Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mistar Pen Taten

Atgoffa’r plant i fod yn ddiolchgar am datws.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r plant i fod yn ddiolchgar am datws.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen taten fawr i’w dangos, taten gyda rhai ‘llygaid’ arni.
  • Hefyd daten wedi ei thorri yn ei hanner ac wedi ei pharatoi ar gyfer printio patrwm, paent lliw, a thudalen fawr o bapur.
  • Os gallwch gael gafael ar y gêm Mr Potato Head dewch â hi gyda chi i’r gwasanaeth. Neu fe allech chi ddefnyddio taten fawr a phinnau bawd lliwgar, llygaid, coesau matsys, ac ati, neu unrhyw bethau y gallwch chi feddwl amdanyn nhw i gynrychioli gwahanol rannau o wyneb neu gorff Mistar Pen Taten.
  • Bwrdd gwyn neu siart troi a phinnau ffelt.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch fod y tymor pan fydd llysiau fel pys a ffa, sy’n tyfu yn yr ardd, wedi mynd heibio, a’r cnwd lleol o gynnyrch yr haf ddim i’w cael yn y siopau - llysiau fel letys a ffa dringo, a ffrwythau fel mefus a mafon.

    Eglurwch fod ein masnachwyr yn mewnforio llysiau a ffrwythau o wledydd pell trwy gydol y flwyddyn, ac mae digon o’r cynnyrch ar gael yn yr archfarchnadoedd i ni waeth pa dymor ydyw. Ond fe fydd y garddwyr yn dweud nad yw’r llysiau a’r ffrwythau sydd wedi eu mewnforio’n blasu cystal â’r rhai y gallwch chi eu tyfu a’u casglu eich hunan o’r ardd.

    Beth bynnag am hynny, mae’n dymor y bresych a’r sbrowts a’r llysiau gwraidd ar hyn o bryd. Dyma’r adeg y byddwn ni’n mwynhau cawl a phrydau cynnes wedi eu gwneud gyda moron a rwdins, maip a phannas.

    Ond mae un llysieuyn arall y byddwch chi’n siwr o’i weld yn ein siopau bob amser. (Dangoswch y daten.)

  2. Sawl ffordd wahanol o goginio tatws y gallwch chi feddwl amdanyn nhw?

    (Derbyniwch atebion, ac ar ben pob colofn ar draws y bwrdd gwyn neu’r siart troi, tynnwch lun neu siâp i gynrychioli’r atebion.)

    Eglurwch beth mae pob llun neu siâp yn ei gynrychioli. Er enghraifft, fe allai ‘tatws stwnsh’ gael eu cynrychioli gan siâp fel cwmwl gwyn, ‘tatws wedi’u ffrio’ fel silindrau fflat, ‘taten bob’ fel sffêr, a ‘sglodion’ fel dau neu dri phrism petryal.

  3. Holwch y plant sut maen nhw’n hoffi bwyta eu tatws. Beth yw eu ffefryn o ran y ffordd mae’r tatws yn cael eu coginio?

    Eglurwch hyn trwy lunio eich rhestr lluniau.

    Gofynnwch i’r plant benderfynu pa un yw eu hoff ffordd o fwyta tatws. Dywedwch y byddwch chi’n gofyn iddyn nhw wedyn godi eu dwylo i ddangos hynny, ac y byddwch chi’n eu cyfrif ac yn nodi’r nifer ar y siart.

    Ar ôl i chi gyfrif, rhowch y rhif o dan y llun priodol ar y bwrdd gwyn.

    Gofynnwch gwestiynau wedyn am y wybodaeth rydych chi wedi ei chasglu. Er enghraifft:

    -  Ydi 9 yn fwy na 6?
    -  Ydi 2 y llai na 5?
    -  Pa grwp sydd a’r nifer fwyaf/ lleiaf?
    -  Pa ddull o goginio tatws yw’r ffefryn?

  4. Fe allwn ni wneud pethau eraill gyda’r tatws hefyd.

    Dangoswch y daten rydych chi wedi ei thorri a’i pharatoi ar gyfer printio patrwm. (Os yw amser yn caniatáu, fe allech chi wneud hyn.) 

  5. Fe allwn ni hyd yn oed chwarae gêm gyda thatws. Enw’r gêm yw Mistar Pen Taten, neu Mr Potato Head. Mr Potato Head oedd y tegan cyntaf erioed i gael ei hysbysebu ar y teledu, bron i  60 mlynedd yn ôl.

    (Yn dibynnu ar yr hyn mae’r plant wedi bod yn ei ddysgu yn y dosbarth, fe allech chi gynnal cwis bach syml, a gadael i bob plentyn sy’n ateb yn gywir ddewis y rhan o’r corff yr hoffen nhw ei osod i helpu i adeiladu Mistar Pen Taten.)

  6. Dangoswch y daten eto (neu dangoswch daten arall, os yw’n well gennych chi).

    Gofynnwch i’r plant sylw ar y marciau bach sydd ar groen y daten – y ‘llygaid’. Eglurwch, pe byddech chi’n plannu’r daten yn y pridd yn yr ardd yn y gwanwyn, fe fyddai planhigyn tatws yn tyfu ohoni, a’r egin yn tyfu o’r marciau bach hyn, ac fe fyddech chi’n cael rhagor o datws o’r planhigyn. Dyna i chi ryfeddod! 

  7. Fe allech chi ymestyn ychydig ar y gwasanaeth trwy feddwl pa mor gyffredin ac arferol yw tatws, ond meddyliwch hefyd gymaint rydyn ni’n dibynnu ar y llysiau cyffredin hyn.

    Trafodwch pa mor bwysig yw pethau cyffredin yn ein bywyd, a dewch i’r casgliad ein bod ni angen y pethau cyffredin hynny yn ein bywyd yn ogystal â’r pethau cyffrous a diddorol.

Amser i feddwl

Canwch y gân fach syml sy’n dilyn, cân sy’n diolch am datws, ar y diwn, ‘I can sing a rainbow’.

‘Tatws wedi’u berwi, wedi’u stwnsio, neu’u ffrio,
tatws rhost, sglodion, tatws pob!
Diolch Dduw am datws, diolch am datws, diolch am ein bwyd bob dydd.’

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch am datws.
Diolch ein bod ni’n gallu tyfu tatws yn yr ardd,
ac yn gallu eu prynu yn y siopau.
Diolch hefyd am y gallu i’w coginio mewn gwahanol ffyrdd,
ac am allu mwynhau eu bwyta.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon