Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dringodd Y Pry Copyn

Dangos pa mor bwysig yw dyfalbarhau a dal ati nes cyrraedd eich nod.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dangos pa mor bwysig yw dyfalbarhau a dal ati nes cyrraedd eich nod.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dwy set o flociau adeiladu Jenga, neu flociau adeiladu tebyg.
  • Fe fydd angen i chi fod yn gyfarwydd â’r hwiangerdd ‘Dringodd y pry copyn’ (neu ‘Incy Wincy spider’).
  • Mae fideo ar gael o’r fersiwn Saesneg, ‘Incy Wincy spider’, ar y wefan  http://learnenglishkids.britishcouncil.org/en/songs/incy-wincy-spider
  • Paratowch ddau i ddarllen, neu grwp o ddarllenwyr, ar gyfer y sgwrs yn yr adran ‘Amser i feddwl’’. 

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y blociau adeiladu gyda’r frawddeg, ‘Tybed pwy fydd yn gallu adeiladu’r twr talaf?’ 

    Gwahoddwch ddau blentyn i godi dau dwr, gan bwysleisio mai’r nod yw adeiladu’r twr talaf. 

    Ystyriwch sut mae modd gosod y blociau mewn ffyrdd neilltuol fel bod yr adeiladwaith yn gryfach ac felly’n caniatáu i’r twr fod yn dalach.

    Byddwch yn barod i gydymdeimlo â’r ymgeiswyr os bydd eu twr yn disgyn, ac anogwch nhw i ail ddechrau a rhoi cynnig arall arni. A byddwch yn barod wedyn i longyfarch yr ymgeiswyr pan fyddan nhw’n llwyddo, a chanmol eu parodrwydd i ddyfalbarhau. 

  2. Eglurwch fod y dasg a osodwyd yn her. Nid yw her yn hawdd. Mae her yn rhoi prawf ar ein sgiliau ac ar ein hamynedd. Os ydyn ni am lwyddo gydag unrhyw dasg anodd, rhaid i ni ddal ati nes byddwn ni wedi cyrraedd y nod.

  3. Cyfeiriwch at y gân am y creadur bach a oedd yn anelu’n uchel ac yn dal ati i geisio cyrraedd y top.

    Mwynhewch ganu’r gân ‘Dringodd y Pry copyn’ (gyda’r symudiadau). Pwysleisiwch, hyd yn oed pan oedd pethau ddim yn mynd yn iawn i’r pry copyn bach, fe ddaliodd ati heb ddigalonni. 

  4. Ceisiwch feddwl am ambell her sy’n wynebu’r plant yn yr ysgol. Mae rhai pethau’n anodd iawn, ac mae’n hawdd iawn teimlo’n siomedig os ydych chi’n methu eu gwneud. Sut bynnag, fe fyddai’n dda i ni gyd fod yn debyg i’r pry copyn bach a dal ati. 

  5. Cyflwynwch bennill arall y gallech chi ei chanu ar yr un alaw:

    Pan fydd pethau’n anodd, gwna dy orau glas.
    Ceisia ddal i wenu, paid â bod yn gas.
    Rho gynnig arni eto, fel y pryfyn cop.
    Dal ati, a dal ati, a chyrraedd reit i’r top!

Amser i feddwl

Darllenydd 1  Mae’r beipen ddwr mor dal, ac mae pry copyn mor fach!

Darllenydd 2  I fyny â ni!
Darllenydd 1 Mae’n dywyll yma.

Darllenydd 2  Edrych i fyny – fe allwn ni weld yr awyr!

Darllenydd 1  O, mae’n dechrau tywyllu. Mae’n mynd i fwrw glaw.

Gyda’i gilydd  O! NA!

Darllenydd 1  Wyt ti’n iawn?

Darllenydd 2  Ydw, dwi’n meddwl.

Darllenydd 1  Beth wnawn ni nawr?

Darllenydd 2  Wel, mae’r haul wedi dod allan.

Gyda’i gilydd  BETH AM GEISIO ETO!

Gweddi

Annwyl Dduw,

Pan fyddwn ni’n methu gwneud rhywbeth y tro cyntaf,

helpa ni i ddal ati i geisio eto.

Cân/cerddoriaeth

Fe allech chi ddiweddu’r gwasanaeth trwy ddangos y clip fideo o’r fersiwn Saesneg o’r gân ‘Incy Wincy spider’ (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’).

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon