Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwyl Vasant Panchami : Dechreuad newydd

Dathlu dechreuad newydd mewn bywyd ac mewn dysgu.

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dathlu dechreuad newydd mewn bywyd ac mewn dysgu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’n bosib defnyddio’r gwasanaeth hwn i gyd-fynd â gwyl Vasant Panchami (15 Chwefror), neu yn ddiweddarach ym mis Mawrth. 
  • Trefnwch fod gennych chi gennin Pedr mewn fâs fel rhywbeth i ganolbwyntio arno - yn ddelfrydol fe fyddai’n dda cael rhai blodau sydd heb agor eto a rhai eraill sydd wedi agor yn llawn yn y cynhesrwydd.
  • Fe fydd arnoch chi angen OHP, neu siart troi, er mwyn gallu llunio’r wyddor am bethau’r gwanwyn gyda’ch gilydd. 

Gwasanaeth

  1. Soniwch fod y gwanwyn, i ni yn hemisffer y Gogledd, yn dechrau ar 21 Mawrth. Ond, yn India, mae llawer o bobl sy’n Hindwiaid yn nodi diwrnod cyntaf y Gwanwyn gyda gwyl Vasant Panchami, sy’n cael ei chynnal rhwng diwedd Ionawr a chanol Chwefror. 

  2. Mae’r wyl wedi ei chysegru i Saraswat, duwies dysg a doethineb, ac mae’n draddodiad i blant ifanc ddechrau dysgu sut i ysgrifennu llythrennau’r wyddor ar yr adeg yma. Mae pobl sy’n dilyn y grefydd Hindwaidd yn credu y bydd yr arferiad hwn yn dod â bendith a doethineb. 

  3. Gwahoddwch gymuned yr ysgol i fyfyrio ar ddechreuadau newydd. 

    Pryd a sut y gwnaethon nhw ddysgu’r wyddor?  

    Oes unrhyw un yn cofio ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol?  

    Sut mae eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth wedi tyfu? 

  4. Rhowch her i bawb geisio llunio’r wyddor gyda chi a meddwl am eiriau i fynd gyda phob llythyren, os yn bosib, geiriau sydd â rhywbeth i’w wneud â’r gwanwyn - pethau rydych chi’n eu gweld neu eu teimlo.

    Eglurwch nad yw hon yn dasg hawdd. Fe fydd angen help pawb arnoch chi. Cyfeiriwch at y cennin Pedr yn y fâs. Fe fyddwn ni’n dysgu gyda’n gilydd ac fe fydd pawb yn blodeuo. Ac yn union fel mae cynhesrwydd yr haul yn y gwanwyn yn denu’r planhigion i flodeuo, mae anogaeth yn helpu i ddod â’r gorau allan ohonom ninnau hefyd!

    Dechreuwch gyda llythrennau cyntaf y wyddor ar eich siart troi. Yn y wyddor sy’n ymwneud â’r gwanwyn, fe allech chi gael geiriau tebyg i’r rhai a ganlyn:

    A
    am ‘adar’ yn canu ac yn nythu
    B am ‘blagur’ a ‘blodau’
    C am y ‘cennin Pedr’ a’r ‘cywion bach’ 
    Ch am ‘chwa’ o awel iach neu’r anifeiliaid bach yn ‘chwarae’
    D am y dail ar y coed a ‘dechrau newydd’ 
    Dd am y ‘ddafad’ gydag oen bach 

    Pwysleisiwch y gallech chi ddewis rhai geiriau sydd hefyd yn disgrifio agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu yn ogystal â nodweddion gwanwynol.

    E am ‘eirlysiau’ ac am fod yn ‘egniol’ ac yn ‘effro’
    F am bopeth yn dod yn ‘fyw’
    Ff am ‘ffarwelio’ â’r gaeaf
    G am ‘gwych’
    H am ‘haul’ a ‘heulwen’ a ‘hapus’.


    Fydd rhai o gymuned yr ysgol ‘yn effro’ ac ‘yn fyw’ i syniadau newydd?

    Pa mor ‘egniol’ a ‘gwych’ a ‘hapus’ fyddan nhw wrth ymwneud â dechreuadau newydd?

  5. Cyfeiriwch eto at y fâs a’r cennin Pedr. Ymhen ychydig, cyn diwedd y dydd efallai, fe fydd rhagor o’r blodau wedi agor. Bydd y gwres yn denu’n blagur i flodeuo. Mynegwch y gobaith y bydd y dydd yn ein denu ninnau i flodeuo hefyd, ac yn dod â’r gorau allan o bob aelod o gymuned yr ysgol! 

    (Ar ôl y gwasanaeth, gosodwch y cennin Pedr mewn man canolog yn yr ysgol lle bydd pawb yn gallu eu gweld a sylwi arnyn nhw’n agor.)

Amser i feddwl

Yn union fel mae cynhesrwydd yr haul
yn denu’r dail a’r blagur i agor
felly hefyd y bydd bod gyda’n gilydd heddiw
yn agor ein calonnau ninnau a’n meddyliau
fel y byddwn yn gallu dysgu.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon