Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Daith : Gwasanaeth ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl am y gost o roi a dangos faint ydych chi’n ei feddwl o rywun

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar yr hysbyseb teledu sydd gan gwmni John Lewis ar gyfer 2012. Gallwch weld yr hysbyseb a’i llwytho i lawr oddi ar y wefan  www.youtube.com/watch?v=0N8axp9nHNU.
  • Fe fydd arnoch chi angen ymgyfarwyddo â chynnwys yr hysbyseb. Mae’n dangos anturiaeth ‘dyn eira’ sy’n dymuno dangos i ‘ddynes eira’ faint mae’n ei feddwl ohoni.

Gwasanaeth

  1. Ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2, dechreuwch gyda jôc fach i dorri’r iâ fel petai - fel jôc cracer Nadolig:
    How do snowmen get around? Ateb: They ride an icicle! Neu ryw jôc arall debyg y gallwch chi feddwl amdani.

    Ar gyfer myfyrwyr Cyfnod Allweddol 3+ trafodwch y ffaith nad yw’n hawdd bob amser dod o hyd i’r anrheg Nadolig delfrydol, a phwysleisiwch fod ‘rhoi’ yn un ffordd rydyn ni’n gallu dangos bod gennym feddwl o rywun.

  2. Ewch ymlaen i gyfeirio at y dyn a’r ddynes eira sy’n ymddangos yn hysbyseb teledu 2012 John Lewis. Gwahoddwch bawb i wylio’r hysbyseb gyda chi (1'.30").

  3. Eglurwch mai teitl yr hysbyseb yw 'The Journey'. Gwahoddwch gymuned yr ysgol i drafod y stori sydd yma. Holwch: 'Beth mae’r stori fach yma’n ei ddweud wrthym am fod yn ofalgar ac am ‘roi’? Pwysleisiwch y ffaith, pa un a ydyn ni’n prynu neu’n gwneud anrheg Nadolig, neu hyd yn oed ddim ond yn helpu ffrind i wneud rhywbeth mae’n cymryd amser ac ymdrech i ddangos faint ydych chi’n ei feddwl o rywun. 

  4. (Yn neilltuol ar gyfer ysgolion eglwys) Trafodwch sut y gallech chi roi’r un teitl i stori’r Nadolig - ‘Y Daith’ neu 'The Journey'. Mae stori’r Nadolig yn sôn am daith Mair a Joseff i ddyfodol cwbl ddieithr iddyn nhw. Doedden nhw ddim yn gwybod beth fyddai’n digwydd iddyn nhw fel teulu wrth iddyn nhw ddod â’r anrheg, sef Iesu Grist, i’r byd. Sut roedden nhw’n teimlo, tybed? Fe wynebodd y doethion anawsterau a pheryglon hefyd ar eu hantur hwythau a’u taith bell i gyflwyno’u hanrhegion. Pam gwnaethon nhw deithio mor bell? 

  5. Dewch i gasgliad trwy gyfeirio at stori sy’n adrodd hanes bachgen yn Affrica a roddodd gragen hardd yn anrheg i’w athrawes un Nadolig. Roedd yr athrawes wedi dotio pan welodd hi’r gragen. "Ble cefaist ti hon?" gofynnodd i’r bachgen. Eglurodd y bachgen ei fod wedi cerdded bob cam i draeth a oedd gryn bellter oddi yno i ddod o hyd i’r gragen. Wedi rhyfeddu pan glywodd hynny, fe ddywedodd ei athrawes wrtho: "Ddylet ti ddim bod wedi mynd mor bell yn un swydd i gael anrheg fel hon i mi." Gwenodd y bachgen. Ac fe ddywedodd: "Mae’r daith hir yn rhan o’r anrheg."

  6. Os yw amser yn caniatáu, edrychwch ar yr hysbyseb unwaith eto cyn y cyfnod ‘Amser i feddwl’.

Amser i feddwl

Mae stori ddychmygol sy’n dechrau gyda golygfa o blant bach yn gwneud dyn eira yn darlunio beth mae’n gallu ei olygu i roi a dangos faint mae rhywun yn ei feddwl o rywun arall.

Nawr gadewch i ni feddwl o ddifrif!

Pa mor bell yr awn ni i ddangos faint ydyn ni’n ei feddwl o rywun arall?

Tybed a fydd dysgu rhoi a bod yn ofalgar yn ein gwneud ni’n rhywun arbennig?

Gweddi
Dduw cariadus,
rwyt ti wedi rhoi bywyd i ni.
Helpa ni i roi ychydig bach mwy o gariad
y Nadolig hwn a phob amser.

Cân/cerddoriaeth

Cerddoriaeth i ddiweddu’r gwasanaeth: y gân 'Power of Love' yn cael ei chanu gan Gabrielle Aplin

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon