Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae Cerddoriaeth Yn Fy Helpu I Dyfu

Ystyried pa mor bwysig yw’r rhodd o gerddoriaeth, a meddwl am sut mae Duw’n gweithio yn ein bywydau.

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pa mor bwysig yw’r rhodd o gerddoriaeth, a meddwl am sut mae Duw’n gweithio yn ein bywydau.

Paratoad a Deunyddiau

Fe fydd arnoch chi angen dau ddarn o gerddoriaeth sy’n ysgogi’r meddwl, ac yn ysgogi teimladau. Fe fydd arnoch chi angen cyswllt i’r ddolen hon sy’n rhoi i chi olygfa o fab a thad yn chwarae’r ddeuawd Chopsticks ar y piano (https://www.youtube.com/watch?v=uIiHZAtyZ5I  neu chwiliwch ar Google Chopsticks – Piano duet – YouTube am y clip).

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ddweud wrth eich cynulleidfa eich bod yn mynd i chwarae clip o gerddoriaeth. Gofynnwch i bawb gau eu llygaid, a dychmygu un man arbennig y mae’r darn cerddoriaeth yn gwneud iddyn nhw feddwl amdano.

    Chwaraewch y clip, ac yna holwch y plant am y mannau roedden nhw wedi bod yn meddwl amdanyn nhw. Pwysleisiwch fod cerddoriaeth yn gallu helpu ein dychymyg i ddod yn fyw.

  2. Yna, dywedwch eich bod yn mynd i chwarae darn arall o gerddoriaeth. Eto, gofynnwch i’r plant gau eu llygaid, ond canolbwyntio y tro hwn ar sut mae’r gerddoriaeth yn gwneud iddyn nhw deimlo. 

    Chwaraewch y clip, ac yna holwch y plant sut roedden nhw’n teimlo wrth wrando ar y gerddoriaeth. Pwysleisiwch y tro hwn bod cerddoriaeth yn gallu helpu ein teimladau ddod yn fyw. 

  3. Mae cerddoriaeth yn dda i’r dychymyg ac yn dda i’n teimladau ni. Mae’n ein helpu ni i gysylltu â phethau sy’n real ond yn bethau dydyn ni ddim yn eu gweld.

    Oherwydd na allwn ni weld Duw, mae llawer o bobl yn meddwl bod cerddoriaeth yn gyfrwng da i’n helpu ni deimlo bod Duw yma gyda ni.

  4. Mae gen i stori fach am gerddoriaeth sy’n gallu ein helpu ni i ddeall rhywbeth am y ffordd mae Duw’n teimlo tuag atom ni. 

    Unwaith, roedd cerddor, a oedd yn bianydd enwog, ar fin dod i’r llwyfan i ganu’r piano mewn cyngerdd pwysig. Roedd llawer o bobl wedi dod yno i wrando arno. Roedden nhw i gyd wedi talu llawer o arian am eu tocynnau, ac roedd pob un yn edrych ymlaen yn fawr at gael ei glywed yn perfformio. 

    Roedd bachgen bach yn eistedd yn un o’r seddau blaen yn aros i’r pianydd gyrraedd y llwyfan. Edrychodd y bachgen ar y piano ar y llwyfan gwag. Cyn i unrhyw un allu ei stopio, fe ddringodd y bachgen i fyny’r grisiau i ben y llwyfan, mynd at y piano, a dechrau canu’r diwn syml, adnabyddus  – ‘Chopsticks’. 

    Roedd y bobl yn y gynulleidfa’n ddig iawn. Beth yn y byd oedd y bachgen bach yma’n ei wneud yn canu piano’r cerddor enwog?

    ‘Tynnwch y bachgen acw oddi ar y llwyfan! Get that boy off the stage!’ gwaeddodd rhai o’r bobl. 

    Ond, yn sydyn, fe ddaeth y pianydd ei hun i’r golwg o ochr y llwyfan. Heb ddwrdio, na stopio’r bachgen bach, fe aeth y pianydd ato gan ddechrau chwarae tiwn gydag ef. Ychwanegodd harmoni at nodau’r bachgen bach, gan greu alaw hyfryd. ‘Dal ati!’ sibrydodd wrth y bachgen. 

    Pan ddaeth yr alaw roedden nhw’n ei chreu i ben, fe ddechreuodd pawb yn y gynulleidfa guro’u dwylo, ac fe ymgrymodd y bachgen a’r pianydd gyda’i gilydd o’u blaen. 

  5. Dyma glip fideo o fachgen bach pump oed, Raghav Srinivasan, a’i dad yn chwarae’r gerddoriaeth ‘Chopsticks’ gyda’i gilydd. (Gwelwch yr adran Paratoad a deunyddiau.)

    Mae Cristnogion yn credu bod Duw fel y pianydd, ac fel y tad. Mae Duw eisiau i chi fyw eich bywyd, ond os gwnewch chi adael iddo, fe ddaw atoch chi ac ymuno â chi. Fe fydd hyn yn eich gwneud chi yr un ydych ch, ac yn gwneud beth bynnag yr ydych chi’n ei wneud yn rhywbeth sydd hyd yn oed yn harddach.

Amser i feddwl

Efallai yr hoffech chi chwarae cerddoriaeth dawel fel cefndir i’r weddi ganlynol.

Gweddi
Arglwydd Dduw,
diolch i ti am gerddoriaeth.
Diolch bod cerddoriaeth yn fy helpu i ddychmygu pethau.
Diolch bod cerddoriaeth yn fy helpu i deimlo pethau.
Gad i ni, ti a fi, chwarae cerddoriaeth gyda’n gilydd yn fy mywyd.

Cân/cerddoriaeth

Sing a song’ gan y Carpenters (ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y rhyngrwyd)

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon