Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rwdolff Y Carw Trwyn-Goch

Gwasanaeth ar gyfer y Nadolig

gan Manon Ceridwen Parry

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y ffaith fod pob un ohonom yn unigryw ac yn bwysig, a bod y nodweddion sy’n ein gwneud yn wahanol yn rhoddion arbennig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cryno ddisg yn cynnwys y gân (neu llwythwch y gerddoriaeth i lawr oddi ar y rhyngrwyd, unrhyw fersiwn) ‘Rudolph the red-nosed reindeer’.
  • Mae’r stori wreiddiol gan Robert L. May. Fe’i cyhoeddwyd yn gyntaf gan Montgomery Ward yn y flwyddyn 1939, ac fe wnaeth brawd yng nghyfraith yr awdur droi’r stori’n gân a ddaeth yn gân boblogaidd iawn.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n edrych ymlaen at y Nadolig, ac archwiliwch gyda nhw beth mae’r Nadolig yn ei olygu iddyn nhw. Fe all fod yn amser hapus a chyffrous iawn. 

    Trafodwch gyda’r plant rai o’r caneuon a’r storïau arbennig sy’n gysylltiedig â’r Nadolig. Pa rai yw eu ffefrynnau? 

  2. Mae un gân yn gân drist iawn (ond mae’n gorffen yn hapus). Y gân honno yw ‘Rudolph the red-nosed reindeer’. Mae’n un o hoff ganeuon y Nadolig gan lawer o bobl. Ydi’r plant yn gyfarwydd â’r gân? Ydyn nhw’n gwybod y stori?

    (Chwaraewch y gân, ac wedyn ewch dros y stori gyda’r plant.)

  3. Mae’r stori’n drist ar y dechrau. Mae gan Rwdolff drwyn coch iawn, ac mae ei ffrindiau’n gwneud hwyl am ei ben. Maen nhw’n chwerthin, yn galw enwau arno, a dydyn nhw ddim yn gadael iddo chwarae gyda nhw. Heddiw, fe fydden ni’n galw hynny’n ‘fwlio’. 

    Archwiliwch sut deimlad yw bod yn wahanol, a phawb arall yn gwneud hwyl am eich pen oherwydd eich bod yn ‘wahanol’. Mae’n gwneud i chi deimlo’n unig iawn ac yn anhapus. 

  4. Ond, mewn gwirionedd, roedd trwyn coch Rwdolff yn ei wneud yn rhywun arbennig yn y pen draw. Er mai ei drwyn coch oedd yn ei wneud yn wahanol i’r ceirw eraill, yn y diwedd dyna beth sy’n ei wneud yn ‘sbesial’. 

    Mae Siôn Corn yn gofyn iddo fynd i’r tu blaen a bod yn arweinydd ar y ceirw i gyd. Oherwydd bod ei drwyn yn lliw coch mor llachar mae’n gallu arwain car llusg Siôn Corn trwy’r niwl. 

  5. Cyn hynny, roedd pawb yn meddwl bod rhywbeth o’i le ar ei drwyn ac roedd gan Rwdolff gywilydd ohono. Ond mewn gwirionedd, roedd trwyn Rwdolff yn ddefnyddiol iawn i Siôn Corn. Ac fe ddaeth Rwdolff yn un o’r ceirw enwocaf erioed oherwydd ei drwyn coch unigryw. 

    Mae’n bosib y gallai rhywbeth tebyg fod yn wir amdanom ninnau hefyd. Yr hyn sy’n ein gwneud ni’n wahanol i bawb arall, weithiau, yw’r peth sy’n ein gwneud ni’n arbennig ac yn ‘sbesial’.

Amser i feddwl

Rydyn ni i gyd yn unigryw (eglurwch beth yw ystyr y gair os teimlwch ei fod yn anodd i’r plant ddeall). 

Archwiliwch sut rydych chi’n teimlo pan fyddwch chi wedi derbyn bod pawb yn wahanol, a phan fyddwch chi’n sylweddoli bod rhywbeth y mae rhai pobl yn ei ystyried yn wendid weithiau’n gallu bod yn gryfder ynom.

Gweddi
(Chwaraewch y gân eto a threuliwch ychydig o amser yn meddwl yn dawel. Anogwch y plant i ailadrodd y weddi ganlynol ar eich ôl chi.)
Diolch i ti, Dduw, am wneud pob un ohonom yn ‘sbesial’.
Diolch i ti, Dduw, am fy ngwneud i’n ‘sbesial’.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon