Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mahavira Jayanti: Gwyl Jain (Ebrill)

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Deall beth yw’r wyl Jainaidd, Mahavira Jayanti.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r wyl Jainaidd, Mahavira Jayanti, yn wyl symudol (23 Ebrill 2013, 23 Ebrill 2014, 2 Ebrill 2015).
  • Fe fydd arnoch chi angen rhai baneri lliwgar - fe all y rhain fod yn ddarnau petryal o ddefnydd unrhyw liw wedi’u gosod ar ffyn i wneud baneri, neu fe allai’r baneri fod ar ffurf ‘bunting’.
  • Casglwch ynghyd yr eitemau canlynol: llaeth/ llefrith, reis, ffrwythau, persawr/ arogldarth, lamp, dwr – er mwyn i’r plant eu dal i fyny i’w dangos yn ystod y gwasanaeth.
  • Os oes rhai plant yn yr ysgol sydd â’u teuluoedd yn dilyn y grefydd Jain, fe allech chi ofyn iddyn nhw eich helpu gyda’r ffordd o ynganu’r geiriau.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gallu meddwl am unrhyw bethau y byddan nhw’n ei wneud i ddathlu achlysur arbennig. Efallai y bydd rhaid i chi eu hannog i feddwl am y Nadolig, y Pasg, Eid, Hanukah, Diwali, ac ati.

Eglurwch eich bod yn mynd i sôn wrthyn nhw am wyl arbennig o’r enw Mahavira Jayanti, sy’n cael ei dathlu’n benodol yn India, ond sydd hefyd yn dod yn fwy a mwy poblogaidd mewn gwahanol rannau o’r byd erbyn hyn. 

  1. Cyn i chi siarad am yr wyl, eglurwch i’r plant yr hoffech chi sôn wrthyn nhw am y dyn sy’n cael ei gydnabod fel arweinydd y grefydd Jain. 

Tua 2,500  fynyddoedd yn ôl, cafodd y tywysog Vardhamana ei eni yn India. Roedd Vardhamana’n fab i’r Brenin Siddhartha a’r Frenhines Trishaia. Fe gafodd Vardhamana ei fagu yn y palas brenhinol, a dyna lle’r oedd yn byw gyda’i deulu. Ond pan oedd tua 30 oed, yn dilyn marwolaeth ei dad a’i fam, fe benderfynodd adael moethusrwydd y palas, a gadael y ffordd braf o fyw yno. Yn lle hynny, roedd am dreulio’i holl amser yn ymprydio ac yn myfyrio.

Am y 12 mlynedd a hanner nesaf, fe aeth heb fwyd am gyfnodau hir. Yn aml, doedd ganddo ddim llawer o ddillad i’w gwisgo, nac unman i gysgu. Mae Jainiaid yn credu bod Vardhamana, trwy’r profiadau hyn, wedi dod yn ‘oleuedig’. Ystyr ‘goleuedig’ yw bod rhywun wedi ennill cymaint o wybodaeth ysbrydol arbennig fel eu bod yn gallu deall popeth, ac yn y pen draw yn cyrraedd perffeithrwydd. Mae rhywun sy’n oleuedig yn rhywun perffaith.

Yr enw y mae Jainiaid yn ei roi ar rai oedd wedi dod yn ‘oleuedig’ yw Tirthankaras. Yn y grefydd Jain mae 24 o’r Tirthankaras, a Vardhamana oedd yr olaf o’r 24 hyn. Pan ddaeth Vardhamana yn oleuedig fe newidiodd ei enw i Mahavira.

Unwaith y daeth Mahavira yn oleuedig, fe ddechreuodd ddilyn yr hen grefydd Jain. Nid Mahavira wnaeth sefydlu’r grefydd honno; yn hytrach fe adeiladodd ar yr hyn yr oedd pobl eraill wedi ei ddarganfod o’i flaen. Pan fu farw Mahavira (yn 72 oed) roedd ganddo lawer iawn o ddilynwyr - tua 14,000 o fynachod a thua 36,000 o leianod, i gyd yn dilyn y grefydd Jain.

  1. Yn achos y grefydd Jain, mae pum prif beth maen nhw’n cadw ato’n ffyddlon: 

(a) Parchu popeth byw. Mae pob un sy’n dilyn y grefydd Jain yn llysieuwyr, ac mae rhai mor benderfynol o beidio ag achosi niwed, na lladd un anifail, fel eu bod yn brwsio’r llwybrau o’u blaen cyn iddyn nhw gerdded arnyn nhw er mwyn gofalu nad ydyn nhw’n sathru unrhyw greadur bach. Mae rhai Jainiaid sy’n hynod ymroddedig yn gwisgo masgiau bach dros eu trwyn a’u ceg hefyd, rhag iddyn nhw’n ddamweiniol anadlu unrhyw bryfyn bach, a thrwy hynny ei ladd. Mae Jainiaid hefyd yn credu na ddylech chi ychwaith frifo teimladau unrhyw fod byw.


(b) Ddylech chi ddim dweud celwydd, ond dweud y gwir bob amser.


(c) Ddylech chi ddim dwyn unrhyw beth na thwyllo, byth.


(d) Fe ddylai gwyr a gwragedd aros yn ffyddlon i’w gilydd ar hyd eu hoes.


(e) Ddylech chi ddim chwennych pethau materol fel bwydydd moethus, dillad ffasiynol, na chasglu cyfoeth.

  1. Gofynnwch i wirfoddolwyr ddod i’r tu blaen atoch chi i ddal y baneri i fyny. Eglurwch fod yr wyl, Mahavira Jayanti, yn cael ei dathlu gan Jainiaid ar ddydd sy’n newid o flwyddyn i flwyddyn, ond sydd fel arfer yn ystod mis Mawrth neu fis Ebrill. Gwyl i ddathlu pen-blwydd Mahavira yw hi.

Fe fydd allorau a themlau’n cael eu haddurno gyda baneri, ac mae pawb yn gwisgo dillad lliwgar i gymryd rhan mewn gorymdaith. Cyn i’r orymdaith ddechrau, fe fydd y bobl yn cynnal seremoni o olchi delw o Mahavira a rhoi’r ddelw mewn crud i’w chario ar hyd y strydoedd yn yr orymdaith. Mae’r dathliadau’n parhau nes bydd hi’n hwyr yn y nos.

Yn ystod Mahavira Jayanti, mae pobl yn aml yn rhoi rhoddion i bobl dlawd. Eglurwch eich bod eisiau i’r plant geisio dyfalu beth yw’r rhoddion hyn sy’n cael eu rhoi, ar ôl iddyn nhw glywed y cliwiau sy’n dilyn.

Darllenwch un cliw a rhowch gyfle i blentyn ddyfalu. Yna ewch ymlaen i ddarllen cliw arall a rhowch gyfle i blentyn arall ddyfalu wedyn. Ewch ymlaen nes bydd rhywun wedi dyfalu’n gywir.

A    Gwyn yw lliw y peth hwn.

       Mae’n rhywbeth y gallwch chi ei yfed.

       Gan y gwartheg rydyn ni’n ei gael.

       Llaeth/ llefrith. Gofynnwch i blentyn ddod atoch chi i ddal y llaeth/ llefrith.

B    Yn y wlad hon, rydyn ni’n bwyta pob math o wahanol fwydydd. Ond mewn rhai gwledydd, y peth hwn yw’r unig beth bron y mae’r bobl yn ei fwyta.

      Gronynnau bach yw’r bwyd hwn.

      Fel arfer, fe fyddwch chi’n ei goginio trwy ei ferwi mewn dwr.

      Yn aml, fe fyddwn ni’n bwyta hwn gyda chyrri neu chilli.

      Reis. Gofynnwch i blentyn ddod atoch chi i ddal y reis.

C    Mae'r rhain yn eich cadw’n iach.

       Fe allen nhw fod yn goch, yn wyrdd, melyn, oren, porffor - pob math o liwiau mewn gwirionedd!

       Mae rhai yn hir, rhai yn grwn, rhai yn fawr, rhai yn fach, ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n llawn sudd.

       Mae digonedd o’r rhain ar werth yn yr archfarchnadoedd.

       Ffrwythau. Gofynnwch i rai o’r plant ddod atoch chi i ddal y ffrwythau.

D    Fe fydd pobl yn prynu hwn i’w roi yn anrheg, ambell dro, er ei fod yn beth eithaf drud.

       Mae arogl hyfryd arno.

       Fe fyddwch chi’n gallu ei chwistrellu ar eich croen.

      Persawr.

       Neu fe allwch chi gael arogl hyfryd wrth losgi rhywbeth arbennig.

       Arogldarth. Gofynnwch i blentyn ddod atoch chi i ddal y persawr/ arogldarth.

E    Mae’r rhain yn goleuo ystafell dywyll.

       Y dyddiau hyn dim ond pwyso botwm sydd angen ei wneud. Ond, ers talwn, flynyddoedd yn ôl roedd angen cael cwyr, olew neu nwy i’w goleuo.

       Mae bwlb y tu mewn i’r rhain.

       Lamp. Gofynnwch i blentyn ddod atoch chi i ddal y lamp.

F     Mae hwn wedi ei wneud o hydrogen ac ocsigen.

       Allwch chi ddim byw heb hwn.

       Mae tua 70 y cant o’n corff ni wedi ei wneud o hwn.

       Mae’n beth gwlyb.

       Dwr. Gofynnwch i blentyn ddod atoch chi i ddal y dwr.

  1. Heddiw, yn ogystal â’r miliynau o Jainiaid sy’n byw yn India, mae miloedd o rai eraill yn byw mewn gwahanol rannau o’r byd. Mae gwyl Mahavira Jayanti yn wyl hapus, hwyliog a lliwgar, pryd y bydd Jainiaid yn cofio am fywyd Mahavira. Ond ei phrif bwrpas yw helpu’r gymuned Jainaidd i barhau i barchu popeth byw ac i barhau i fyw mewn heddwch. Mae’r rhain yn wersi da i bob un ohonom eu dysgu. 

Amser i feddwl

Yn ystod Mahavira Jayanti, mae llawer o bobl yn anfon negeseuon testun i’w ffrindiau ac i aelodau eu teulu, yn union fel y byddwn ni’n anfon cyfarchion pen-blwydd ac ati. Dyma ddwy neges testun a fu yn boblogaidd iawn i’w hanfon yn ystod gwyl Mahavira Jayanti yn y flwyddyn 2011. Gofynnwch i’r plant feddwl am ystyr y geiriau wrth i chi eu darllen yn araf:

Bydded i’r Arglwydd Mahavira eich bendithio’n helaeth a llenwi eich bywyd gyda’r rhinweddau o fod yn garedig, a bod yn drugarog, ac yn llawn gwirionedd. Mahavira Jayanti hapus i chi.

Gall allweddi bach agor cloeon mawr. Gall geiriau syml fynegi syniadau gwych. Gobeithio y bydd fy ngweddi syml yn gallu gwneud eich bywyd yn ardderchog. Mahavira Jayanti Hapus i chi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni bob amser i barchu popeth byw,
pa un ai planhigion ydyn nhw, anifeiliaid, neu bobl eraill.
Diolch i ti am harddwch dy greadigaeth.
Helpa ni i ofalu am dy fyd di, bob amser.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon