Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Chwythu'r Chwiban

Ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud pan fyddwn ni’n gweld achos o fwlio.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud pan fyddwn ni’n gweld achos o fwlio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen chwiban.

Gwasanaeth

  1. Chwythwch eich chwiban a gofynnwch i'r plant beth tybed y maen nhw'n feddwl yw ystyr hyn yng nghyd-destun bod ynghyd yn y gwasanaeth.

    Gofynnwch am awgrymiadau eraill am yr adegau pryd y caiff chwiban ei chwythu.

    Nodwch fod chwiban yn gallu dwyn sylw pawb.  Mae'n swn uchel.  Mae'n awdurdodol.

    Mae chwiban yn aml yn atal pobl yn syth rhag gwneud rhywbeth.  Meddyliwch am Addysg Gorfforol, gemau pêl-droed - bydd chwiban yn cael ei chwythu pan mae trosedd wedi cael ei chyflawni, neu rywun wedi ffowlio.

    Gellir defnyddio chwibanu hefyd i roi gwybodaeth. Meddyliwch am y gard yn rhybuddio bod trên ar fin gadael y platfform.

  2. Cyflwynwch y term 'chwythu'r chwiban' ac eglurwch nad yw'n golygu fod rhywun yn cymryd chwiban o'i boced a'i chwythu.  Yn hytrach, mae'n golygu bod rhywun am ddwyn sylw at rywbeth sy'n digwydd, rhywbeth sydd heb fod yn iawn.

    Bydd oedolion, ambell dro, yn 'chwythu'r chwiban' o achos pethau anghyfiawn ac anghywir sy'n digwydd yn y gweithle, yn y llywodraeth, a hyd yn oed yn y wlad. Efallai bod pennaeth yn annheg gydag aelod o'r gweithlu, yn tynnu ar yr aelod hwnnw o'r gweithlu heb unrhyw reswm amlwg. Mewn sefyllfa fel hyn bydd y person hwn, neu aelod arall o'r staff sydd yn bryderus bod bwlio'n digwydd yn gallu 'chwythu'r chwiban'.  Mae hynny'n golygu eu bod yn gallu dweud wrth rywun uwch o blith y rheolwyr. Yna, fe fydd modd ymchwilio i'r driniaeth annheg a bydd y bwlio'n cael ei atal.

    Weithiau, fe fydd pobl yn dioddef cael eu bwlio gan eraill oherwydd eu bod ofn colli eu swyddi, neu oherwydd eu bod yn meddwl y byddan nhw'n debygol o waethygu'r sefyllfa, neu oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod at bwy y dylen nhw fynd i ddweud. Dyna paham y mae llinell gyswllt ffôn 'chwythu'r chwiban' fel bod pobl yn gallu derbyn cyngor. Ni ddylai neb ddioddef bwlio.

  3. Mae 'chwythu'r chwiban mewn ysgol yn dderbyniol.

    Yn anffodus, gall plant gael eu bwlio am bob math o resymau a gall hyn wneud eu bywydau'n anodd dros ben. Ni ddylai unrhyw blentyn orfod dioddef cael ei fwlio.

    (Gwnewch yn siwr bod y plant yn gyfarwydd â pholisi'r ysgol ar atal bwlio ac at bwy y dylen nhw fynd i 'ddweud'.  Anogwch nhw i wneud hynny os bydd achos.)

Amser i feddwl

Gawsoch chi eich bwlio erioed, neu a welsoch chi rywun arall yn cael ei fwlio? Sut deimlad oedd peth felly?

Nid yw bwlio byth yn rhywbeth y dylid ei dderbyn. Byddwch bob amser yn ddigon dewr i 'chwythu'r chwiban'.

Gweddi
O Dduw,
rydyn ni'n gwybod dy fod ti yn gallu gweld pob dim
ac yn drist pan fydd pobl
yn cael eu trin yn annheg ac yn cael eu brifo gan eraill.
Helpa ni i fod yn ddigon dewr i ‘chwythu’r chwiban’
ac i ddweud wrth y rhai mewn awdurdod
sydd â'r gallu i wneud rhywbeth am y sefyllfaoedd poenus hyn.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon