Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ganesh Chaturthi - Gwyl pen-blwydd y duw pen-eliffant

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried sut i oresgyn anawsterau trwy gyfeirio at y duw Hindwaidd, Ganesha.

Paratoad a Deunyddiau

  • Byddwch yn ymwybodol y gall gwybodaeth y plant amrywio o ran pa mor dda maen nhw’n gwybod y stori, a pha fersiwn o’r stori maen nhw’n gyfarwydd â hi. Mae fersiynau o stori Ganesha’n amrywio mewn gwahanol rannau o India ac ymysg cymunedau Hindwaidd ledled y byd.

  • Mae’r wyl yn para am tua saith i ddeg diwrnod, ac mae’n cael ei chynnal rhwng canol mis Awst a chanol mis Medi, gyda’r union ddiwrnod yn dibynnu ar galendr y lleuad.

  • Chwiliwch am ddelwedd neu gerflun o’r duw pen-eliffant, Ganesha, delweddau o eliffantod yn gweithio (dewisol), sleidiau PowerPoint i ddangos dywediadau allweddol, fel  – ‘arhoswch i feddwl’, ‘peidiwch â rhuthro’, ‘cymrwch un cam ar y tro’, ‘peidiwch â mynd i banig’, ‘daliwch ati’, ‘gofynnwch am help’, er enghraifft – wedi eu gosod oddi amgylch delwedd addas (dewisol).

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ddelwedd neu’r cerflun o Ganesha.

    Cyflwynwch y ddelwedd neu’r cerflun o’r duw Ganesha. Fe fydd y plant sy’n dilyn y ffydd Hindwaidd, ac yn dathlu ei ben-blwydd yn ystod Gwyl Ganesh Chaturthi, yn gyfarwydd â’r ddelwedd neu’r cerflun.

  2. Dywedwch fod hanes Ganesha, a’r rheswm pam ei fod yn edrych fel hanner eliffant, yn cael ei egluro mewn stori gysegredig y mae sawl fersiwn ohoni.

    Un o’r rhai mwyaf cyfarwydd yw’r stori sy’n adrodd yr hanes fel y gwnaeth y duw Shiva, mewn ffit o dymer wyllt, dorri pen y plentyn Ganesha. Ychydig a wyddai Shiva mai plentyn wedi ei greu gan ei wraig Parvati oedd Ganesha. Aeth Shiva i’r goedwig i chwilio am ben newydd i’w fab. Eliffant oedd yr anifail cyntaf a welodd, ac fe ddefnyddiodd ben yr eliffant i gael Ganesha’n ôl yn fyw. Roedd Parvati wrth ei bodd. ‘Nawr, fe fydd Ganesha yn gryf ac yn ddoeth,’ meddai.

  3. Dangoswch y delweddau o’r eliffantod yn gweithio os ydych chi’n dymuno’u defnyddio.

    Cyfeiriwch at sut mae cryfder yr eliffantod yn cael ei ddefnyddio mewn rhai rhannau o Asia i gyflawni tasgau anodd a gwaith trwm iawn fel symud boncyffion coed enfawr o blanhigfeydd trwchus. Am fod eliffantod yn byw’n hen hefyd, dyna pam y mae’r bobl yn tybio eu bod yn greaduriaid doeth. Fe fyddan nhw’n symud yn araf a phwyllog. Mae dywediad enwog am eliffantod yn nodi na fyddan nhw byth yn anghofio - ‘elephants never forget’.

  4. Ewch ymlaen trwy ddweud bod Hindwiaid yn credu bod Ganesha yn dduw arbennig iawn. Ef yw duw dechreuadau, ac mae Hindwiaid yn credu ei fod yn gallu symud rhwystrau. (Mae’n bosib darlunio’r term ‘rhwystr’ trwy gyfeirio at ras rwystrau  - mae rhwystr yn beth sydd ar y ffordd, her neu anhawster, sy’n eich atal rhag mynd ymlaen neu rywbeth sy’n atal cynnydd. Fe fydd Hindwiaid yn offrymu gweddïau i Ganesha pan fyddan nhw’n cychwyn ar daith neu’n gwneud dechreuadau newydd eraill. 

  5. Canolbwyntiwch ar y rhwystrau y gallai rhai yng nghymuned yr ysgol ddod ar eu traws ar ddechrau tymor newydd, neu yn y dysgu o ddydd i ddydd. Myfyriwch ar y ffaith y gall pob un ohonom gael ein hatal o dro i dro, ac nad yw dechreuadau newydd yn hawdd bob amser. Gwahoddwch gymuned yr ysgol i ystyried ffyrdd y mae’n bosib symud rhwystrau a’u goresgyn.

  6. Dangoswch y sleidiau PowerPoint o’r delweddau a’r geiriau neu’r ymadroddion allweddol rydych chi wedi eu casglu, os ydych chi’n dymuno eu defnyddio.

    Ceisiwch gadarnhau pa mor effeithiol yw meddwl yn gadarnhaol gyda dull o’r fath. Byddwch yn cydnabod bod y rhwystrau, er nad yw’n bosib eu symud bob tro, yn aml ddim mor fawr ac amhosibl delio â nhw ag rydyn ni’n dychmygu.

  7. Os nad ydych chi’n defnyddio sleidiau PowerPoint, diweddwch y gwasanaeth gyda’r stori ganlynol, sy’n cael ei hadrodd fel rhybudd pe byddai unrhyw un yn cael ei demtio i chwerthin am ben anawsterau pobl eraill.

    Roedd Ganesha yn enwog am fod yn un da am fwyta. Roedd ganddo archwaeth enfawr. Un waith, roedd wedi bwyta cymaint mewn gwledd fel na allai sefyll ar ei draed! Wrth iddo ymdrechu i godi, fe ddechreuodd y lleuad chwerthin. Roedd Ganesha mor ddig fe ddechreuodd felltithio’r lleuad a phawb oedd yn edrych ar y lleuad. O ganlyniad, mewn rhai llefydd, mae rhai pobl yn credu ei fod yn beth anlwcus edrych ar y lleuad ar wyl Ganesha Chaturthi, adeg pen-blwydd y duw pen-eliffant.

Amser i feddwl

Myfyriwch ar y ffaith ei fod yn beth cas ac annoeth iawn chwerthin am ben unrhyw un sy’n ymdrechu gydag anhawster. Fel Ganesha, fe ddylem ni helpu ein gilydd i oresgyn anawsterau. Gwahoddwch y plant i feddwl yn dawel neu i weddïo. Cyflwynwch y syniad canlynol :

Mae taith bell wedi ei gwneud o lawer o gamau bach . . . a’r cam cyntaf tuag at oresgyn unrhyw anhawster yw credu y byddwn ni’n gallu gwneud hynny!

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon