Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Tu Bishvat: Blwyddyn Newydd y Coed

gan Emma Burford

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Egluro’r wyl Iddewig, Tu Bishvat, ac annog dealltwriaeth o wahanol seremonïau crefyddol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Un o’r gwyliau llai yn y calendr crefyddol Iddewig yw Tu Bishvat. Gwyl un dydd ydyw, ac mae’n cael ei galw’n Flwyddyn Newydd y Coed neu’n Ben-blwydd y Coed. Mae tarddiad yr wyl yn codi o adnodau yn y Beibl yn llyfr Lefiticus 19.23-25, ble mae Iddewon yn cael eu gorchymyn i beidio â bwyta ffrwythau’r coed am y tair blynedd gyntaf ar ôl iddyn nhw gael eu plannu. (Mae’r gair ‘Orlah’ yn cyfeirio at y gwaharddiad hwn.)

    Mae’r wyl hon yn un o’r pedair gwyl Blwyddyn Newydd yn y calendr Iddewig. Mae pob coeden yn cael ei phen-blwydd ar y diwrnod hwn, waeth pa bryd y cafodd ei phlannu. Fe fydd Iddewon yn bwyta llawer o ffrwythau ar y diwrnod hwn, yn arbennig gwenith, haidd, grawnwin, ffigys, pomgranadau, olifau a datys (gwelwch yr adnodau yn llyfr Deuteronomium 8.7-8). Fe fydd rhai Iddewon yn plannu coed, neu’n casglu arian ar gyfer plannu coed yn Israel.
  • Fe fydd arnoch chi angen casgliad o’r ffrwythau canlynol, neu luniau ohonyn nhw: pomgranadau, grawnwin, ffigys, olifau, datys.
  • Er mwyn cael y gerddoriaeth ‘Shalom, my friend’ gan Michael Lehr, ewch i’r wefan http://www.users.zetnet.co.uk/mlehr/reflec/shalom/shalom.htm
  • Syniadau ar gyfer llwyfannu  Rhannwch y llwyfan perfformio’n dair rhan. Neilltuwch y rhan ganol ar gyfer y coed a’r anifeiliaid, ac mae’n bosib i’r Ysbrydion a Hilel yr Henuriad, Lefiticus ac Ysbrydion Orlah ddefnyddio’r ddwy ran arall.
  • Syniadau ar gyfer gwisgoedd  Fe allwch chi wneud y gwisgoedd mor soffistigedig neu mor syml ag y dymunwch chi! Mae’n bosib i’r plant wisgo crysau T gwahanol liwiau, gyda’u rôl wedi’u labelu’n syml ar y tu blaen. Neu fe allwch chi greu gwisgoedd llawn i’r anifeiliaid, y coed a’r ysbrydion. Fe fyddai’r Ysbrydion, yn cynnwys Hilel a Lefiticus, yn dod o’r coed, ac felly wedi eu gwisgo mewn gwyrdd, o bosib –ond eto mae rhyddid i chi ddehongli’r cymeriadau fel y dymunwch chi.
  • Cyswllt â chelfyddyd  Fe fyddai’n bosib creu gwisgoedd y coed gyda llawer o brintiadau llaw, gwyrdd – gwahanol arlliwiau o wyrdd i wahaniaethu rhwng y gwahanol goed ffrwythau. 
  • Cyswllt â’r Cwricwlwm  Drama, Iaith, ac Addysg Grefyddol.
  • Cast  Mae’n bosib trefnu i holl blant yr adran gymryd rhan yn y perfformiad. Gall rhai fod yn goed neu’n anifeiliaid ychwanegol heb rannau llefaru penodol. 

    Mae 24 o rannau llefaru

    Llefarydd

    Y coed
    Coeden Pomgranadau, Olewydden, Coeden Ffigys, Gwinwydden, Coeden Datys

    Yr Anifeiliaid

    Mwnci, Carw, Cwningen, Neidr, Tylluan, Broga

    Ysbrydion y goedwig
       
    Ysbryd 1, Ysbryd 2, Ysbryd 3, Ysbryd 4, Ysbryd 5, Ysbryd 6, Ysbryd 7

    Ysbrydion Orlah   
    Orlah 1, Orlah 2, Orlah 3

    Hilel yr Henuriad

    Lefiticus

Gwasanaeth

  1. Tafluniwch luniau, neu rhowch gliwiau, neu dangoswch y ffrwythau canlynol, gan ofyn i’r plant sydd yn eich cynulleidfa nodi’r gwahanol ffrwythau yn eu tro – grawnwin; ffigys; datys; pomgranadau; olifau. 

    Ble mae’r rhain yn tyfu? 
  2. Dywedwch eich bod heddiw’n mynd i ddysgu am yr wyl Iddewig, Tu Bishvat. Yn ystod yr wyl hon, fe fydd pobl sy’n dilyn y ffydd Iddewig yn bwyta’r ffrwythau hyn fel rhan o’r seder (gwledd) sy’n gysylltiedig â gwyl grefyddol o’r enw Tu Bishvat.

    Fe gawn ni ddysgu am yr wyl hon trwy berfformiad sydd wedi ei leoli mewn coedwig ddychmygol.
  3. Blwyddyn Newydd Dda i chi, y coed

    Llefarydd
      Dyma ni mae’n Ionawr 26, yn y flwyddyn 2013, ac yn y goedwig mae’r coed ffrwythau’n deffro. Dydi’r coed ddim yn gwybod bod heddiw’n ddiwrnod pwysig.
    Coeden Pomgranadau  Aaaaaa! O, mae’r haul yn gwenu, mi welaf. Wel, dyma fore braf, er ein bod ni yn nhymor y gaeaf fel hyn ym mis Ionawr.

    Olewydden  Wel, fe gefais i freuddwyd hyfryd neithiwr, Coeden Pomgranadau. Roedd fy nail i gyd wedi eu gwneud o aur, ac roeddwn i’n . . .

    Coeden Ffigys   (yn deffro’n sarrug)  Hy! Breuddwyd arall am ddail aur, ie, Olewydden? Wn i ddim pam rwyt ti’n breuddwydio bob amser am dy ddail aur.

    Gwinwydden  O, mae’n braf gweld rhywun mewn tymer dda ar ddiwrnod fel heddiw! Yn wir, Coeden Ffigys, fe fyddai rhywun yn meddwl, ar fore braf fel hyn . . .

    Coeden Pomgranadau  Bore heulog braf . . .

    Gwinwydden   . . . yn union! Ar fore braf fel hyn, fe fyddai rhywun yn meddwl y byddet ti’n deffro gyda gwên ac yn gadael i haul y bore gynhesu dy ddail a dy ganghennau rhewllyd.

    Coeden Datys  Cytuno, bob gair, Gwinwydden.

    Coeden Ffigys   Peidiwch i gyd â gweiddi arna i cyn i mi hyd yn oed ddeffro’n iawn! Yr unig beth roeddwn i’n ceisio ei ddweud, oedd, mae bod yn goeden yn beth anodd. Mae bod yn sefyll yn ymyl rhywun sy’n breuddwydio o hyd ac o hyd am fod â dail aur yn beth diflas iawn!

    Coeden Datys  O, peidiwch â chymryd sylw! Wyt ti ddim yn hoffi bod yn goeden, Coeden Ffigys ?

    Coeden Ffigys   Mae lot o waith sefyll, ’ndoes?

    Gwinwydden  Wel, rhaid i mi gyfaddef, efallai dy fod yn iawn. Mae bod yn goeden yn gwneud i minnau deimlo’n ddigon di-nod weithiau.

    Coeden Ffigys   O! Fe hoffwn i fod yn binwydden. Wedyn, fe fyddai rhywun yn dod i fy nôl i a mynd â fi i rywle, yn fy ngwisgo i â thinsel ac addurniadau tlws, ac fe fyddai pobl yn dotio ataf fi yng nghanol y gaeaf llwm.

    Coeden Datys  Ond wedyn, fe fyddet ti’n colli’r tymhorau hyfryd eraill rydyn ni’n eu cael trwy’r flwyddyn!

    Coeden Ffigys   Tymhorau eraill? Pa dymhorau hyfryd eraill? O, ie, pryfaid genwair yn gwau rhwng fy ngwreiddiau, a’r glaw gwlyb yn pwyso fy nail i lawr.

    Olewydden  Ond, dydi hi ddim yn bwrw glaw bob amser. A pheth arall, pe bydden ni ddim yn cael glaw fe fydden ni’n marw.

    Coeden Pomgranadau   A mwy na hynny, rydyn ni’n goed sy’n cynhyrchu ffrwythau. Yn wir, mae bod yn goeden sy’n cynhyrchu ffrwythau’n llawer gwell na bod yn binwydden sy’n cael ei haddurno un waith yn unig ar gyfer un dathliad.

    (Mwnci a Carw yn dod i mewn yn llawn cyffro)

    Mwnci  Dathliad! Rydych chi’n gwybod eisoes am y dathliad felly! Mae’n dda gen i glywed eich bod yn gwybod. Roeddwn i’n dod atoch chi i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi, goed ffrwythau!

    Carw  Ie, Blwyddyn Newydd Dda!

    Gwinwydden  Blwyddyn Newydd Dda?

    Olewydden  O, rydw i wrth fy modd yn dathlu, dathlu unrhyw beth!

    (Cwningen a Neidr yn dod i mewn)

    Cwningen  Blwyddyn Newydd Dda i chi, goed ffrwythau!

    Neidr  S-s-s-s-siwr eich bod chi’n teimlo’n reit s-s-s-sbesial.

    Coeden Datys  Coeden Pomgranadau, pa fis ddywedaist ti rydyn ni ynddo ar hyn o bryd?

    Coeden Pomgranadau  Ionawr. Mae’n Ionawr 26 heddiw.

    Olewydden  Felly, pam mae’r anifeiliaid yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i ni?!

    Coeden Ffigys  O diar, mi ddywedais i y byddai wedi bod yn well pe byddwn i wedi dal ati i gysgu! Mae pawb wedi drysu’n lân!

    Cwningen  Na, dydyn ni ddim yn sôn am y dymuniadau Blwyddyn Newydd Dda rydych chi’n eu rhannu â’r naill a’r llall am hanner nos ar Ragfyr 31.

    Mwnci  Rydyn ni’n sôn am Flwyddyn Newydd y Coed!

    Olewydden Blwyddyn Newydd y Coed?

    Coeden Ffigys   Ddywedais i ’ndo! Mae pawb wedi drysu’n lân!

    Coeden Pomgranadau  Mae’n rhaid i mi gyfaddef, anifeiliaid, dydw i ddim wedi clywed am Flwyddyn Newydd y Coed erioed.

    Neidr  Yr wyl Iddewig Tu Bishvat yw hi.

    Carw  Neu - Blwyddyn Newydd y Coed.

    (Mae pawb, yn gynhyrfus iawn, yn dechrau siarad am y diwrnod)

    Coeden Ffigys   Stopiwch, stopiwch, arhoswch eiliad! (Mae pawb yn stopio siarad ac yn edrych ar y Goeden Ffigys.) Cyn i bawb ohonoch chi ddechrau dathlu diwrnod does yr un ohonom ni’r coed yn gwybod unrhyw beth amdano, fe hoffwn i gael gwybod tipyn bach mwy os gwelwch chi’n dda.

    Mwnci  Wel, Tylluan ddywedodd wrthym ni am yr wyl Iddewig.

    Carw  Mae Tu Bishvat yn digwydd ar y pymthegfed diwrnod o’r mis Iddewig, Shevat.

    Neidr  Mae ‘Tu’ yn cynrychioli’r llythrennau Hebraeg Tet a Vav, sef 6 a 9.

    Cwningen   Sydd, wedi eu hadio at ei gilydd, yn gwneud 15.

    Carw  Ac mae ail ran yr enw, ‘Bishvat’ yn cynrychioli ‘Hamisha Asar Bishvat’, sy’n golygu’r pymthegfed dydd o fis Shevat.

    Cwningen  A dyna pam maen nhw erbyn hyn yn galw’r wyl yn Tu Bishvat.

    Coeden Datys  Pwy fase’n meddwl bod Tylluan mor wybodus!

    (Tylluan yn dod i mewn)

    Tylluan  Glywais i rywun yn dweud fy enw i?

    Olewydden  Rydyn ni’n dysgu am Flwyddyn Newydd y Coed.

    Coeden Datys  Doedden ni ddim yn gwybod fod y fath wyl yn bodoli.

    Tylluan  O, ydi, ac mae’r wyl yn un o draddodiadau mawr y ffydd Iddewig.

    Coeden Ffigys   Arhoswch funud, Tylluan. Roeddwn i’n gyfarwydd â’r Torah pan oeddwn i’n hedyn ifanc, ond chlywais i erioed o’r blaen am yr wyl Iddewig, Tu Bishvat.

    Olewydden  Coeden Ffigys, am beth rwyt ti’n sôn? Beth yw’r Torah?

    Coeden Ffigys   Wyt ti ddim yn gwybod, Olewydden? Cyfraith Duw yw’r Torah, ac mae’r cyfan wedi’i ysgrifennu ym mhum llyfr cyntaf y Beibl.

    Tylluan  Wel, fy ffrindiau hoff, fel roeddwn i’n ceisio egluro cyn i rywun dorri ar fy nhraws, rydw i’n gwybod am gyfaill doeth a fydd yn gallu egluro hyn i chi.

    (Broga yn dod i mewn yn araf)

    Gwinwydden  Broga? Beth wyt ti’n ei wneud yma?

    Coeden Pomgranadau  Ti yw’r cyfaill doeth a fydd yn gallu egluro i ni beth yw gwyl Tu Bishvat?

    Coeden Ffigys  Ac yn gallu egluro i ni pam nad oes sôn am yr wyl yn y Torah?

    (Mae’r coed yn chwerthin am ben Broga)

    Broga  Ie, goed ffrwythau! Fe alla i ddweud wrthych chi. Ond, does dim sôn am Tu Bishvat yn y Torah.

    Coeden Ffigys   Ddywedais i ’ndo!

    Broga  Fe ddyweda i wrthych chi. Mewn gwirionedd, nid yn y Torah, ond yn y Mishnah, y cewch chi gyfeiriad at Tu Bishvat. Llyfr oedd Mishnah, a oedd yn cynnwys hanes yr holl draddodiadau Iddewig oedd wedi cael eu trosglwyddo ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth yn hytrach na bod wedi cael eu nodi mewn ysgrifen yn y Torah.

    Tylluan  Dyna beth rydych chi’n ei alw’n draddodiad llafar, ac roedd y Mishnah yn cael ei alw'r Torah Llafar, y Torah a oedd yn cael ei adrodd a’i glywed. Yn ôl y traddodiad Iddewig, fe ddywedodd Duw y pethau hyn wrth Moses yr un pryd a phan roddodd y Torah ysgrifenedig iddo, ond wnaeth Moses erioed eu hysgrifennu dim ond eu dweud wrth y bobl. Drwy’r oesoedd, felly, am gannoedd o flynyddoedd, roedd y geiriau a glywodd Moses yn cael eu hadrodd gan y tadau i’w plant a chan athrawon i’w disgyblion.

    Coeden Datys  Wel, dyna dda!

    Mwnci  Yn ôl y Mishnah, mae’r wyl Tu Bishvat yn un o bedair gwyl Blwyddyn Newydd.

    Broga   Fe fydd Ysbrydion y goedwig yn gallu dweud wrthym ni beth yw’r pedair gwyl Blwyddyn Newydd.

    Llefarydd  A dyma ysbrydion rhyfeddol yn ymddangos i’r anifeiliaid a’r coed, i ddangos iddyn nhw beth yw’r pedair gwyl Blwyddyn Newydd sydd yn y calendr Iddewig, fel maen nhw wedi cael eu cofnodi wedyn yn y Mishnah.

    (Ysbrydion yn dod i mewn ac yn creu darluniau llonydd o bob Blwyddyn Newydd)

    Ysbryd 1  Diwrnod cyntaf mis Nisan.

    Ysbryd 2  Dyna’r Flwyddyn Newydd i bob Brenin a phob Gwyl!

    Ysbryd 3  Diwrnod cyntaf mis Elul.

    Ysbryd 4  Dyna Flwyddyn Newydd Degymau Anifeiliaid.

    Carw  Degymau Anifeiliaid?

    Broga  Roedd ffermwyr yn rhoi nifer penodol o’u hanifeiliaid i’r offeiriaid yn y Deml.

    Tylluan  Ac yn ystod yr wyl Blwyddyn Newydd ym mis Elul, roedd yr Iddewon yn ymweld â beddau eu hanwyliaid hefyd er mwyn cofio amdanyn nhw ac anrhydeddu’r bobl oedd yn rhan o’u gorffennol.

    Ysbryd 5  Diwrnod cyntaf ac ail ddiwrnod mis Tishrei.

    Ysbryd 6  Dyma Flwyddyn Newydd ar gyfer plannu cnydau a hau had.

    Ysbryd 7  Y pymthegfed diwrnod o fis Shevat.

    Coeden Pomgranadau  Blwyddyn Newydd y Coed! Wel, yn wir, rhaid i  mi gyfaddef fy mod i’n teimlo’n bwysig iawn!

    Broga  Ac fe ddylet ti hefyd! Pam lai? Hilel yr Henuriad oedd yr un a benderfynodd y byddai Blwyddyn Newydd y Coed ar y pymthegfed diwrnod o fis Shevat.

    Olewydden  Hilel yr Henuriad?

    (Hilel yn dod i mewn)

    Hilel  Ie, fi, Hilel yr Henuriad. Cefais fy ngeni yn ninas Babilon,  ac fe fûm i farw yn Jerwsalem ym mlwyddyn deg y Cyfnod Cyffredin. Roeddwn i’n arweinydd crefyddol Iddewig enwog iawn. Roeddwn i’n byw yn Jerwsalem yr un adeg â’r Brenin Herod a’r Ymerawdwr Rhufeinig Awgwstws.

    Fe gefais i fywyd hir iawn. Roeddwn i’n 120 oed yn marw. Ac yn ystod fy oes, fe wnes i astudio’r ffydd Iddewig ac addysgu pobl amdani. Fe wnes i helpu i ddatblygu’r Mishnah. Oherwydd fy mhrofiad o’r ffydd Iddewig, ac oherwydd fy mod i wedi bod yn dysgu pobl am y ffydd Iddewig, fe gytunodd y rabiniaid, sef yr athrawon Iddewig eraill, y dylai’r pymthegfed dydd o Shevat fod yn ddyddiad ar gyfer cyfrifo tyfiant, plannu coed a hau hadau coed a ffrwythau, yn unol â degymau Beiblaidd Orlah.

    (Hilel yn aros yn llonydd)

    Coeden Ffigys   O diar! Dyma fi wedi drysu’n llwyr eto! Degymau Beiblaidd? Orlah? Beth sydd a wnelo’r pethau hynny â ni’r coed a’n ffrwythau?

    Coeden Datys  Taw, Coeden Ffigys, rwyt ti’n rhy ddiamynedd!

    Mwnci  Ooooo! Dwi’n gwybod beth yw’r cysylltiad!

    Tylluan  Dos ymlaen, Mwnci, gad i ni glywed beth sydd gen ti i’w ddweud.

    Mwnci  Wel, mae rhai rheolau y mae’r bobl Iddewig yn eu dilyn pan fyddan nhw’n bwyta, ac mae Orlah yn helpu’r bobl i wybod pa bryd mae’n iawn iddyn nhw fwyta’r ffrwythau oddi ar y coed ffrwythau.

    Olewydden  Ooooo! Ni yw’r coed ffrwythau mae’n sôn amdanyn nhw!

    Gwinwydden  Ie, cofia Olewydden, mae’r Flwyddyn Newydd hon yn ymwneud a ni, y Coed!

    Olewydden   O, mae hyn yn fy ngwneud i’n gyffrous!

    Mwnci  Alla i fynd ymlaen, os gwelwch chi’n dda?

    Coeden Datys  Mae’n ddrwg gen i, Mwnci. Rwyt ti’n gweld bod Olewydden yn un sy’n cyffroi ynghylch . . .

    Coeden Pomgranadau  Popeth!

    Mwnci  Wel, roeddwn i’n mynd i greu argraff arnoch chi trwy gael Ysbrydion Orlah i ddod i egluro hyn i gyd i chi eu hunain.

    (Ysbrydion Orlah yn dod i’r golwg)

    Orlah 1  Ni yw ffrwythau tair blynedd.

    Orlah 2  Ni yw un o’r traddodiadau y mae’r grefydd Iddewig yn eu cadw. Mae’r bobl Iddewig yn defnyddio ein deddf ni yn eu bywyd bob dydd, ac yn arbennig felly yn ystod yr wyl Tu Bishvat.

    Orlah 3  Er mwyn i chi allu deall beth ydyn ni, edrychwch yn Llyfr Lefiticus, pennod 19, adnodau 23 i 25.

    Lefiticus  ‘Pan fyddwch yn mynd i mewn i’r wlad ac yn plannu unrhyw goeden ffrwythau, ystyriwch ei ffrwyth yn waharddedig; bydd wedi ei wahardd ichwi am dair blynedd, ac ni chewch ei fwyta. Yn y bedwaredd flwyddyn bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd, yn offrwm mawl i’r Arglwydd. Ond yn y bumed flwyddyn cewch fwyta’i ffrwyth, er mwyn iddi ffrwythloni rhagor. Myfi yw’r Arglwydd eich Duw.’

    Orlah 1  Ni yw’r ffrwythau allwch chi ddim eu bwyta.

    Orlah 3  Dydyn ni ddim yn ‘kosher’ yng ngolwg y ddeddf Iddewig.

    Coeden Ffigys  Dyna’r ddeddf Iddewig am fwyd. Os yw bwyd yn ‘kosher’, mae’n iawn i’r bobl Iddewig ei fwyta.

    Orlah 2  Yn y bedwaredd flwyddyn, mae’r ffrwythau’n cael eu cario i’r Deml ac yn cael eu bwyta gan berchnogion y coed.

    Orlah 1  Yn y bumed flwyddyn, mae’n bosib i’r ffrwythau gael eu gwerthu a’u rhannu rhwng pawb.

    (Ysbrydion Orlah, Lefiticus, Hilel ac Ysbrydion y Goedwig i gyd yn mynd allan)

    Neidr  S-s-s-s-s-s-siwr iawn! Ac mae hyn y cael ei wneud yn ystod y wledd Tu Bishvat. Mae’r bobl Iddewig yn bwyta ffrwythau, ffrwythau traddodiadol gwlad Israel, ie, Is-s-s-s-rael.

    Carw  Ffrwythau sy’n cael eu hanrhydeddu yn y Torah.

    Coeden Ffigys  Hy! Ddim ni, dwi’n siwr, dydyn ni ddim digon da!

    Cwningen  Na, paid â bod yn wirion, mae sôn amdanoch chi i gyd yn y Torah. Coeden Pomgranadau, Gwinwydden, Coeden Datys, Olewydden a hyd yn oed ti, Coeden Ffigys. Ac mae digonedd o’ch ffrwythau chi i gyd yn cael eu bwyta yn y wledd Tu Bishvat.

    Broga  Rydych chi’n cael eich anrhydeddu, ac mae traddodiad y Tu Bishvat yn parhau’n gryf hyd heddiw.

    Coeden Pomgranadau  Ond sut rydyn ni’n gwybod a yw ein ffrwythau’n ‘kosher’ ai peidio?

    Broga  Dyma pryd y mae ‘Blwyddyn Newydd y Coed’ yn cael ei anrhydeddu. Bob blwyddyn, ar y pymthegfed o fis Shevat, fe fydd eich perchennog yn gwybod faint yw eich oed, ac yn gwybod pa bryd i rannu’r ffrwythau yn unol â’r traddodiadau Iddewig a’r gwersi o’r Torah.

    Olewydden  Felly, mae hyn bron fel ein pen-blwydd?

    Tylluan  Ydi! Yng ngolwg y ddeddf Iddewig, hwn yw eich pen-blwydd!

    Gwinwydden  Wel, pwy fase’n meddwl!

    Coeden Pomgranadau  A ninnau’n meddwl mai unrhyw ddydd Sadwrn, fel pob dydd Sadwrn arall, oedd heddiw’n mynd i fod!

    Coeden Ffigys  Rhaid i mi gyfaddef, ar ôl y wers rydyn ni wedi ei chael heddiw gan ein ffrindiau, yr anifeiliaid, rydw i’n teimlo’n anrhydeddus iawn i gael bod yn goeden ffrwythau!

Amser i feddwl

Gweddi
Arglwydd Dduw,
helpa ni i ddeall a dysgu am wahanol wyliau crefyddol,
sy’n cael eu dathlu ledled y byd gan bobl sy’n dilyn gwahanol grefyddau,
fel y gallwn ninnau eu parchu a’u hanrhydeddu.

Cân/cerddoriaeth

Chwaraewch y gân, ‘Etz Chayim’ (‘Tree of life’)
(Mae sawl recordiad i’w gael ar YouTube – i gyd yn yr iaith Hebraeg – ond mae sawl un yn dangos is-deitlau Saesneg.)
Hefyd , fe allech chi chwarae ‘Shalom, my friend’ gan Michael Lehr (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’)

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon