Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwyl Gristnogol Y Garawys

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried beth yw ystyr yr wyl Gristnogol, y Garawys.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen cerdyn mawr ag arno'r geiriau 'Byddwch yn barod’.
  • Hefyd nifer o gardiau sydd â sefyllfaoedd penodol wedi eu nodi arnyn nhw. Fe fydd angen paratoi ychydig ymlaen llaw ar gyfer y rhain, er enghraifft, mynd ar wyliau; ffrind sy'n aros dros nos yn eich cartref; sefyll arholiad bale; chwarae mewn gêm bêl-droed; cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd; drama'r ysgol.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant beth wnaethon nhw cyn dod i'r ysgol fore heddiw. Fel y bydd pob awgrym yn cael ei gynnig, gofynnwch i wirfoddolwr ddod ymlaen a meimio'r weithred honno - deffro; codi o'r gwely; ymwisgo; ymolchi; bwyta brecwast; pacio'r bag ysgol; glanha dannedd; gwisgo côt, menig; cerdded i'r ysgol, ac ati.

    Yn y diwedd, gofynnwch i’r plant sydd wedi dod ymlaen i feimio'u gweithgaredd wneud hynny gyda'i gilydd ar yr un pryd.

    Cymrwch arnoch eich bod yn synnu cymaint o ‘baratoi’ oedd wedi digwydd cyn iddyn nhw gyrraedd yr ysgol yn unig!

  2. Gofynnwch a oes unrhyw un o'r plant yn aelod o'r Sgowtiaid neu'r Guides (blynyddoedd 5/6). Beth yw eu harwyddair? (‘Byddwch yn barod’) Gofynnwch i blentyn ddal y cerdyn gyda'r geiriau 'Byddwch yn barod' wedi eu hysgrifennu arno. (Mae gan y Brownies arwyddair gwahanol - ‘Lend a hand’ neu ‘Rhowch help llaw’.)

  3. Gofynnwch am wirfoddolwr i ddal y cerdyn gyda'r cyntaf o'r sefyllfaoedd arno. Pa baratoadau fyddai angen iddyn nhw eu gwneud ar gyfer y digwyddiad hwnnw? (Er enghraifft, cyn mynd ar wyliau, fe fyddai angen iddyn nhw ddod o hyd i rywle i aros, archebu tocyn awyren os bydd angen hedfan i wlad arall, pacio, gofalu bod rhywun yn gwarchod eu hanifeiliaid anwes.)

    Trafodwch bob cerdyn yn ei dro ac yna gofynnwch beth fyddai'n digwydd pe na byddai unrhyw baratoadau wedi cael eu gwneud.

  4. Heddiw, rydyn ni’n meddwl am y Garawys. Yn achos Cristnogion, y Garawys yw'r amser hwnnw pryd y byddan nhw'n cofio am y paratoadau a wnaeth Iesu.

    Am 30 o flynyddoedd roedd Iesu wedi byw gartref yn Nasareth. Pan oedd yn 30 mlwydd oed, fe wyddai ei fod ar fin dechrau ar ei waith cyhoeddus. Roedd ar fin dechrau addysgu pobl am Dduw a chyflawni llawer o wyrthiau rhyfeddol. Fe wyddai na fyddai hynny'n hawdd ac yn y pen draw fe fyddai'n arwain at ei farwolaeth.
    Er mwyn paratoi ei hun ar gyfer y gwaith hwn, fe aeth Iesu ar ben ei hun i'r anialwch am 40 diwrnod. Ni chafodd ddim i'w fwyta nac i’w yfed am ddeugain dydd a deugain nos, ac yn ystod y cyfnod hwn cafodd ei demtio i wneud nifer o bethau yr oedd yn gwybod na ddylai eu gwneud.  

    Ond wnaeth Iesu ddim ildio i'r temtasiynau, ac ni wnaeth unrhyw beth o'i le. Ar ddiwedd y 40 diwrnod fe adawodd yr anialwch, a dechreuodd ar y gwaith yr oedd wedi dod i'r byd i'w wneud. Roedd y cyfnod yn yr anialwch wedi ei baratoi ar gyfer y gwaith hwn. 

  5. Y Garawys yw'r cyfnod sy'n arwain at y Pasg, mae'n dechrau ar Ddydd Mercher y Lludw (y diwrnod ar ôl Dydd Mawrth Ynyd, pryd y bydd pobl yn bwyta crempogau). Mae'r Garawys yn parhau am 40 diwrnod  (nid yw'n cynnwys Suliau) sy'n cyfateb i'r amser a dreuliodd Iesu yn yr anialwch yn paratoi ar gyfer ei waith.

    I Gristnogion, y Pasg yw'r amser pwysicaf yn y flwyddyn oherwydd dyna'r amser pryd y byddan nhw'n cofio am farwolaeth ac atgyfodiad Iesu. Gan fod Cristnogion eisiau bod 'yn barod' i ddathlu'r Pasg, maen nhw'n defnyddio'r Garawys fel cyfnod i feddwl mwy am Dduw, mynd i wasanaethau eglwysig arbennig, a gweddïo.

    Y gobaith yw y bydd y Garawys yn gymorth i Gristnogion ganolbwyntio eu meddyliau ar Dduw, a hefyd eu helpu i feddwl am eraill sydd ddim mor ffodus â nhw.

  6. Fel rhan o'r Garawys, bydd Cristnogion yn rhoi heibio rhai pethau dros y cyfnod o 40 diwrnod. Mae hyn i fod i'w hatgoffa o'r amser y bu Iesu heb fwyd yn yr anialwch.  Enghreifftiau o hyn yw peidio â bwyta siocled neu fisgedi, neu beidio â gwylio'r teledu.

    Yn ystod y blynyddoedd diweddar bu'n arferiad i wneud rhywbeth da yn y Garawys yn hytrach na rhoi rhywbeth o'r neilltu neu beidio gwneud rhywbeth.  Gall enghreifftiau o’r gweithredoedd da hyn gynnwys tacluso eich ystafell; dweud rhywbeth calonogol wrth rywun bob dydd; gwneud eich gwely; gwneud gwaith cartref heb rwgnach! 

Amser i feddwl

Fedrwch chi feddwl am rywbeth arbennig y gallech chi ei wneud yn ystod y Garawys a fyddai'n helpu rhywun arall?

Efallai y gallech chi ddefnyddio'r amser i helpu codi arian i bobl mewn gwlad arall sydd ddim mor ffodus â ni.

Efallai y gallech chi benderfynu dweud rhywbeth calonogol wrth rywun bob dydd!

Mae arbenigwyr yn dweud wrthym os gwnewch chi rywbeth am 40 diwrnod fe ddaw yn arferiad y byddwch chi’ ei wneud yn awtomatig heb roi sylw i'r peth! Oni fyddai'n dda pe byddai'r Garawys yn fodd o’n helpu ni i barhau i wneud rhywbeth cadarnhaol am weddill y flwyddyn!

Gweddi

Arglwydd,

diolch i ti, yng nghanol prysurdeb bywyd, bod yna adegau i stopio a meddwl.

Helpa ni i beidio byth â bod mor brysur fel nad oes gennym amser i fod yn heddychlon a distaw.

Diolch i ti am adegau fel y Garawys

i'n hatgoffa i feddwl amdanat ti

ac i ystyried beth allwn ni ei wneud i helpu'r rhai sy'n llai ffodus na ni.

Helpa ni bob amser i fod 'yn barod' i helpu pobl eraill.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon