Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Heulwen

Annog y plant i feddwl am yr Haul, a’r effaith y mae’n ei gael ar y Ddaear, a gweld ei bod hi’n bosib iddyn nhw hefyd ddod â goleuni a chynhesrwydd i fywydau pobl eraill.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i feddwl am yr Haul, a’r effaith y mae’n ei gael ar y Ddaear, a gweld ei bod hi’n bosib iddyn nhw hefyd ddod â goleuni a chynhesrwydd i fywydau pobl eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dalen fawr o bapur a phin ffelt.
  • Chwiliwch am lun o’r Haul, neu llwythwch i lawr ddelwedd oddi ar y Rhyngrwyd (er enghraifft, gwelwch: www.nasa.gov/images/content/706436main_20121114-304-193Blend_M6-orig_full.jpg).
  • Paratowch rai cardiau, gyda ffeithiau wedi’i ysgrifennu arnyn nhw am yr Haul, a threfnwch fod gennych chi rai cardiau dros ben ar gyfer y gwasanaeth ei hun. Dyma rai ffeithiau y gallech chi eu nodi: 
    - Seren yw’r Haul mewn gwirionedd.
    - Yr Haul yw’r seren agosaf at y Ddaear - dyna pam mae’n edrych yn fawr!
    - Pelen o nwy sy’n llosgi yw’r Haul.
    - Mae’n cymryd tua wyth munud i oleuni deithio o’r Haul i’r Ddaear.
    - Yr Haul yw’r gwrthrych mwyaf yng nghysawd yr haul.
    - Mae’r Haul mor fawr, fe allai’r Ddaear ffitio i mewn iddo fwy na miliwn o weithiau!
    - Ddylech chi byth edrych ar yr Haul yn uniongyrchol.
    - Fe ddylech chi roi eli haul ar eich croen i’ch amddiffyn chi rhag pelydrau’r Haul.
    - Heb yr Haul, fyddai dim gwres na golau ar y Ddaear, ac felly fyddai dim yn gallu byw ar y blaned hon.
  • Chwiliwch am y gân, ‘You are my sunshine’ (er enghraifft, ar: https://www.youtube.com/watch?v=5TUzB2fBUpY ) - neu gân gyfatebol Gymraeg - a threfnwch fod gennych chi’r modd i’w chwarae yn ystod y gwasanaeth.
  • Efallai yr hoffech chi gysylltu’r gwasanaeth hwn gydag ymgyrch codi arian at elusen, gan bwysleisio bod y plant yn gallu dod â chynhesrwydd a goleuni i bobl sy’n byw mewn gwledydd eraill.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch am wirfoddolwr i ddod ymlaen a thynnu llun o'r Haul (dewiswch blentyn sy'n debygol o dynnu llun cylch gyda llinellau yn tasgu ohoni.) 

  2. Eglurwch, er ein bod yn aml yn tynnu llun yr Haul fel hyn, ond o ddifrif mae'n edrych yn wahanol iawn. Dangoswch y ddelwedd a nodwyd uchod yn yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’. 

  3. Gofynnwch i'r plant ddweud wrthych beth maen nhw’n ei wybod am yr Haul. Os ydyn nhw'n awgrymu'r atebion sydd ar y cardiau yr ydych wedi eu paratoi, gofynnwch iddyn nhw ddod ymlaen i ddal y wybodaeth i fyny. Os yw'r plant yn gallu meddwl am wybodaeth nad ydych chi wedi ei nodi ar gerdyn, gofynnwch iddyn nhw ddod ymlaen i'w ysgrifennu ar un o'r cardiau dros ben tra byddwch chi’n parhau â'r gwasanaeth.

  4. Unwaith y bydd y plant wedi gwneud eu hawgrymiadau, ewch drwy unrhyw un o'r ffeithiau ar y cardiau nad ydyn nhw wedi eu crybwyll, gallwch ofyn i'r plant ddod ymlaen i ddal y cardiau i fyny.

  5. Pwysleisiwch y pwynt olaf sydd wedi ei restru uchod - sef pe na byddai Haul, ni fyddai'r planhigion yn tyfu . . .  felly, ni fyddai gan yr anifeiliaid unrhyw beth i'w fwyta . . . felly, ni fyddai gennym ddim i'w fwyta oherwydd rydym yn bwyta cig a phlanhigion. Pwysleisiwch, hefyd, ein bod i gyd angen cadw'n gynnes, neu ni fyddem yn gallu aros yn fyw. Heb yr Haul, fe fyddai'r Ddaear yn oer iawn, yn wir.

  6. Chwaraewch y gân, ‘You are my sunshine’  neu gân arall sy’n sôn am yr heulwen, neu darllenwch y geiriau: 

    You are my sunshine, my only sunshine,
    You make me happy when skies are grey,
    You’ll never know dear how much I love you,
    Please don’t take my sunshine away!
     

  7. Gofynnwch i'r plant i feddwl am reswm pam y bydd unigolyn weithiau yn cael ei alw'n 'heulwen' neu’n ‘sunshine’. Ydych chi wedi clywed rhywun yn dweud ‘Haia sunshine!’ wrthych chi? Ac mae Heulwen yn enw tlws ar ferch. Gofynnwch iddyn nhw a ydyn nhw wedi bod allan yn yr awyr agored ryw dro pan wnaeth yr Haul ymddangos yn sydyn o du ôl i gwmwl. Sut oedden nhw'n teimlo? Eglurwch ein bod fel pobl, yn debyg i'r Haul, yn gallu dod â goleuni a chynhesrwydd i bobl eraill o'n cwmpas. Trwy ddangos i bobl ein bod yn gofalu, trwy eu trin yn barchus, gwrando arnyn nhw, a'u hannog, fe allwn ni wneud i bobl deimlo'n hapus iawn. 

  8. Weithiau, gall pobl deimlo'n drist, fel pe bai rhyw gwmwl tywyll yn cuddio'r heulwen rhag tywynnu yn eu bywydau. Trwy ein gweithredoedd ni, fe allwn ni symud y 'cwmwl' hwn, a dod â goleuni (hapusrwydd) iddyn nhw. Os ydych chi’n cysylltu'r gwasanaeth gyda chodi arian at elusen, soniwch ar y pwynt hwn  am y gwaith a wna'r elusen.

  9. Atgoffwch y plant y gall hyd yn oed gwên ddod â heulwen (hapusrwydd) i rywun arall!

Amser i feddwl

Gofynnwch i'r plant feddwl am y bobl sydd yn eistedd o'u cwmpas. Sut fyddai modd iddyn nhw eu gwneud nhw'n hapus? Gofynnwch iddyn nhw

feddwl am y bobl sy'n rhan o'u teuluoedd – sut fydden nhw'n gallu bod fel heulwen iddyn nhw? Gofynnwch iddyn nhw wedyn feddwl am y bobl sydd yn yr ysgol – beth fydden nhw'n gallu ei wneud i ddod â chynhesrwydd a goleuni iddyn nhw heddiw?

Gweddi

Annwyl Dduw,
diolch ein bod ni i gyd yn gallu gwneud gwahaniaeth ym mywyd y bobl rydyn ni’n eu cyfarfod o ddydd i ddydd.
Diolch ein bod ni’n gallu gwneud gwahaniaeth ym mywyd pobl sy’n byw ymhell i ffwrdd mewn gwledydd eraill, trwy ein caredigrwydd a’n haelioni.
Helpa ni i fod yn bobl sydd bob amser yn meddwl am bobl eraill, a helpa ni i ddod â goleuni a chynhesrwydd i fywyd pobl eraill.

Cân/cerddoriaeth

Efallai yr hoffech chi chwarae’r gân  ‘You are my sunshine’ eto wrth i’r plant fynd allan o’r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon