anodd a thywyll, ac yn gallu ein helpu i ddod o hyd i’n gwir dynged. 

Pwy oedd yn ffrindiau da yn stori Rama a Sita? Pwy fydd yn gallu dangos eu bod yn ffrindiau da yn yr ysgol heddiw?

Dymunwch wyl Diwali hapus i bawb.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon