Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Efeilliaid! Anifeiliaid mewn perygl

Myfyrio ynghylch gwarchod anifeiliaid sydd mewn perygl gan gyfeirio at stori Noa.

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ynghylch gwarchod anifeiliaid sydd mewn perygl gan gyfeirio at stori Noa.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen delwedd o’r panda (gwiriwch yr hawlfraint) a’r modd o ddangos y ddelwedd yn y gwasanaeth. Yn ddelfrydol dangoswch lun Haizi, y panda a roddodd enedigaeth yn Tsieina i’r pâr cyntaf yn y byd o efeilliaid i gael eu geni eleni, yn ôl gweithwyr cadwraeth. Rhoddodd Haizi enedigaeth i’r efeilliaid yn y ganolfan gadwraeth ac ymchwil yn Wolong (gwelwch y clip fideo ar: www.bbc.co.uk/newsround/21840556).

  • Casglwch ynghyd rai delweddau o rywogaethau sydd mewn perygl, i’w dangos hefyd. Gallwch ddod o hyd i rai ar wefan y World Wildlife Fund, ar: www.wwf.org.uk, yn y ffeiliau ffeithiau yn adran y plant. Casglwch beth gwybodaeth oddi ar y wefan am y camau sy’n cael eu cymryd i helpu a gwarchod yr anifeiliaid hyn.

  • Paratowch gopi o stori Noa (gwelwch isod) i’w darllen a’i thrafod.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ddelwedd o Haizi neu banda arall.

    Cyfeiriwch at enedigaeth y panda-efeilliaid yn Tsieina. Eglurwch fod pandas yn byw mewn coedwigoedd bambw yn uchel ar lethrau mynyddoedd gorllewin Tsieina. Disgrifiwch sut beth yw’r planhigyn bambw, a dywedwch wrth y plant fod pandas yn bwyta llawer iawn o’r planhigion bambw bob dydd. Maen nhw’n anifeiliaid hardd iawn, ond prin iawn. Credir mai dim ond tua 1600 sydd ar ôl yn y gwyllt trwy’r byd i gyd. Mae llawer o’r coedwigoedd lle maen nhw’n byw wedi cael eu difrodi a’u dinistrio, felly mae ‘mannau diogel’ neu warchodfeydd wedi cael eu creu i’w hamddiffyn. Ac mae ymdrech fawr wedi ei gwneud i ailblannu’r planhigion bambw y maen nhw’n eu bwyta yn y gwyllt.

  2. Dangoswch y delweddau rydych chi wedi eu casglu o’r rhywogaethau eraill sydd mewn perygl.

    Eglurwch mai’r panda yw arwyddlun y World Wildlife Fund (WWF). Sefydliad yw’r WWF sy’n gweithio i helpu anifeiliaid sydd mewn perygl. Mae rhai o’r anifeiliaid dan fygythiad oherwydd bod pobl yn eu hela. Mae rhai eraill yn brwydro i oroesi oherwydd bod eu cartrefi (neu eu cynefinoedd) yn cael, neu wedi cael, eu dinistrio.

  3. Daliwch ati i ddangos delweddau o anifeiliaid sydd mewn perygl ac edrychwch a yw’r plant yn gallu nodi pa anifeiliaid ydyn nhw. Soniwch am y gwaith sy’n cael ei wneud i geisio’u diogelu.

  4. Neu,cyflwynwch stori Noa. Soniwch fod y stori’n pwysleisio’r angen i barchu Duw a phob creadur ar y Ddaear.

    Yna, dywedwch wrth y plant yr hoffech chi iddyn nhw, wrth i chi ddarllen stori Noa o’r Beibl, gymryd rhan a nodi’r gwahanol greaduriaid yn ôl y disgrifiadau rydych chi’n mynd i’w rhoi iddyn nhw. Er enghraifft, mae’r brawddegau: ‘Mae fy nghot yn wyn a du. Rydw i wrth fy modd yn bwyta egin bambw. Rydw i’n byw yn Tsieina’, yn disgrifio’r panda.

    Arch Noa

    Roedd Noa’n teimlo’n drist. Roedd yn drist oherwydd bod y Ddaear wedi ei difetha. Roedd y bobl yn ffraeo ac yn ymladd â’i gilydd. Roedd y coedwigoedd hardd wedi cael eu llosgi ac roedd ofn ar yr anifeiliaid. Doedd dim heddwch yn y byd iddyn nhw.

    Roedd Noa’n ddyn da, ac roedd yn credu bod Duw’n teimlo’n drist hefyd oherwydd hyn.

    ‘Beth allwn ni ei wneud?’ gweddïodd Noa.  ‘Rhaid i ni ddechrau eto,’ meddai Duw. ‘Noa, rydw i eisiau i ti adeiladu cwch mawr i ti dy hun. Adeilada un digon mawr i ti a dy deulu. Gofala dy fod yn ei adeiladu’n dda, oherwydd fe fydda i’n gwneud iddi fwrw glaw. Fe fydd y byd i gyd yn cael ei orchuddio gan ddwr, felly paid ag anghofio’r anifeiliaid a’r adar. Gwna le yn dy gwch iddyn nhw hefyd, dau o bob math.’

    Gyda help aelodau ei deulu, fe adeiladodd Noa arch fawr. O'r diwedd, fe wnaethon nhw lwyddo i wneud yr arch yn gartref iddyn nhw’u hunain. ‘Rhaid i ni beidio ag anghofio am yr anifeiliaid a’r adar,’ meddai Noa. A chyda’i deulu fe wnaethon nhw feddwl am yr holl greaduriaid yr oedd angen iddyn nhw’u cael i mewn i’r arch atyn nhw.

    Pe byddai Noa’n byw heddiw, fe fyddai’n siwr o fod eisiau gwarchod anifeiliaid fel  . . .

    arhoswch am foment a, chan ddefnyddio’r wybodaeth rydych chi wedi ei chasglu oddi ar wefan y WWF a nodwyd uchod, disgrifiwch y teigr, yr arth wen, rhinoseros, gorila  . . .  Gwahoddwch y plant i ddisgrifio anifeiliaid eraill sydd mewn perygl.

    O'r diwedd, fe aeth dau o bob gwahanol fath o greaduriaid i mewn i Arch Noa. Roedden nhw’n gwybod y bydden nhw’n cael y lloches a’r amddiffyniad yr oedd arnyn nhw’i angen yn Arch Noa.

  5. Myfyriwch ar y ffaith bod llawer iawn o wahanol fathau, neu wahanol rywogaethau o greaduriaid. Mae pob un yn arbennig. Does dim posib eu cael yn ôl unwaith maen nhw wedi diflannu o’r byd. Eglurwch mai dyna pam mae’n bwysig i bobl ofalu am greaduriaid y Ddaear, fel y gwnaeth Noa.

    Cyfeiriwch yn ôl at enedigaeth yr efeilliaid i’r panda. Dywedwch fod y stori hon yn newyddion da. Ac os ydych chi wedi adrodd stori Arch Noa, dywedwch fod y stori honno hefyd yn ein hatgoffa bod angen i ni ofalu am anifeiliaid, yn enwedig y rhai hynny sydd mewn perygl.

Amser i feddwl

Gweddi

Dduw’r Creawdwr,
Diolch i ti am yr holl anifeiliaid ac adar rhyfeddol sy’n byw gyda ni ar y Ddaear.
Helpa ni i’w gwarchod rhag unrhyw niwed, a helpa ni i ofalu am bob creadur.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon