Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gryn Y Pentecost

Ystyried yr athrawiaeth Gristnogol ynghylch yr Ysbryd Glân, a meddwl beth yw ystyr gwyl y Pentecost.

gan Manon Ceridwen Parry

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried yr athrawiaeth Gristnogol ynghylch yr Ysbryd Glân, a meddwl beth yw ystyr gwyl y Pentecost.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen casgliad o gymaint ag y gallwch chi eu cael - a’u cario - o blygiau, gwifrau a phlygiau gwefru (chargers) ac offer technolegol eraill i’w harddangos: – gliniadur, ffonau symudol, chwaraewr MP3, kindle, consol gemau ac ati, ac ati.
  • Actau 2:1–4, yr adnodau wedi eu hysgrifennu ar fwrdd gwyn neu siart troi, neu wedi eu harddangos ar sgrin, a chopi o’r adnodau i chi eich hunan eu darllen yn ystod y gwasanaeth:

    Dyfodiad yr Ysbryd Glân 
    Ar ddydd cyflawni cyfnod yPentecost yr oeddent oll ynghyd yn yr un lle, ac yn sydyn fe ddaeth o’r nef swn fel gwynt grymus yn rhuthro, ac fe lanwodd yr holl dy lle’r oeddent yn eistedd. Ymddangosodd iddynt dafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd ar bob un ohonynt; a llanwyd hwy oll â’r Ysbryd Glân, a dechreuasant lefaru â thafodau dieithr, fel yr oedd yr Ysbryd yn rhoi lleferydd iddynt.

Gwasanaeth

  1. Sgwrsiwch am y gwahanol offer rydych chi wedi eu casglu ynghyd ar gyfer y gwasanaeth heddiw. Eglurwch eich bod wrth eich bodd yn defnyddio’r rhain, a’ch bod (o bosib) yn gallu darllen llyfrau arnyn nhw, yn gwrando ar gerddoriaeth, ac ati …. Sgwrsiwch am eich ffôn symudol gan ddweud pa mor hoff ydych chi o gadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau ac aelodau eich teulu, yn ogystal â thrafod nodweddion arbennig sy’n perthyn i’ch ffôn chi - efallai eich bod yn gallu tynnu lluniau â hi, neu chwarae gêm. (mae gen i app ar fy un i sy’n ei gwneud yn dortsh!)

  2. Holwch y plant pa offer tebyg sydd ganddyn nhw gartref. Mae’n bwysig bod yn sensitif ar y pwynt hwn, yn dibynnu ar gefndir y plant – er, mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc heddiw yn gallu uniaethu â defnyddio ffonau fel hyn, ac efallai bod rhai o’r plant hynaf yn berchen ar ffôn o’r fath hyd yn oed.

    Gofynnwch pwy sydd gan ffôn, neu a oes un gan aelod o’u teulu. Oes gan rywun chwaraewr MP3? Oes gan rywun gonsol i chwarae gemau, neu bethau tebyg? 

  3. Soniwch am y pleser o gael gwrando ar gerddoriaeth ble bynnag y byddwch chi, neu allu mynd â llyfrau lyfrgell gyda chi i bob man, neu o gael siarad gyda’ch ffrindiau ar y ffôn.

    Archwiliwch gyda’r plant yr holl wahanol declynnau gwefru sydd gennych chi. Mae’n anodd cario’r rhain i gyd gyda chi ... mae’n haws gofalu bod yr holl offer wedi eu gwefru’n barod gennych chi gartref cyn i chi fynd allan.

    Sut deimlad yw pan fydd eich ffôn heb ddim ‘charge’ ynddi? (O’r holl declynnau, mae’n debyg y bydd hi’n haws i’r plant berthnasu hyn gyda’u ffôn symudol.) Siaradwch am y rhwystredigaeth y byddwch yn ei deimlo pan fyddwch chi’n methu cysylltu â phobl oherwydd bod eich ffôn wedi ‘mynd yn fflat’! Oes gan y plant stori am adeg y digwyddodd hynny iddyn nhw neu i rywun maen nhw’n ei adnabod? Efallai iddyn nhw fod eisiau tecstio rhywun ryw dro gyda neges i wneud trefniadau i gwrdd â ffrind tra roedden nhw allan, ond wedi methu gwneud hynny am nad oedd y ffôn wedi ei gwefru.

  4. Symudwch ymlaen i archwilio sut y mae arnom ni, fodau dynol, angen cael ein ‘gwefru’ hefyd. Rydyn ni angen bwyd, diod, a chwsg i’n helpu ni i ddal i fynd.

    Yna, dywedwch fod stori’r Pentecost yn ymwneud â sut mae arnom ni, fodau dynol, angen nid yn unig cael ein gwefru’n gorfforol ond angen cael ein gwefru’n ysbrydol hefyd.

  5. Roedd Iesu wedi addo y byddai’n anfon math o egni arbennig, o’r enw yr Ysbryd Glân, i helpu’r disgyblion – ei ffrindiau a’i ddilynwyr – er mwyn iddyn nhw allu byw fel Cristnogion, sefydlu’r eglwys Gristnogol, a dweud wrth bawb drwy’r byd am Iesu Grist. 

  6. Darllenwch hanes y Pentecost yn Actau 2:1–4. Soniwch fel y gwnaeth yr Ysbryd Glân helpu’r disgyblion i siarad mewn gwahanol ieithoedd, a sut mae Cristnogion yn credu mai hyn, hyd yn oed, oedd dechrau’r eglwys Gristnogol newydd. Roedd yn amser cyffrous iawn ac roedd y disgyblion yn credu y bydden nhw’n gallu mynd i bob man yn y byd i ddweud wrth bobl am Iesu oherwydd bod ei egni arbennig, sef yr Ysbryd Glân, gyda nhw.

Amser i feddwl

Dangoswch y plygiau gwefru (chargers) eto a gofynnwch i’r plant feddwl am sut y maen nhw’n eu hunain yn cael eu ‘gwefru’.

Gweddi

Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am yr holl wahanol fathau o bwer a grym sydd yn ein byd. Diolch i ti am y trydan a’r batris sy’n ein helpu ni i allu mwynhau rhai o’n hoff bethau. Rydyn ni’n diolch hefyd dy fod ti’n gallu rhoi grym i ninnau hefyd.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon