Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

'Helo Sgryffi!'

gan The Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dangos ein bod ni’n gorfod gwneud dewisiadau bob dydd, gan ddefnyddio pyped, sy’n ffrind bach newydd, i helpu trosglwyddo’r neges hon.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu mul bach.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod y pyped yn barod am eich llaw. 

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw ar Sgryffi.

    Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr a’i brawd bach, Tomi. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi, y mul bach sy’n byw ar y fferm. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn - pan fydd hi’n hapus a phan fydd hi’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!
  2. Weithiau, mae Sgryffi’n teimlo yr hoffai allu siarad gyda Liwsi Jên, yna fe fyddai’n gallu dweud pethau wrthi a’i rhwystro rhag mynd i drwbl. Un pnawn Gwener, pan ddaeth Liwsi Jên adref o’r ysgol, roedd cegin y ffermdy’n llawn arogl da teisennau’n crasu. Roedd Mrs Bryn newydd dynnu llond tun o deisennau bach siocled allan o’r popty. ‘Fe wna i adael y rhain i oeri yma ar y bwrdd tra bydda i’n picio i’r siop. Paid ti â’u cyffwrdd, Liwsi Jên, cofia. Os wyt ti eisiau rhywbeth i’w fwyta, fe alli di gael bisged o’r tun bisgedi. Mae dy dad ar y buarth os byddi di eisiau rhywbeth. Fydda i ddim yn hir.‘ Fe roddodd hi Tomi yn y bygi ac i ffwrdd â nhw. 
  3. Aeth Liwsi Jên i nôl bisged o’r tun ac yfed cwpanaid o lefrith, ond roedd arogl hyfryd y teisennau’n ei themtio’n wir. ‘Mae Mam wedi gwneud lot fawr o’r teisennau bach yma. Wnaiff hi ddim gweld colli un dwi’n siwr!’ Fe gymrodd Liwsi Jên un, a’i bwyta’n sydyn. O! Roedd y deisen fach yn flasus! Wedyn, gan lyfu ei gwefusau, fe redodd i’r stabl i weld ble roedd Sgryffi.
  4. ‘Mae Mam wedi gwneud lot o deisennau bach siocled,’ meddai wrth Sgryffi. Ac yna, fe sibrydodd yn ei glust, ‘Fe ddyweda i gyfrinach wrthyt ti, fe wnes i fwyta un. Wnaiff mam ddim gweld colli un, na wnaiff? Fe gofleidiodd hi Sgryffi a brwsio’i got. Trwy’r amser roedd arogl hyfryd y teisennau newydd eu crasu’n cario ar draws y buarth. ‘O, mae’n ddrwg gen i, fe wnes i anghofio dod â moronen i ti, Sgryffi. Fe reda i yn ôl i chwilio am un i ti!’ Ysgydwodd Sgryffi ei ben yn egniol, ond roedd Liwsi Jên eisoes wedi rhedeg i mewn i’r gegin.

    Holwch y plant, tybed pam roedd Sgryffi’n ysgwyd ei ben. Oedd Sgryffi’n gwybod beth fyddai Liwsi Jên yn ei wneud ar ôl mynd i’r gegin?
  5. O do, fe ddaeth Liwsi Jên â moronen hyfryd i Sgryffi. Ond fe sylwodd Sgryffi bod gan Liwsi Jên lot o friwsion teisen siocled o gwmpas ei cheg ac ar ei siwmper. ‘Hi-ho. Hi-ho’, gweryrodd yn dawel. ‘O, Sgryffi, rwyt ti’n gwybod beth wnes i, wyt ti? Roedd mam wedi dweud wrtha i am beidio â chyffwrdd yn y teisennau, a nawr rydw i wedi bwyta tair arall! Fe fydd hi yn ôl toc, ac mae’n siwr o sylwi. Beth ddyweda i wrthi?’
  6. Ac ar hynny, dyma Mrs Bryn yn cyrraedd yn ôl o’r siop, ac fe gododd ei llaw ar Liwsi Jên, a oedd yn sefyll wrth ddrws y stabl. Gwthiodd Sgryffi Liwsi Jên ymlaen yn addfwyn gyda’i drwyn. ‘Rwyt ti’n iawn, Sgryffi. Fe fydd yn rhaid i mi ddweud wrth Mam fod arogl mor hyfryd ar y teisennau fel bu’n rhaid i mi gael un i’w bwyta - er ei bod wedi dweud wrtha i am beidio â’u cyffwrdd - ac nid dim ond un wnes i ei bwyta, ond pedair. Fe fydd yn rhaid i mi ddweud ei  bod hi’n ddrwg gen i.’ Ac fe ddywedodd hi ‘Sori’ wrth ei mam.

    Holwch y plant beth maen nhw’n ei feddwl ddywedodd Mam Liwsi Jên wrthi. Gofynnwch iddyn nhw a fyddan nhw ambell dro’n cymryd rhywbeth na ddylen nhw’i gymryd, er eu bod nhw’n gwybod na ddylen nhw wneud hynny? Yna tynnwch Sgryffi, y pyped, oddi am eich llaw. 
  7. Yn y Beibl, rydyn ni’n clywed yr hanes am Iesu’n mynd i’r anialwch ar ben ei hun. Yno, fe fu’n meddwl ac yn gwrando. Beth oedd y gwaith arbennig roedd Duw eisiau iddo’i wneud? 
  8. Daeth pob math o syniadau i’w ben, a doedd pob syniad ddim yn un da iawn ychwaith! Felly, pan ddechreuodd glywed synau eisiau bwyd yn ei fol, ac yntau’n gwybod nad oedd ganddo fwyd i’w fwyta, fe ddechreuodd feddwl. ‘Os mai mab Duw ydw i, pam na allaf i godi un o’r cerrig hyn a’i throi’n dorth o fara? Beth sy’n fy rhwystro i rhag rheoli’r holl fyd? Fe allwn i wneud rhywbeth gwirioneddol syfrdanol, fel neidio i lawr o ben pinacl y deml, a glanio’n ddiogel ynghanol tyrfa o bobl, heb i neb gael eu brifo. Fe allwn i fod yn uwch-arwr a chael unrhyw beth yn y byd yr hoffwn i ei gael!’ 
  9. Er hynny, mwyaf yn y byd yr oedd yn meddwl ac yn gwrando, roedd Iesu’n gwybod mai dim ond Duw sy’n bwysig. Roedd yn gwybod hefyd bod yn rhaid iddo addysgu pawb sut i garu Duw a’i wasanaethu. Felly, fe wthiodd y meddyliau drwg o’i ben a mynd o’r lle anial yn barod i weithredu.

Amser i feddwl

Roedd mam Liwsi Jên yn dal i’w charu, er ei bod wedi cymryd nifer o’r teisennau siocled! Roedd hi’n falch bod Liwsi Jên wedi dweud, ‘Sori.’

Nid yw’n hawdd bob amser dewis beth sy’n iawn i’w wneud. Allwn ni fod yn ddigon dewr i ddweud ‘Sori’ pan fyddwn ni wedi gwneud rhywbeth sydd ddim yn iawn?

Gweddi

Annwyl Dduw,
diolch i ti am ein caru ni, hyd yn oed pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth sydd ddim yn iawn.
Helpa ni i ddewis gwneud yr hyn sy’n iawn.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon