Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Haf Yn Yr Ardd

Canfod bod yr ardd yn fan y mae’n bosib adfer ein pum synnwyr ynddo.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Canfod bod yr ardd yn fan y mae’n bosib adfer ein pum synnwyr ynddo.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen y dyfyniad canlynol, o eiddo Hannah Rion, wedi’i ysgrifennu ar ddarn mawr o bapur neu wedi ei daflunio ar sgrin neu fwrdd gwyn: ‘The greatest gift of the garden is the restoration of the five senses. A’r cyfieithiad: ‘Rhodd fwyaf yr ardd yw ei bod yn gallu adfer y pum synnwyr.’
  • Hefyd trefnwch fod gennych chi eitem, fel dodrefnyn neu ddilledyn sydd wedi gweld ‘dyddiau gwell’, ac y mae tipyn o waith trwsio neu atgyweirio arno.
  • Dewisol - llwythwch i lawr recordiad o gân adar (edrychwch ar y wefan:  www.birdsong.fm ) neu unrhyw synau eraill y byddech chi’n eu cysylltu â’r ardd, a threfnwch fod modd i chi chwarae’r recordiad yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch i'r plant y peth sydd angen ychydig o waith trwsio neu atgyweirio arno, ac eglurwch beth yw ystyr 'atgyweirio'. Eglurwch pa mor hoff ydych chi o'r eitem, soniwch am y ffordd rydych chi’n ei ddefnyddio, ac yn ei werthfawrogi hyd yn oed er eich bod chi’n gwybod nad yw ar ei orau. 

  2. Gofynnwch, ‘A oes yna rannau ohonom ni sydd angen cael eu hatgyweirio neu eu hadfer heddiw?’ Soniwch sut, gobeithio, y bydd pob plentyn wedi cael ei adfer ar ôl noson dda o gwsg. Sut, gobeithio, y bydd ganddyn nhw'r egni ar gyfer diwrnod arall trwy fod wedi bwyta brecwast da ac, efallai, y bydd rhai ohonyn nhw wedi cerdded i'r ysgol, ac wedi cael ychydig o ymarfer. Mae angen i ni gyd gael ein hadfer yn rheolaidd. 

  3. Fe fydd yr egwyl dros yr haf yn gyfnod o adferiad i'r plant ynghyd â'r athrawon, gobeithio. Gall bob un ohonom adael ar awyrgylch drymllyd yr ystafell ddosbarth ein hôl, a mynd allan i fwynhau dyddiau hir o dywydd cynnes yr haf gobeithio, gydag ychydig o law ar gyfer y gerddi, efallai. 

  4. Dangoswch y dyfyniad sydd wedi ei arddangos i'r plant, ac ystyriwch ef gyda'ch gilydd. 

  5. Gofynnwch i'r plant gau eu llygaid am ychydig eiliadau a meddwl am ardd. Gall honno fod yn ardd sy’n perthyn i’w teulu eu hunain, yn barc, neu’n ardd yn perthyn i dy y maen nhw wedi ymweld af ef, neu hyd yn oed yn ganolfan arddio. 

  6. Gofynnwch i ychydig o blant i gwblhau'r frawddeg, ‘Pan wyf yn meddwl am ardd, byddaf yn meddwl am . . .’ Enwch bethau sy'n ymwneud â phob un o'r pum synnwyr yn awgrymiadau'r plant. Gellid paratoi  ymlaen llaw rai o'r staff i ychwanegu unrhyw synhwyrau nad yw'r plant wedi eu crybwyll. Er enghraifft, fe allan nhw sôn am bersawr y maen nhw'n ei hoffi neu rywbeth a glywon nhw yn yr ardd. Lle yw gardd i ni weld, clywed, arogli, blasu a chyffwrdd harddwch.

  7. Gofynnwch a oes unrhyw un wedi dod o ardd, ryw dro, yn teimlo'n flin a chas ar ôl treulio amser yno? Mae hynny’n annhebyg.

Siaradwch sut y gall gardd gael effaith dawel arnom. Mae'n rhodd, yn lle y gallwn gael ein hadfer. Awgrymwch ei bod hi'n ofynnol i bawb ohonom dreulio cyfnod mewn gardd yr haf hwn.

  1. Nodwch na ddylem synnu o gwbl am yr effeithiau positif y gall gardd ei chael arnom.  Wedi'r cyfan, mae'r Beibl yn dweud wrthym pan greodd Duw bobl ar ei lun a'i ddelw ei hun, fe'i gosododd nhw mewn gardd brydferth ac yno, bob gyda'r nos, pan oedd hi ychydig yn oerach, y byddai Duw yn dod atyn nhw i eistedd ac i siarad gyda nhw - ei gyfeillion. 

  2. Gorffennwch trwy annog y plant i ddod o hyd i ardd y gallan nhw ei mwynhau'r haf hwn. 

Amser i feddwl

Ar y pwynt hwn, gwrandewch ar eich recordiad o gân adar neu unrhyw synau eraill sydd gennych chi y byddech chi’n eu cysylltu â’r ardd, os ydych yn dewis gwneud hynny.

Gweddi

Diolch i ti, Dduw,
am lygaid i weld, clustiau i glywed, ac am ein synhwyrau sy’n ein galluogi ni i arogli, blasu a theimlo wrth gyffwrdd.
Diolch i ti am dy greadigaeth hardd.
Helpa ni i fwynhau dy greadigaeth di, yr haf hwn, 
a chael ein hadfywio a’n hadnewyddu

fel y byddwn yn union fel rwyt ti wedi bwriadu i ni fod.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon