Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Helo

Cyflwyno’r plant newydd i’w gilydd a’u helpu i ddeall sut rydyn ni’n gysylltiedig â’r naill a’r llall.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Cyflwyno’r plant newydd i’w gilydd a’u helpu i ddeall sut rydyn ni’n gysylltiedig â’r naill a’r llall.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pellen o edafedd tew, lliwgar.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant eistedd mewn cylch. Eglurwch fod hwn yn ddiwrnod arbennig. Rydych chi wedi bod yn edrych ymlaen trwy’r gwyliau at gyfarfod y plant newydd yn y dosbarth. Roeddech chi wedi cael rhestr o’u henwau cyn gwyliau’r haf ac roeddech chi wedi bod yn meddwl tybed sut blant oedden nhw. Nawr rydych chi wedi cyfarfod pawb, ac mae’n bryd iddyn nhw erbyn hyn ddod i adnabod pawb arall yn y dosbarth, a dod yn ffrindiau da â phawb, gobeithio.

  2. Dangoswch y bellen edafedd i’r plant. Eglurwch eu bod yn mynd i rowlio’r bellen fawr hon o edafedd o’r naill i’r llall. Pan fydd pob plentyn, yn ei dro, yn dal y bellen yn ei law neu yn ei llaw fe fydd angen i’r plentyn hwnnw ddeud ei enw neu ei henw. Ac yna, fe fydd y dosbarth cyfan yn dweud,  ‘Helo, croeso i ti (enw).’

    Rowliwch y bellen edafedd ar draws y cylch i un o’r plant. Bydd y plentyn yn gafael yn y bellen ac yn dweud ei enw’n uchel. Bydd y plant eraill yn dweud, ‘Helo,croeso i ti (enw).’ Wedyn, gofynnwch i’r plentyn ddal gafael yn dynn ar flaen yr edafedd a rowlio’r bellen ar draws y cylch eto i blentyn arall. Bydd hyn yn cael ei ailadrodd wedyn dro ar ôl tro nes bydd pawb yn y cylch wedi cael dal y bellen a dweud ei enw.

  3. Ar ôl i’r holl gyflwyno a chroesawu ddod i ben, gofynnwch i’r plant godi ar eu traed, gyda phob un yn parhau i ddal gafael ar yr edafedd yn y  we y maen nhw wedi ei chreu.

    Nodwch ein bod i gyd yn gysylltiedig â’n gilydd.

    Holwch y plant faint o’r enwau y maen nhw’n eu cofio. Ewch oddi amgylch y cylch gan atgoffa’r plant eto beth yw enw pob un. Cysurwch bawb ei fod yn beth hawdd iawn anghofio enwau pobl ar y dechrau, ond mae’n debyg y bydd pawb erbyn diwedd yr wythnos wedi dysgu beth yw enwau’r lleill i gyd.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant edrych ar y we maen nhw wedi ei chreu. Fe allech chi ddweud, ‘Sam wedi ei gysylltu â Sara, a Sara wedi ei chysylltu ag Ahmed  ac mae Ahmed wedi ei gysylltu â Beca . . .’ ac yn ein blaen.

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ein creu ni, ac rwyt ti’n gwybod ein henwau am ein bod i gyd yn bwysig i ti.
Diolch i ti am gael dod i’r dosbarth newydd hwn.
Helpa ni i ddod i adnabod y naill a’r llall, ac i ddod yn ffrindiau â’n gilydd.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon