Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llythyrau Diolch

Ystyried pa mor bwysig yw dweud diolch.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pa mor bwysig yw dweud diolch.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dangoswch lythyr diolch gan blentyn, os yw’n hynny’n bosib.
  • Ymgyfarwyddwch â’r stori.

Gwasanaeth

  1. Darllenwch y stori ganlynol, neu adroddwch hi yn eich geiriau eich hun.

    Clywodd Mrs Jones swn y postman yn gwthio rhywbeth trwy’r twll llythyrau. Fe gododd o’i chadair yn araf a cherddodd gyda thipyn o ymdrech ar hyd y cyntedd at y drws ffrynt. Roedd plygu i lawr i godi’r post yn dipyn o ymdrech hefyd, ac roedd yn siomedig pan welodd mai dim ond catalog oedd yno.


    Doedd hi ddim yn gallu cuddio’i siom. ‘Dim byd gan neb o’r teulu eto heddiw,’ meddai wrthi ei hun.

    Roedd hi’n ganol mis Ionawr. Roedd y Nadolig wedi bod ac wedi mynd fel pob blwyddyn flaenorol, ac roedd dyddiau llwm y gaeaf yn dywyll ac yn oer.

    Fe fyddai Mrs Jones yn aml yn siarad yn uchel â hi ei hun ‘Sgwn i gafodd Jac y parsel wnes i ei anfon ato trwy’r post? Mae’n rhaid ei fod wedi ei gael bellach. Mae’r post fel arfer yn ddigon dibynadwy, ac roeddwn i wedi ei bostio’n ddigon buan iddo gyrraedd cyn y Nadolig. Efallai ei fod wedi cael y parsel ond nad oedd yn hoffi’r anrheg. Fe wnes i geisio cael gwybod beth yw ei ddiddordebau y dyddiau hyn, ond efallai bod y gêm ganddo eisoes. Neu, efallai ei fod wedi cael y parsel ond bod Jac wedi bod yn rhy brysur i roi gwybod i mi ei fod wedi ei gael.’

    Cododd Mrs Jones ei hysgwyddau a cherdded yn ôl i’w chadair wrth ymyl y tân.

    ‘Anghofia am y peth, Mari fach,’ meddai eto wrthi ei hun, gan ochneidio. ‘Paid â phoeni, paid â disgwyl diolch - wedi’r cyfan, anrheg oedd y gêm. Does dim amod ynghlwm wrth anrheg. Ti wnaeth ddewis anfon yr anrheg am dy fod ti’n caru dy wyr. Ti’n gwybod yn iawn fod plant a phobl ifanc heddiw’n cysylltu trwy’r ebost, a’r cyfrifiadur neu’r ffonau symudol ’ma, yn lle ysgrifennu llythyrau. Paid â blino dy hun yn meddwl am y peth ddydd ar ôl dydd.’

    Gwenodd wrth gofio mor wahanol oedd pethau pan oedd hi’n ifanc. Dydd Gwyl San Steffan oedd y diwrnod i ysgrifennu llythyrau diolch, a doedd neb o’r teulu’n codi oddi wrth y bwrdd i fynd i wneud dim byd arall y pnawn hwnnw nes roedd pob llythyr wedi ei ysgrifennu – a’r rheini wedi eu hysgrifennu’n dda hefyd!


    Roedd hi’n gallu dychmygu clywed llais ei mam yn dweud: ‘Yn gyntaf, rhaid i chi ddiolch am yr anrheg. Wedyn, rhaid i chi ddweud pam roeddech chi’n hoffi’r anrheg, a dweud pa mor ddefnyddiol yw beth bynnag gawsoch chi.’ (Roedd yn rhaid i ni ganmol, yn barchus iawn, yr hosanau neu’r sgarffiau roedd Anti Besi wedi eu gwau i ni.) ‘Wedyn, dywedwch beth fuoch chi’n ei wneud ddiwrnod y Nadolig, ac ychwanegu’r geiriau, “Gobeithio i chithau fwynhau’r Nadolig, hefyd.” Ac wedyn, gorffennwch trwy ddweud eich bod yn anfon dymuniadau da ar gyfer y Flwyddyn Newydd.’

    Wrth gwrs, roedd yn rhaid i’r llythyr fod wedi ei ysgrifennu yn eich llawysgrifen orau hefyd.

    ‘Efallai y dylwn i geisio eu ffonio i holi oedd y parsel wedi cyrraedd,’ dywedodd eto wrthi ei hun. ‘Fe allwn i ddweud fy mod i’n synnu nad ydw i wedi clywed yr un gair oddi wrth Jac. Ond wedyn, efallai y byddai hynny’n peri embaras iddo fo. Ond, wedi meddwl, efallai y dylai Jac deimlo’n drwg am y peth. Mae’n bwysig ei fod yn dysgu sut i fod yn gwrtais. Ond Mari fach, dim dy le di ydi dysgu plant pobl eraill sut i fod yn gwrtais,’ meddai wrthi ei hun eto

    Ochneidiodd Mrs Jones gan ailafael yn ei gwaith gwau. ‘Ond, rydw i bob amser wrth fy modd yn cael llythyr,’ meddyliodd.

  2. Beth ydych chi’n feddwl oedd wedi digwydd i lythyr diolch Jac?

    (Derbyniwch atebion y plant - yn cynnwys, efallai, nad oedd Jac wedi meddwl o gwbl am ysgrifennu llythyr.)

    Pe byddai Jac yn gwybod faint yr oedd yn ei olygu i’w nain gael llythyr ganddo, a faint y byddai hi’n mwynhau gweld ei lawysgrifen ar ddalen o bapur, ac yn gwybod pa mor hoff oedd hi o gael hanesion am ei theulu, fyddai Jac wedi ysgrifennu llythyr ydych chi’n meddwl? 

  3. Darllenwch lythyr diolch syml gan blentyn.

    Dywedwch pam roeddech chi wrth eich bodd yn ei dderbyn, a pham rydych chi’n mwynhau ei ddarllen, a dweud hefyd pam y gwnewch chi gadw’r llythyr efallai.

Amser i feddwl

Anogwch y plant i feddwl am rywun y gallen nhw ysgrifennu llythyr byr ato ef neu hi heddiw. Fe allai fod yn nodyn i ddweud diolch am rywbeth. Fe allai fod yn nodyn i rannu pwt o newyddion â rhywun.

Gweddi

Annwyl Dduw,

gad i ni fod â chalonnau diolchgar.

Helpa ni i ddysgu sut i ddangos i aelodau ein teulu ac i’n ffrindiau ein bod ni’n ddiolchgar.

A helpa ni i lonni diwrnod rhywun heddiw gyda’r gair bach ‘diolch’.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon