Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Esgyniad - Dydd Iau Dyrchafael

Iesu’n ffarwelio â’i ffrindiau ac yn esgyn i’r nefoedd

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried sut rydyn ni’n teimlo pan fyddwn ni’n colli ffrind da, a pherthnasu hynny i’r adeg y gwnaeth Iesu adael ei ddisgyblion a mynd yn ei ôl i’r nefoedd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae Cristnogion yn dathlu’r amser yr aeth Iesu oddi wrthyn nhw’n ôl i’r nefoedd. Maen nhw’n cyfeirio at yr achlysur fel ‘Yr Esgyniad’, am fod Iesu wedi ‘esgyn’  neu fynd i fyny i’r nefoedd. Mae’r Esgyniad yn digwydd 40 diwrnod ar ôl y Pasg, ar ddydd Iau – Dydd Iau Dyrchafael – ac mae llawer o eglwysi’n cynnal gwasanaethau arbennig i ddathlu’r digwyddiad hwn ym mywyd Iesu. Mae’r Eglwys Gatholig yn Lloegr a Chymru, fel arfer, yn dathlu’r esgyniad ar y dydd Sul canlynol. Yng ngwledydd Sgandinafia, yr Iseldiroedd a’r Almaen, mae’r plant ysgol yn cael diwrnod o wyliau ar Ddydd Iau Dyrchafael.
  • Dangoswch luniau o bobl yn ffarwelio, er enghraifft, llun rhywun yn codi llaw wrth fynd ar y trên, rhywun yn cofleidio’i gilydd cyn gwahanu, yn sychu deigryn efallai, neu lun faciwîs yn gadael cartref, ac ati.

Gwasanaeth

  1. Mae ffrindiau’n bwysig iawn i ni. Weithiau, yn enwedig yn yr ysgol, fe fydd gennym ni ffrind arbennig rydyn ni’n cyfeirio ato ef, neu ati hi, fel ein ‘ffrind gorau’. Mae ffrindiau gorau’n treulio hynny sy’n bosib o amser gyda’i gilydd ac, ar adegau arbennig, fel partïon pen-blwydd neu drip i’r sinema ac ati, enw’r ffrind gorau fydd yr enw cyntaf i fynd ar ben y rhestr. Mae ffrindiau gorau’n helpu ei gilydd, ac yn cefnogi ei gilydd ar adegau anodd; maen nhw’n ffyddlon, ac yn rhai y gallwn ni ymddiried ynddyn nhw. 

  2. Dychmygwch sut y byddech chi’n teimlo pe byddai eich ffrind gorau’n gorfod symud i ffwrdd i fyw, a chithau ddim wedyn yn mynd i’r un ysgol â’ch gilydd. Wrth ymyl pwy fyddech chi’n eistedd ar y trip ysgol wedyn? Pwy fyddai eich partner yn y wers ymarfer corff? Gyda phwy y byddech chi’n chwarae wedyn yn ystod yr amser egwyl neu amser cinio? Mae’n debyg y byddech chi’n teimlo na fyddai hynny’n deg, ond yn deall hefyd na fyddech chi’n gallu gwneud dim am y peth.

    Yn y pen draw, fe ddeuai’r amser pan fyddech chi’n gorfod dweud ‘Hwyl fawr‘ wrth eich ffrind. Fe fyddech chi’n addo cadw mewn cysylltiad mae’n debyg, ac efallai’n trefnu i gwrdd rywbryd yn ystod y gwyliau ysgol. Ond fe fyddech chi’n gweld colli eich ffrind, ac yn teimlo’r golled. Fe fyddech chi’n cael eich gadael yn meddwl tybed a fyddai eich cyfeillgarwch yn gallu parhau’n gryf nawr a chithau ddim yn mynd i allu gweld eich gilydd bron bob dydd fel o’r blaen.

  3. Roedd gan Iesu grwp o ffrindiau arbennig - y disgyblion - ac roedd y disgyblion yn meddwl am Iesu fel eu ffrind gorau. Am tua thair blynedd, roedden nhw wedi teithio ar hyd y wlad gyda’i gilydd yn rhannu prydau bwyd ac yn sgwrsio nes byddai hi’n hwyr y nos. Roedd y disgyblion wedi cael eu rhyfeddu gan Iesu a’i wyrthiau’n iachau pobl . Roedd Iesu wedi dysgu llawer o bethau iddyn nhw, ac wedi egluro iddyn nhw bod Duw’n eu caru. Ond un diwrnod, roedd wedi dweud wrthyn nhw y byddai’n gorfod eu gadael cyn hir. Doedden nhw ddim yn ei gredu - doedden nhw ddim yn gwybod sut y bydden nhw’n gallu wynebu colli eu ffrind gorau.

  4. Yn fuan ar ôl i Iesu ddweud wrth ei ddisgyblion ei fod yn ymadael, fe ddigwyddodd hynny – ac roedd hynny’n hunllef! Roedd Jwdas, a oedd wedi bod yn un o’r grwp o ffrindiau, wedi bradychu Iesu ac wedi arwain yr awdurdodau ato. Roedd ei ddisgyblion gyda Iesu pan ddaeth yr awdurdodau ato a’i arestio, ond doedden nhw ddim yn ffrindiau da iawn ychwaith, yn ôl pob golwg – fe wnaethon nhw redeg i ffwrdd! Fe wnaeth un ohonyn nhw, Pedr, ddilyn o bell y milwyr a oedd wedi arestio Iesu, ond pan ofynnodd morwyn fach iddo a oedd yn ffrind i Iesu fe smaliodd nad oedd hyd yn oed yn adnabod Iesu. Gadawyd Iesu ar ben ei hun i wynebu’r rhai oedd wedi ei ddal. Roedd ei ffrindiau wedi ei adael am ei bod wedi dychryn. Cafodd Iesu ei drin yn greulon a’i roi ar dreial. Cafodd ei watwar, ac yn y diwedd fe gafodd ei groeshoelio, sef ei roi i farw ar groes bren. 

  5. Pan gafodd Iesu ei groeshoelio roedd ei ffrindiau’n teimlo’n ofnadwy o drist. Roedden nhw’n sylweddoli eu bod wedi siomi Iesu, ac roedden nhw’n edifarhau na fydden nhw wedi gallu gwneud rhywbeth i’w helpu. Roedd arnyn nhw ofn y bydden nhw hefyd yn cael eu harestio, ac roedden nhw’n teimlo’n ddryslyd iawn ynghylch beth oedden nhw i fod i’w wneud nawr bod Iesu wedi marw.

    Ond, ar fore Sul y Pasg, fe gododd Iesu o farw’n fyw, ac roedd rhai o’i ffrindiau wedi ei weld. Doedden nhw ddim yn gallu credu’r peth, ond ie’n wir, Iesu eu ffrind oedd yno. Roedden nhw’n siwr o hynny. Roedd yn wahanol rywsut, ond doedden nhw ddim yn poeni am hynny, roedd eu ffrind wedi dod yn ôl atyn nhw.

  6. Er nad oedden nhw’n sylweddoli hynny, doedd Iesu ddim wedi dod yn ôl atyn nhw am byth. Am 40 diwrnod, fe ymddangosodd Iesu i nifer o bobl mewn nifer o wahanol lefydd, ond un diwrnod fe aeth â’i ffrindiau i ben mynydd a siarad gyda nhw am y tro olaf. Fe ddywedodd Iesu wrthyn nhw fod arno eisiau iddyn nhw fynd i ddweud wrth y bobl am gariad Duw tuag at yr holl fyd, a dweud sut roedd ef Iesu wedi cael ei godi o farw’n fyw yn unol â chynllun Duw. Roedd yn gwybod na fyddai hynny’n beth hawdd i’w wneud, ond fe wnaeth addo anfon yr Ysbryd Glân i’w helpu. Ac yna’n sydyn fe aeth o’u golwg - fe esgynnodd i’r nef - cafodd ei godi, ac aeth yn ôl at ei Dad.

  7. Felly, pan oedd ei ddisgyblion yn meddwl ei fod wedi dod yn ôl atyn nhw, eu bod wedi cael eu ffrind yn ôl, roedd wedi eu gadael eto. Doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol ac roedden nhw’n teimlo’n bryderus ynghylch sut roedden nhw’n mynd i wynebu bywyd heb eu harweinydd. Yr unig beth roedden nhw’n gallu ei wneud oedd mynd i Jerwsalem, fel roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw, a disgwyl am yr Ysbryd Glân. Ac fe ddaeth yr Ysbryd Glân … ond stori arall yw honno.

Amser i feddwl

Oes gennych chi rywbeth sy’n eich atgoffa o ffrind arbennig? Efallai mai rhywbeth gawsoch chi’n anrheg pen-blwydd ganddo ef neu hi ryw dro yw’r peth hwnnw, neu efallai bod gennych chi lun ohonoch chi gyda’ch gilydd. Er ei bod hi’n bosib, wrth i chi dyfu, eich bod wedi cael ffrindiau eraill, ac mae cofroddion yn mynd ar goll, fe fyddwch chi’n dal i fod ag atgofion am eich ffrindiau yn yr ysgol. Meddyliwch am un o’ch ffrindiau gorau, a meddyliwch beth sy’n gwneud y ffrind hwnnw neu honno’n arbennig i chi.

Ar ôl i Iesu fynd oddi wrthyn nhw dim ond atgofion oedd gan ei ffrindiau hefyd am yr amser roedden nhw wedi ei dreulio yn ei gwmni. Ond oherwydd yr hyn roedden nhw’n ei gofio am Iesu, ac wedi sôn wrth bobl eraill amdano neu wedi ysgrifennu amdano, y mae gennym ni hanesion am Iesu hyd heddiw yn y Testament Newydd.

Gweddi

Dduw, Dad,
diolch i ti am ffrindiau y byddwn ni bob amser yn cofio amdanyn nhw, hyd yn oed os na fyddan nhw’n dal i fod gyda ni. Rydyn ni’n diolch dy fod ti wedi addo bod yn ffrind i ni, ac rydyn ni’n gofyn i ti ddangos i ni sut i fod yn ffrind ffyddlon a chywir bob amser.

 

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon