Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Awdurdod

gan The Revd John Challis

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Deall natur awdurdod.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch nifer o hetiau, trwy eu benthyca, chwilio ymysg dilladau yn y gornel chwarae, neu brynu rhai o siop deganau.
  • Fe fydd arnoch chi angen helmed plisman, wig barnwr, coron a meitr esgob, hefyd, efallai, a rhosglwm (rosette) plaid wleidyddol. Ac, yn olaf, goron o ddrain, ond rhaid iddi beidio bod yn rhy bigog! Fe allech wneud un o bapur.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i rai o'r plant ddod ymlaen atoch chi a gwisgo'r hetiau a'r rhosglwm, beth bynnag fydd gennych chi i’w defnyddio.

  2. Dywedwch wrthyn nhw bod thema ynghlwm wrth yr eitemau a gofynnwch iddyn nhw beth maen nhw'n feddwl yw’r cysylltiad.

  3. Fwy na thebyg fe fydd yn rhaid i chi gymell yr ateb mai pobl mewn awdurdod fydd yn gwisgo hetiau fel hyn fel arfer. 

  4. Gofynnwch iddyn nhw pa fath o awdurdod sydd gan y bobl fydd yn gwisgo'r hetiau hyn. 

  5. Siaradwch â'r plant am bob un o'r hetiau a'r gwahanol gyfrifoldebau sydd gan y bobl sy'n eu gwisgo, fel a ganlyn, gan orffen gyda'r goron a'r goron ddrain. 

  6. Dywedwch rywbeth yn debyg i'r ffaith bod aelodau’r heddlu’n gorfod cymryd penderfyniadau a gweithredu gydag awdurdod pan fydd rhywun yn torri'r gyfraith, a sut y caiff deddfau eu gwneud gan y Senedd.

  7. Bydd barnwyr yn gorfod defnyddio'u hawdurdod i benderfynu a yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd ai peidio. Nid yw hyn yn beth hawdd i'w wneud, ond y mae ganddyn nhw reolau i'w dilyn. 

  8. Mae gan wleidyddion awdurdod, ond yn unig oherwydd bod pobl wedi rhoi'r grym iddyn nhw trwy eu hethol i’w cynrychioli. 

  9. Mae esgob yn gwisgo meitr i ddangos ei fod ef neu hi wedi cael awdurdod gan Dduw i weithredu yn yr Eglwys. 

  10. Mae gan y Frenhines awdurdod fel arweinydd ar y wlad, ond nid yw hi'n gallu newid deddfau. Trwy etifeddiaeth a chael ei choroni y mae hi wedi cael ei hawdurdod. Mae ganddi ddyletswydd i ddefnyddio ei bywyd a'i safle i wasanaethu, ac i wneud pethau sydd er lles y deyrnas. Mae ei choron a'i phalas yn arwyddion gweledol o'i hawdurdod, ond mae ganddi hefyd awdurdod mewnol. 

  11. Roedd gan Iesu awdurdod hefyd, ond awdurdod tra gwahanol oedd ei awdurdod ef. Fe wyddai ef pa bryd i fod yn ostyngedig. Roedd Iesu'n gwybod hefyd pryd i orchymyn pobl ddrwg i atal yr hyn yr oedden nhw'n ei wneud. Roedd Iesu’n llefaru ag awdurdod ac roedd pobl yn holi'n aml o ble roedd yr awdurdod hwnnw'n dod.

  12. Mae gennym ninnau hefyd, awdurdod, bob un ohonom. Efallai pan fydd grwp ohonoch eisiau chwarae gêm, ond ddim yn gwybod beth i'w chwarae, rhaid i rywun yn eich plith wneud penderfyniad. Pe byddech chi’n gweld rhywun yn chwarae â matsis, neu’n ymddwyn yn wirion a pheryglus, efallai y byddai'n rhaid i chi weithredu ag awdurdod.

  13. O ba le y daw'r awdurdod hwnnw? Yn wahanol i wleidyddion, sy'n derbyn eu hawdurdod gan bobl y wlad a wnaeth eu hethol, neu'r heddlu neu'r barnwyr, sy'n gweithredu er mwyn gosod rheolau, neu esgob, sydd â'i reolau wedi eu gosod gan yr Eglwys, mae awdurdod y Frenhines yn dod oddi wrth Dduw a'r Senedd. Rhoddwyd awdurdod i'r Frenhines pan fu farw ei thad a chafodd ei choroni, ond caiff ei hawdurdod moesol ei sylfaenu nid yn unig ar ei theitl ond hefyd ar ei hawdurdod mewnol, ac mae hwnnw gan bob un ohonom.

Amser i feddwl

Meddyliwch am ba awdurdod sydd gennych chi yn eich bywyd. Ai awdurdod mewnol yw hwn neu awdurdod ffurfiol fel, er enghraifft, eich bod wedi cael eich ethol i fod ar y cyngor ysgol.   

Gweddi

Annwyl Dduw,
gad i mi fod yn awdurdod da yn y meysydd rydw i’n gwybod amdanyn nhw, a gad i mi fod yn ddigon gostyngedig i ofyn am help ynghylch pethau nad ydw i’n gwybod llawer amdanyn nhw.
A gad i mi fod yn ddigon doeth i wybod y gwahaniaeth rhwng y pethau hyn.

 

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon