Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ffoaduriaid Trefol 5 : Pethau arbennig

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r myfyrwyr am y pethau sy’n cyfrif o ddifri mewn bywyd, trwy edrych ar rai enghreifftiau o eitemau sy’n eiddo i ffoaduriaid - eitemau sy’n drysorau gwerthfawr yn eu golwg.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Arweinydd  Yn y gwasanaeth hwn, rydyn ni’n mynd i feddwl am beth yw’r pethau sy’n arbennig yn ein golwg ni. Felly, gadewch i mi ddechrau trwy ofyn rhai cwestiynau.(Gwahoddwch atebion gan y plant.)

    Pa un yw eich hoff lyfr?
    Pa un yw eich hoff degan?
    Beth yw’r peth mwyaf arbennig yn y byd, yn eich golwg chi?

  2. Arweinydd   Dychmygwch pe byddai eich mam yn dweud wrthych chi bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd, a’ch bod yn gorfod gadael eich cartref ar unwaith. Dychmygwch pe byddai daeargryn neu lifogydd mawr yn mynd i ddinistrio’ch cartref a bod rhaid i chi adael y foment honno a rhedeg am eich bywyd. Dychmygwch sefyllfa a chithau gyda dim ond amser i afael mewn un peth arbennig i fynd â hwnnw gyda chi.

    Dychmygwch pe byddai eich tad yn dweud wrthych chi bod milwyr yn dod i’ch ty i’w arestio, ac na fyddai neb o’r teulu’n saff. Dychmygwch pe byddai’n dweud wrthych chi bod rhaid i chi i gyd ddianc ar unwaith ac nad oedd amser i bacio ces na bag hyd yn oed. Roedd eich bywyd mewn perygl ac roedd rhaid i chi fynd ar unwaith. Dychmygwch mai dim ond amser oedd gennych chi i afael mewn un peth arbennig i fynd â hwnnw gyda chi.

    Tybed beth fyddai’r un peth arbennig hwnnw. Gadewch i ni weld beth fyddai’r pedwar unigolyn sydd gennym yma’n ei ddewis.

    Darllenydd 1  Mae gen i lyfr arbennig y mae fy mam wedi ei lenwi â phob math o bethau amdanaf fi. Mae fy nhystysgrif geni yn y llyfr hefyd a phob math o wybodaeth amdanaf pan oeddwn i’n fabi. Hwnnw yw’r peth mwyaf arbennig sydd gen i. Fe fyddwn i’n mynd â hwnnw efo fi.

    Darllenydd 2  Pan oeddwn i ar wyliau yn Florida llynedd, fe gefais i gyfle i nofio gyda’r dolffiniaid yno, a chefais fodel o ddolffin i fy atgoffa am y digwyddiad. Dyna’r profiad gorau gefais i erioed yn fy mywyd hyd yn hyn. Y dolffin bach hwnnw yw’r peth mwyaf arbennig sydd gen i.

    Darllenydd 3
      Fe fyddwn i’n dewis mynd â ffotograffau o bawb sy’n fy nheulu. Pe byddwn i’n cael fy ngwahanu oddi wrthyn nhw, fe fyddai gen i hiraeth mawr ar eu hôl. Fy ffotograffau fyddai’r unig bethau fyddai ar ôl gen i wedyn.

    Darllenydd 4  Y Nadolig diwethaf, fe brynodd fy mam a nhad gitâr arbennig i mi, un dda iawn. Fe fyddwn i’n mynd â honno efo fi. Fe hoffwn i chwarae mewn band ryw ddiwrnod, ac fe fydda i angen y gitâr honno.

  3. Arweinydd   Yn ffodus, yn achos y rhan fwyaf ohonom, fyddwn ni byth yn gorfod wynebu’r math hwnnw o benderfyniad, go iawn. Ond yn achos llawer o bobl ledled y byd, mae sefyllfa fel hon yn sefyllfa real. Mae ffoaduriaid wedi gorfod rhedeg i ffwrdd o’u cartrefi am eu bod yn gwybod bod eu bywyd mewn perygl.

    Maen nhw wedi gorfod gadael popeth o’u heiddo ar eu hôl, a dim ond wedi gallu mynd ag un neu ddau o bethau - y pethau mwyaf gwerthfawr - o’i heiddo gyda nhw.

    Gadewch i ni nawr edrych ar rai o ffotograffau Andrew McConnell o ffoaduriaid trefol. Dyma bobl sydd wedi gorfod gwneud yr union beth rydyn ni wedi bod y sôn amdano. Bob tro yr oedd Andrew McConnell yn cwrdd â ffoadur, ac yn tynnu ei lun, roedd hefyd yn dysgu rhywbeth am ei hanes, ac fe fyddai’n gofyn iddyn nhw a fyddai’n bosib iddo dynnu llun y peth mwyaf gwerthfawr oedd gan bob un. Tybed beth mae’r ffotograffau hynny’n mynd i’w ddadlennu i ni.

    Dangoswch y ddelwedd sydd yn y cyswllt cyntaf ar y rhestr uchod, o Dejana, a chlicio wedyn i’r ail sleid sy’n dangos ffotograff o’i phasbort.

    Yn achos llawer o’r ffoaduriaid, sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi a’u gwlad i chwilio am loches mewn gwlad ddieithr, eu papurau yw eu heiddo mwyaf gwerthfawr. Rhaid iddyn nhw gael y papurau hyn i brofi pwy ydyn nhw. Yn achos Dejana Mekanic, o Bosnia, mae hyn yn wir, ac fe ddewisodd hi ei phasbort, a welwn yma yn y llun. Dyma mae hi’n ei ddweud am ei phasport, ‘Hwn yw fy rhyddid. O’r blaen doeddwn i ddim yn gallu teithio, doeddwn i ddim yn gallu mynd i unrhyw le.’

    Dangoswch y ddelwedd sydd yn yr ail gyswllt uchod, o Nayf, a chlicio wedyn i’r ail sleid sy’n dangos ffotograff o daniwr sigaréts mewn cas gleiniog.

    Yn achos rhai eraill o’r ffoaduriaid, efallai mai’r peth mwyaf gwerthfawr sydd ganddyn nhw yw eitem o’u gwlad enedigol, fel y taniwr sigaréts mewn cas gleiniog hwn o Syria. Dyma’r unig beth y gallodd Nayf ddod gydag ef wrth iddo ddianc i Wlad Iorddonen. Dyma’r unig beth sydd ganddo sy’n ei atgoffa o’i gartref.

    Dangoswch y ddelwedd sydd yn y trydydd cyswllt ar y rhestr, o Amina, a chlicio ymlaen wedyn i’r drydedd sleid sy’n dangos llun o ffotograff ohoni ar ddydd ei phriodas.

    Yn achos rhai, ffotograff yw’r peth sydd ganddyn nhw y maen nhw’n ei drysori fwyaf. Ambell dro, dyna’r unig beth sydd ganddyn nhw i’w hatgoffa am adegau hapus ac am eu teulu a’u ffrindiau y maen nhw wedi eu gadael ar ôl. Mae Amina Abdi Hassan yn ffoadur o Somalia, sydd yn awr yn byw yn Kenya, ac mae ganddi hi ffotograff, a dynnwyd yn union ar ôl iddi briodi. Fe ddywedodd hi,  ‘Dyna ddyddiau da  . . .  Rydw i’n cofio bod mor hapus bryd hynny.’

    Dangoswch y ddelwedd sydd yn y pedwerydd cyswllt ar y rhestr, o Ronel, a chlicio wedyn i’r ail sleid sy’n dangos ffotograff o beiriant gwnïo.

    Yn olaf, i rai o’r ffoaduriaid trefol hyn, eu heiddo mwyaf gwerthfawr yw’r eitem a fydd yn eu galluogi i wella eu bywyd. Yn achos Ronel Metelus, o Haiti, y peth mwyaf gwerthfawr sydd ganddo yw ei beiriant gwnïo. Roedd wedi ei brynu cyn y daeargryn, fesul darn, yn ôl fel roedd yn gallu fforddio’r arian i brynu’r darnau, ac fe adeiladodd y peiriant gwnïo ei hun. Fe lwyddodd i achub y peiriant o’r hyn oedd yn weddill o’i gartref ar ôl y daeargryn. Erbyn hyn mae’n credu mai dyma’r unig beth all ei helpu ef a’i deulu i ddod allan o’r gwersyll ffoaduriaid y maen nhw’n byw ynddo nawr.

Amser i feddwl

Arweinydd :Mae’r rhain yn enghreifftiau real o fywyd pobl real. Wnaethoch chi sylwi rhywbeth wrth edrych ar y lluniau yna? Fe wnes i. Roedd y pethau arbennig y soniodd y plant amdanyn nhw ar y dechrau yn debyg iawn i’r eitemau yr oedd y ffoaduriaid hyn yn eu trysori. Y gwirionedd yw bod pobl ledled y byd yn gwerthfawrogi’r un math o bethau. Gadewch i ni ystyried y pethau hyn wrth i ni ddod â’r gwasanaeth hwn i ben.

Darllenydd 1: Mae gwybod pwy ydyn ni’n bwysig iawn.

Darllenydd 2: Mae cofio o ble rydyn ni wedi dod yn bwysig iawn.

Darllenydd 3: Mae gwerthfawrogi ein teulu a’n ffrindiau’n bwysig iawn.

Darllenydd 4
: Mae gweithio’n galed a gwneud ein gorau’n bwysig iawn.

Arweinydd: Gadewch i ni ddiweddu ein hamser gyda’n gilydd trwy wrando ar weddi fer. Fe allech chi wneud geiriau’r weddi hon yn eiriau i chi eich hunan os hoffech chi.

Gweddi

Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n cofio am y ffoaduriaid sydd wedi gorfod gadael bron popeth maen nhw’n ei drysori ar ôl, ac wedi gorfod ffoi i wlad arall. Helpa ni i fod yn ddiolchgar am bob peth sydd gennym ni – ein cartrefi, ein teulu a’n ffrindiau, am ein hysgol ac am ein holl bethau arbennig ni.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon