Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Arglwydd, Trugarha

Ystyried themâu Dydd Mercher Lludw a’r Garawys, themâu sy’n ymwneud â phechod a maddeuant.

gan Manon Ceridwen Parry

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried themâu Dydd Mercher Lludw a’r Garawys, themâu sy’n ymwneud â  phechod a maddeuant.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r Garawys yn parhau am 40 diwrnod (ac eithrio Suliau) a dyma’r cyfnod pan fydd Cristnogion yn cofio am y 40 diwrnod a dreuliodd Iesu yn yr anialwch ar ddechrau ei weinidogaeth. Yn ystod y cyfnod hwn fe fu heb fwyd ac fe gafodd ei demtio gan Satan.
  • Fe fydd arnoch chi angen dangos rhai symbolau sy’n ymwneud â Dydd Mawrth Ynyd, Dydd Mercher y lludw a’r Garawys, er enghraifft, crempogau, croes, lludw – beth bynnag y gallwch chi ei gael.
  • Ar gyfer yr ‘Amser i feddwl’, fe fydd arnoch chi angen recordiad o gerddoriaeth y Kyrie o Offeren (fe ddefnyddiais i’r Kyrie o Fauré’s Requiem). 

Gwasanaeth

  1. Eglurwch ychydig am y Garawys a'i gefndir, gan ddangos rhai o'r symbolau sydd gennych yn ymwneud â’r Garawys, a chael y plant i sôn wrthych am yr hyn y maen nhw eisoes yn ei wybod.

    Trafodwch ein traddodiad o fwyta crempogau ar ddydd Mawrth Ynyd. Fe ddechreuodd y traddodiad hwn oherwydd yn ystod y Garawys roedd pobl yn arfer ymprydio (bwyta ychydig iawn o fwyd, ac yn sicr dim bwyd bras). Ar y diwrnod cyn y Garawys, felly, fe fyddan nhw'n gwneud crempogau i ddefnyddio'r cyfan o'u cyflenwad o wyau (a oedd ar un adeg yn cael eu hystyried yn fwydydd moethus), siwgr, braster a blawd. Hyd yn oed heddiw bydd llawer o bobl yn rhoi heibio bwyta rhai bwydydd yn ystod y Garawys.

    Eglurwch fod diwrnod cyntaf y Garawys yn cael ei alw yn 'Ddydd Mercher y Lludw'. Rhoddir yr enw hwn iddo oherwydd ar y diwrnod hwnnw bydd Cristnogion yn dod ynghyd mewn gwasanaethau eglwysig, ac fel arwydd o'u gofid am y pethau drwg y maen nhw wedi ei wneud, rhoddir siâp croes mewn lludw ar eu talcennau.
  2. Trafodwch bwrpas y Garawys: mae'n gyfnod o benyd - eglurwch fod hyn yn golygu bod yn edifar am y pethau drwg yr ydyn ni wedi eu gwneud, dweud sori wrth Dduw, a phenderfynu newid ein ffordd, gyda help Duw.

    Yn ystod y Garawys bydd llawer o Gristnogion yn neilltuo amser i feddwl am y pethau drwg y maen nhw'n eu gwneud.  Weithiau, fe fyddan nhw'n mynegi eu gofid ac addo newid eu ffordd trwy roi heibio rhai pleserau (er enghraifft, peidio â bwyta siocled neu greision), neu trwy gyfrannu mwy o arian at elusen, a thrwy weddïo mwy.
  3. Er ein bod yn teimlo'n drist pan fyddwn yn meddwl o ddifrif am y pethau yr ydym yn gwneud sydd ddim yn iawn, a'r camgymeriadau y byddwn yn eu gwneud (pethau sy'n cael eu galw'n 'bechod' yn iaith yr eglwys), bydd Cristnogion yn teimlo peth llawenydd ar Ddydd Mercher y Lludw a thrwy'r Garawys oherwydd mae'n dda gwybod pan fyddwn i'n troi at Dduw, a dweud ei bod hi’n ddrwg gennym, bydd Duw yn ein derbyn fel yr ydym ac yn rhoi llechen lân i ni. Mewn geiriau eraill, mae'n rhoi maddeuant i ni.

    Mae pob un ohonom angen amser a lle i feddwl am yr hyn sy’n digwydd yn ein bywyd. Mae'r Garawys yn rhoi'r cyfle hwn i ni. Mae'r penderfyniadau a wnawn yn ystod y Garawys yn debyg i'r addunedau ar Ddydd Calan y Flwyddyn Newydd. 
  4. Sut bynnag, mae gofyn i Dduw am faddeuant yn rhywbeth y gallwn ei wneud ar unrhyw adeg. Yn y gwasanaeth Cymun, er enghraifft, mae rhan o'r gwasanaeth pryd y byddwn yn dweud sori (rhan sy'n cael ei alw 'Y Gyffes') ac weithiau fe fyddwn ni’n dweud y geiriau, ‘Arglwydd, trugarha.’ (Efallai y byddwch yn dymuno awgrymu bod y plant yn ail-adrodd y geiriau hyn.)  Cyfieithiad ydyn nhw o'r dywediad Groegaidd Kyrie eleison. (Efallai y byddwch yn dymuno cael y plant i ddweud hyn hefyd!)
  5. Dros lawer o flynyddoedd, mae cyfansoddwyr wedi gosod y geiriau hyn, ‘Arglwydd, trugarha’/Kyrie eleison i gerddoriaeth, fel arfer fel rhan o osodiadau cerddorol hirach o wasanaethau'r Cymun. 

    Eglurwch eich bod yn mynd i chwarae un gosodiad o'r Kyrie eleison. 

    Gall gerddoriaeth fynegi'r ffordd yr ydym yn teimlo. Pa fath o gerddoriaeth ydych chi ar fin ei chwarae – a fydd yn llawen, neu'n dawel, neu'n drist? Archwiliwch gyda'r plant eu syniadau am y math o gerddoriaeth y bydden nhw'n ei ddefnyddio ar gyfer ‘Arglwydd, trugarha.’ 

    Atgoffwch y plant eich bod eisoes wedi dweud bod peth llawenydd yn y Garawys, felly fe fyddan nhw'n debygol o ddisgrifio emosiynau cadarnhaol yn ogystal â rhai negyddol – mae hyn yn gyfle da i archwilio'r amrywiol deimladau sy'n gysylltiedig â'r Garawys. Fodd bynnag, nodwch y gall y Kyrie fod fel arfer yn eithaf nerthol a thrist.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant ymdawelu a chau eu llygaid.

Gofynnwch iddyn nhw feddwl am y pethau maen nhw eisiau son wrth Dduw ei bod hi’n ddrwg ganddyn nhw eu bod wedi eu gwneud.

Dywedwch wrth y plant y byddwch chi’n gallu defnyddio’r munudau nesaf i siarad yn ddistaw gyda Duw.

Chwaraewch y gerddoriaeth am ychydig funudau.

Diweddwch y gwasanaeth trwy adrodd gweddi am faddeuant:

Boed i Dduw cariad

ei ddwyn yn ôl ato'i hun,

maddau i ni ein pechodau,

a sicrha ni o'i gariad tragwyddol;

yn Iesu Grist ein Harglwydd.

Eglurwch fod y geiriau hyn yn ein hatgoffa bod Duw’n maddau i ni pan fyddwn ni’n dweud ei bod hi’n ddrwg gennym. Felly, mae’n bosib i ni ddechrau o’r newydd eto!

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon