Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dydd Bodhi

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Edrych ar sut y dechreuodd Bwdhaeth, a deall bod dysgu rhywbeth newydd yn gallu newid y ffordd rydyn ni’n meddwl am bethau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi baratoi nifer o blant i actio’r stori wrth i chi ei hadrodd (gwelwch rhif 4).
  • Paratowch drac sain Tangled/Rapunzel o ‘I see the light’ i’w chwarae ar ddechrau’r gwasanaeth.
  • Paratowch hefyd recordiad o unrhyw gerddoriaeth dawel addas i’w chwarae yn ystod yr ‘Amser i feddwl’.

Gwasanaeth

  1. Daw’r plant i mewn i’r gwasanaeth i sain cerddoriaeth Tangled/Rapunzel - ‘I see the light’ .

    Gofynnwch i'r plant feddwl am bopeth y maen nhw'n gwybod amdano (er enghraifft, mai sffêr yw'r ddaear, a bod 24 awr mewn diwrnod).

    Siaradwch am ba mor werthfawr yw gwybodaeth.

  2. Dywedwch fod llywodraethau mewn rhai gwledydd yn ceisio atal y bobl rhag dysgu am bethau newydd. Mae ganddyn nhw ofn pe byddai'r bobl yn cael hyd i wybodaeth a syniadau newydd, y bydden nhw'n debygol o ddechrau meddwl drostynt eu hunain, ac y gallai hynny arwain at wrthryfeloedd yn erbyn y llywodraeth.

  3. I Fwdhyddion, mae gwybodaeth yn bwysig. Yn neilltuol, mae yna fath arbennig o wybodaeth y maen nhw'n ei alw'n ‘goleuedigaeth’. Mae hyn yn golygu cael gwybodaeth uniongyrchol o natur wirioneddol pethau, gwybod beth sy'n bwysig. Nid gwybodaeth ail-law yw hyn sydd yn cael ei adrodd gan rywun arall, ond dealltwriaeth yr ydych yn ei dderbyn o'ch mewnwelediad eich hun.

  4. Bron i 2,500 o flynyddoedd yn ôl roedd dyn o'r enw Siddhartha Gautama yn byw, a gafodd brofiad o'r 'goleuedigaeth' hwn. Dyma'r stori am yr hyn d ddigwyddodd. (Efallai y byddwch yn dymuno aralleirio’r adroddiad sy'n dilyn, neu ei droi'n ddrama fach.)

    Tywysog Indiaidd oedd Siddhartha Gautama. Cafodd ei fagu mewn teyrnas fechan yng ngogledd-ddwyrain India, mewn lle sydd heddiw'n rhan o wlad Nepal. Roedd ei dad, y Brenin Suddhodana, yn arweinydd nerthol a chyfoethog.

    Cyn i Siddhartha gael ei eni, roedd ei fam, y Frenhines Maya, yn teimlo y byddai ei baban yn dod yn berson pwysig iawn yn y byd. Ystyr enw'r baban, Siddhartha, yw 'yr un sy'n dod â holl ddaioni’ neu, ‘ef yw’r un sy'n cyflawni ei nod’.

    Cafodd Siddhartha ei eni mewn gardd, a dywed y Bwdhyddion fel y bu i dangnefedd mawr ddisgyn ar y deyrnas gyfan yr adeg honno.

    Fe ledaenodd y newyddion am enedigaeth y tywysog, a daeth llawer o ymwelwyr i'w weld. Un o'r ymwelwyr hyn oedd gwr sanctaidd a doeth, o'r enw Asita. Fe ddywedodd Asita wrth y brenin a'r frenhines y byddai'r tywysog naill ai yn frenin mawr neu’n sant mawr.

    Roedd y brenin a'r frenhines yn hapus iawn.  Ond, yn drist iawn, yn fuan ar ôl i'r baban gael ei eni, aeth ei fam yn ddifrifol wael.  Bu hi farw pan oedd Siddhartha yn ddim ond wythnos oed. Fodd bynnag, roedd Pajapati, chwaer y frenhines, yn ei garu, ac fe'i magodd fel pe byddai'n fab iddi hi ei hun. Fe gafodd y tywysog blentyndod hapus, dibryder oddi mewn i furiau'r palas.

    Roedd y Brenin Suddhodana yn awyddus i'w fab fod yn ymerawdwr mawr ac nid yn sant. O ganlyniad, am flynyddoedd lawer fe roddodd i Siddhartha bob moethusrwydd yr oedd yn ei ddymuno. Gwnaeth y  brenin yn siwr fod Siddhartha yn derbyn yr addysg orau oedd ar gael. Dysgodd y tywysog yn sydyn. Mewn ffaith, fe ddywedir ar ôl iddo dderbyn ychydig wersi, nad oedd arno angen athrawon, gan ei fod wedi dysgu'r cyfan yr oedden nhw'n gallu ei addysgu iddo.

    Fel yr oedd Siddhartha'n tyfu i fyny, roedd ei addfwynder a'i garedigrwydd yn gyfwerth â'i ddeallusrwydd. Yn wahanol i'w ffrindiau ac aelodau ei deulu, treuliodd gyfnodau lawer ar ei ben ei hun, yn cerdded trwy’r gerddi yn y palas, yn gwneud ffrindiau â'r anifeiliaid a'r adar.

    Pan dyfodd i fyny, fe briododd Siddhartha dywysoges, y Dywysoges Yasodhara, ac fe fuon nhw'n byw yn dawel tan ar ôl genedigaeth eu mab, Rahula.

    Fe benderfynodd Siddhartha fynd i weld gweddill y byd, a chychwynnodd deithio. Roedd ei dad wedi ceisio cuddio oddi wrtho bob gwybodaeth am y tristwch a oedd yn bodoli yn y byd - pobl a oedd yn wael ac ar fin marw, tlodi ac anghyfiawnder - ond fel yr oedd y tywysog yn teithio ni allai osgoi gweld bod y byd yn llawn o ddioddefaint a thristwch.

    Un diwrnod fe welodd Siddhartha ddyn sanctaidd yn eistedd yn hollol llonydd o dan goeden. Bu'n meddwl llawer am y dyn hwn, a phan ddychwelodd i'r palas, fe benderfynodd ei fod yntau wedi ei alw i fyw bywyd sanctaidd fel y dyn hwn. Fe feddyliodd y byddai hynny'n ei helpu i ddeall pam fod y byd mor llawn o drafferthion a thristwch.

    Ymunodd Siddhartha â grwp o ddynion sanctaidd mewn coedwig. Roedd yn 29 mlwydd oed pan ymunodd â'r grwp, a threuliodd chwe blynedd wedyn yn astudio a myfyrio, gan fyw mewn tlodi mawr, a bwyta dim ond ychydig iawn o fwyd. Ond ni lwyddodd i ganfod ffordd o ddatrys y problemau yn y byd, na sut i helpu pobl i weithio er mwyn gwneud y byd yn lle gwell.

    Un diwrnod, pan gynigiodd merch ifanc fwyd iddo, fe'i cymerodd, ac yna eisteddodd o dan goeden Bodhi yn nhref Bodhgaya. Fe eisteddodd yno am ddyddiau lawer hyd nes iddo brofi goleuedigaeth: yn awr roedd yn sicr ei fod yn deall beth oedd achos dioddefaint, a sut y gallai helpu pobl. Ar ôl hyn y cafodd ei alw'n Fwdha, Ystyr yr enw Bwdha yw 'yr un goleuedig’.

    Teithiodd Siddhartha i bob cwr o India yn addysgu pobl. Fe ddaeth yn un o athrawon mwyaf y byd, ac ef yw un o'r bobl bwysicaf a fu'n byw erioed.

  5. Mae'r rhai sy'n dilyn ei ddysgeidiaeth yn cael eu galw'n Fwdhyddion.  Bob blwyddyn, bydd Bwdhyddion yn dathlu'r dydd pryd y cafodd Gautama ei oleuedigaeth, ac maen nhw’n galw'r diwrnod hwnnw'n Ddydd Bodhi. 

Amser i feddwl

(Goleuwch gannwyll, a chwaraewch gerddoriaeth dawel i helpu’r plant fyfyrio.)

Mae Bwdhyddion yn treulio llawer o amser yn myfyrio. Yn eu hachos nhw, y ffordd i ddechrau yw trwy fod yn berffaith dawel a llonydd, gan wacau’r meddwl o’u holl feddyliau. 

Am y munud nesaf, fe hoffwn i chi geisio peidio meddwl am unrhyw beth. Ceisiwch wacau eich meddwl ac anghofio am bopeth –peidio meddwl am unrhyw beth o gwbl. Mae’n debyg y bydd hynny’n beth anodd iawn i’w wneud!

Gweddi
Bydded i fy ngeiriau a fy ngweithredoedd heddiw
ddod â goleuni a bywyd i eraill.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon