Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pentecost - Dechreuad Yr Eglwys Gristnogol

Dechreuad yr Eglwys Gristnogol

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried dyfodiad yr Ysbryd Glân o safbwynt Pedr, a pherthnasu hyn â dechreuad yr Eglwys Gristnogol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r Eglwys Gristnogol yn dathlu’r Pentecost saith wythnos ar ôl Sul y Pasg . Mae’n nodi’r adeg pan ddaeth yr Ysbryd Glân, fel yr addawodd Iesu iddyn nhw, at y disgyblion a oedd yn aros yn Jerwsalem. Ac mae’n nodi dechrau’r Eglwys Gristnogol, gan mai ar ôl hyn y dechreuodd dilynwyr Iesu bregethu’r efengyl neu’r newyddion da am atgyfodiad Iesu, a’r addewid am faddeuant a bywyd tragwyddol i’w ddilynwyr.

  • Casglwch ynghyd rai delweddau o’r symbolau sy’n gysylltiedig â’r Ysbryd Glân, i’w dangos – tân, gwynt, dwr, colomen, goleuni, ac ati. Wrth i chi ddangos y rhain, eglurwch ein bod ni weithiau’n ei chael hi’n anodd defnyddio geiriau cyffredin i ddisgrifio profiad anghyffredin. Mae’r symbolau hyn wedi cael eu defnyddio i gynrychioli’r math hwnnw o brofiad er mwyn ceisio cyfleu’r neges.

Gwasanaeth

  1. Safodd Pedr ynghanol yr ystafell, a dechreuodd grio. Fe ddaeth y cyfan yn ôl i’w gof. Dyma’r ystafell lle’r oedd wedi rhannu’r pryd bwyd olaf gyda Iesu a’i ffrindiau. Roedd wedi eistedd ar yr union gadair hon, ac roedd Iesu wedi golchi ei draed. Sut un y byd yr oedd eu harweinydd wedi gallu ymddwyn fel gwas y noson honno ac wedi golchi traed poeth a llychlyd y disgyblion?         Meddyliodd Paul am yr hyn yr oedd Iesu wedi ei ddweud a’i wneud  y noson honno, a sylweddolodd mai dim ond nawr yr oedd yn dechrau deall.

  2. Fe gofiodd Pedr fel roedd wedi dweud wrth Iesu y byddai’n fodlon marw er ei fwyn – ond wedyn ei fod heb wneud dim pan gafodd Iesu ei arestio. Roedd cymaint o ofn ar Pedr y byddai yntau’n cael ei arestio hefyd fel y cadwodd o’r golwg a dilyn Iesu, a’r rhai oedd wedi ei arestio, o bell. Fe gofiodd amdano’i hun yn gwadu ei fod yn un o ffrindiau Iesu – nid dim ond unwaith, ond tair gwaith. Gwridodd Pedr mewn cywilydd wrth gofio am hynny. Sut y gallodd siarad mor ddewr i ddechrau, ond eto ymddwyn mor llwfr wedyn? 

  3. Roedd pethau wedi newid ers hynny, a nawr roedd yn gwybod ei fod wedi cael dechrau newydd, Roedd Iesu wedi codi o farw’n fyw ac wedi sicrhau Pedr ei fod wedi maddau iddo. Roedd hyd yn oed wedi dweud wrth Pedr bod gwaith pwysig iawn iddo i’w wneud. Roedd Iesu wedi mynd yn ei ôl at ei dad i’r nefoedd, ond cyn iddo fynd fe ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fynd i Jerwsalem ac aros yno neb byddai’r Ysbryd Glân yn dod. Felly, dyma ble’r oedd Pedr, ychydig o ddyddiau’n ddiweddarach, yn ôl yn yr un ystafell a oedd yn llawn o atgofion iddo.

  4. Pan glywodd Pedr swn traed y disgyblion eraill yn dod i fyny’r grisiau, fe sychodd ei wyneb â llawes ei wisg, gan obeithio na fyddai unrhyw un yn sylwi ei fod wedi bod yn crio. Daeth y lleill i mewn ac ymuno â Pedr, a oedd yn falch na wnaeth neb sylwi, ac fe ddechreuodd pawb holi beth ddylen nhw’i wneud nawr eu bod i gyd gyda’i gilydd eto. 

  5. Er bod Pedr yn gallu bod braidd yn fyrbwyll ar adegau, yn gwneud ac yn dweud pethau heb feddwl yn gyntaf, roedd y disgyblion eraill yn ei barchu, ac yn fuan iawn roedden nhw’n dilyn ei arweiniad. Ar y dechrau, roedd Pedr yn ddiamynedd ac eisiau mynd ati ar unwaith i ddechrau ar y gwaith yr oedd Iesu wedi gofyn iddyn nhw’i wneud. Ond y broblem oedd, fe wyddai Pedr fod yn rhaid iddo aros nes byddai’r Ysbryd Glân yn dod - doedd ar Pedr ddim eisiau siomi Iesu eto trwy beidio â gwneud yr hyn yr oedd wedi gofyn iddyn nhw’i wneud. 

  6. Doedd Pedr ddim yn gwybod sut y byddai’r Ysbryd Glân yn dod, ond doedd dim rhaid iddo aros yn hir cyn y cafodd wybod . . . .

    Fe ddechreuodd gyda swn fel gwynt. Daeth y swn yn gryfach ac yn gryfach, nes roedd Pedr bron iawn â methu dioddef dim mwy. Roedd y disgyblion eraill yn clywed y swn hefyd - roedd yn ddigon hawdd gweld hynny oddi wrth yr olwg ar eu hwynebau! Roedd y ty cyfan fel pe bai’n llawn o’r swn. Yna - a doedd Pedr prin yn credu’r hyn roedd yn ei weld - fe ymddangosodd fflamau o dân yn yr ystafell ac ymrannu a chyffwrdd pen pob un ohonyn nhw, ond heb eu llosgi.

  7. Dyna beth welodd Pedr – neu, o leiaf dyna’r unig ffordd yr oedd yn gallu disgrifio’r hyn a welodd – ond roedd sut y teimlai’n fwy rhyfeddol fyth. Roedd fel petai Iesu wedi dod ato unwaith eto, ond nid dim ond i mewn i’r ystafell – roedd fel petai y tu mewn iddo yn wir. 

  8. Felly, dyma beth oedd yr Ysbryd Glân! Iesu ar ffurf arall, ac fe fyddai Iesu gydag ef yn awr a dim yn ei adael eto byth. Sylweddolodd Pedr hynny, tra roedd Iesu ddim ond yn gallu bod mewn un lle ar y tro, roedd ei Ysbryd Glân yn gallu bod gydag ef ble bynnag y byddai’n mynd. 

  9. Roedd pawb arall a oedd yn yr ystafell gyda Pedr wedi cael yr un profiad yn union, ac roedden nhw ar dân eisiau mynd allan i ddweud wrth bawb am y profiad. Roedd digon o bobl y tu allan y gallen nhw adrodd yr hanes wrthyn nhw. Oherwydd ei bod hi’n adeg y Pentecost, gwyl dathlu’r cynhaeaf, roedd dinas Jerwsalem yn llawn o ymwelwyr o bob cwr o’r byd. Nid dim ond Pedr oedd eisiau dweud yr hanes wrth y bobl – roedd y disgyblion i gyd eisiau gwneud yr un peth, a fedrai’r bobl ar y stryd ddim peidio gwrando arnyn nhw. Felly, fe ddaeth tyrfa fawr ynghyd yn sydyn iawn. 

    Roedd y disgyblion mor llawn o gyffro, ac mor llawn o’r Ysbryd Glân, fe ddechreuodd pawb siarad ar unwaith. Roedd rhai pobl yn meddwl mai siarad nonsens yr oedden nhw, ond fe sylweddolodd pawb yn fuan eu bod yn siarad mewn gwahanol ieithoedd. Felly roedd hyd yn oed yr ymwelwyr o wledydd eraill a oedd wedi dod i Jerwsalem yn gallu eu deall. Gyda’r disgyblion yn siarad ar draws ei gilydd ar yr un pryd – a rhai’n cynhyrfu ac yn codi eu llais ac yn chwifio’u breichiau – doedd dim rhyfedd i rywun yn y dyrfa ddweud, ‘Wedi meddwi maen nhw!’ 

  10. A dyna pryd y safodd Pedr a dweud wrth y disgyblion am dawelu am ychydig er mwyn iddo gael egluro i’r dyrfa beth oedd wedi digwydd. Yn gyntaf, dywedodd wrth y bobl ei bod hi’n rhy gynnar yn y dydd i’r disgyblion fod wedi meddwi. Yna, fe ddywedodd wrth y bobl am y newyddion da – bod Iesu wedi atgyfodi er mwyn arddangos grym a chariad Duw. Eglurodd Pedr i’r dyrfa sut y gallai pawb ymuno â nhw a phrofi Ysbryd Glân Duw eu hunain. Ac erbyn diwedd y diwrnod hwnnw roedd tua 3,000 o bobl wedi dod yn ddilynwyr i Iesu. 

  11. Y digwyddiad dramatig hwn oedd dechrau’r Eglwys Gristnogol, eglwys a dyfodd a lledaenu ledled y byd i gyd.

Amser i feddwl

Er bod Pedr wedi siomi Iesu, fe wnaeth Iesu faddau iddo a rhoi ail gyfle iddo. Ydyn ni’n barod i roi ail gyfle i bobl os ydyn nhw wedi dweud ei bod hi’n ddrwg ganddyn nhw am ein tramgwyddo a brifo ein teimladau?

Meddyliwch am y profiad gorau neu’r profiad mwyaf cyffrous rydych chi wedi ei gael. Llun beth fyddech chi’n ei dynnu i ddarlunio sut roeddech chi’n teimlo y tu mewn i chi ar y pryd?

Gweddi

Dduw, Dad,

helpa ni gofio dy fod ti wedi addo bod gyda ni, ble bynnag y byddwn ni.
Rho i ni’r nerth i sefyll dros yr hyn sy’n iawn, helpa’r rhai hynny sydd mewn angen a, thrwy ein gweithredoedd ni, gad i ni ddilyn esiampl Iesu.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon