Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pentecost 19 Mai 2013

Defnyddio car bach neu hofrennydd tegan sy’n cael eu rheoli o bell er mwyn darlunio grym yr Ysbryd Glân.

gan The Revd John Challis

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Defnyddio car bach neu hofrennydd tegan sy’n cael eu rheoli o bell er mwyn darlunio grym yr Ysbryd Glân.

Paratoad a Deunyddiau

  • Car bach neu hofrennydd tegan sy’n cael eu rheoli o bell.
  • Os nad ydych chi’n gallu cael un o’r rhain, yna fe allwch chi addasu’r gwasanaeth trwy ddefnyddio ffôn symudol yn canu yn lle hynny.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch y gwasanaeth trwy ddweud rhywbeth fel, ‘Heddiw, rydw i eisiau dangos rhywbeth i chi sy’n ymwneud â’r Ysbryd Glân. Adeg y Pentecost, fe ddaeth yr Ysbryd Glân at y disgyblion ar ffurf gwynt a thân.’

    Wrth i chi siarad, dechreuwch weithio gyda’r car bach neu’r hofrennydd sydd gennych chi’n cael ei rheoli o bell. Fe fyddwch chi wedi gosod y tegan yn rhywle yn yr ystafell o flaen llaw. Fe fydd y plant yn llawn diddordeb i weld beth sy’n gwneud y swn. Rhowch rywfaint o amser i chwarae ychydig â’r tegan, a gwahoddwch rywun i ddod i weithio’r car neu’r hofrennydd, gyda’r teclyn rheoli. 

  2. Gofynnwch, ‘Sut mae hwn yn gweithio?’ Disgwyliwch atebion fel gyda phwer batri, ac ati. Tybed fydd rhywun yn awgrymu ‘tonnau radio'? Os bydd, fe allech chi ymddangos ychydig yn anneallus gan ofyn, ‘Tonnau radio? Alla i ddim gweld unrhyw donnau radio. Ble maen nhw?’ Byddwch yn barod am atebion diddorol.

  3. Dewch â’r drafodaeth i ben trwy ddweud, ‘Mae tonnau radio wedi bod mewn bodolaeth ers dechrau amser, ers pan gafodd y byd ei greu. Er nad ydym yn gallu eu gweld, rydyn ni’n gallu gweld eu heffaith – yn union fel y pethau hyn (y car neu’r hofrennydd yn cael eu rheoli) sy’n gweithio heb unrhyw wifrau. Fe wnaeth rhywun ddarganfod tonnau radio a dysgu sut i’w defnyddio.’ 

  4. Ewch ymlaen, ‘Yn yr un ffordd, mae Cristnogion yn gwybod am yr Ysbryd Glân. Dydyn ni ddim yn gallu gweld yr Ysbryd Glân, ond rydyn ni’n gwybod ei fod yno. Rydyn ni’n gallu gweld yr effaith a gafodd yr Ysbryd Glân ar fywydau’r disgyblion, ac ar lawer o bobl hyd heddiw.’

  5. Gorffennwch trwy ddweud, ‘Yn union fel gyda’r tonnau radio, oherwydd dydyn ni ddim yn gallu gweld yr Ysbryd Glân, dydi hynny ddim yn golygu ei fod ddim yno.’

    Gweithiwch y car neu’r hofrennydd sy’n cael ei rheoli o bell eto am ychydig.

Amser i feddwl

Meddyliwch am foment neu ddwy am y tonnau radio sy’n gwneud i’r car neu’r hofrennydd weithio.

Mae llawer iawn o bethau dydyn ni ddim yn gallu eu gweld y mae ein bywyd ambell dro’n dibynnu arnyn nhw  . . . Meddyliwch am rai o’r pethau hyn yn awr.

Gweddi

Annwyl Dduw,
diolch i ti am yr holl bethau rydyn ni’n eu defnyddio yn ein bywyd sy’n anweladwy.
Helpa ni i gofio bod cariad a llawenydd a heddwch yno i ni hefyd er nad ydyn ni’n gallu gweld y pethau hyn.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon