Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gweithio Gyd'an Gilydd

Cynhaeaf

gan Alison Ball and Richard Seel

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Defnyddio’r cynhaeaf i bwysleisio pa mor bwysig yw cydweithio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ddelweddau’n ymwneud â’r cynhaeaf a’r gwaith o gasglu’r cnydau - hen luniau, gyda’r amaethwyr yn defnyddio pladuriau ac ati, a lluniau o’r oes fodern, gyda’r amaethwyr yn defnyddio tractorau a dyrnwr medi (combine harvesters) ac ati. Gan ddefnyddio PowerPoint, paratowch y lluniau fel sleidiau i’w defnyddio yn y gwasanaeth.
  • Llwythwch i lawr, a pharatowch y clipiau fideo canlynol o sianel Richard Seel (os oes gennych chi drwydded hawliau perfformio, yna ddylech chi ddim cael trafferthion ynghylch yr hawlfraint):
    http://tinyurl.com/9pmystj
    http://tinyurl.com/8cx9u28
    http://tinyurl.com/9klg8m5
  • Am rai awgrymiadau ynghylch defnyddio clipiau fideo mewn cyflwyniadau PowerPoint, gwelwch: http://tinyurl.com/8wkek6y
  • Gofalwch bod gennych chi le digon mawr, naill ai yn nhu blaen y neuadd neu gofalwch bod llwybr llydan yn cael ei adael yng nghanol eich cynulleidfa, llwybr sy’n ddigon llydan i bedwar o blant gerdded ochr yn ochr ar ei hyd.
  • Fe fydd arnoch chi angen chwech neu wyth o blant i berfformio symudiadau’n ymwneud â dulliau hen a newydd o gasglu’r cynhaeaf.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y sleidiau PowerPoint rydych chi wedi eu paratoi o luniau pobl yn casglu’r cynhaeaf.

    Pwy sy’n gallu dweud beth sy’n digwydd yma? Ie, pobl yn casglu’r cynhaeaf!

  2. Edrychwch ar y lluniau hyn o bobl yn casglu’r cynhaeaf yn yr hen ddyddiau.

    Dangoswch y sleidiau o amaethwyr yn defnyddio pladuriau ac ati.

    Mae’r fideo hwn yn dangos sut roedden nhw’n gwneud y gwaith ers talwm.

    Dangoswch y clip fideo sy’n gyntaf ar y rhestr yn yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’. Siaradwch am y ffordd draddodiadol o dorri’r yd a chasglu’r cnwd, gan ddefnyddio pladuriau a chribiniau, gan sôn am rôl y dynion yn torri’r yd gyda’r bladur a’r merched yn eu dilyn wedyn yn casglu’r yd, ac yn clymu’r ysgubau a’u gosod yn daclus yn erbyn ei gilydd wedyn.

    Gofynnwch i dri neu bedwar o blant ddod ymlaen i feimio eu bod yn ‘pladurio’. A chael tri neu bedwar o blant eraill i’w dilyn i gasglu’r yd, clymu’r ysgubau a’u gosod yn daclus gyda’i gilydd yn sypiau trefnus. Chwaraewch yr ail fideo ar y rhestr, sy’n drac sain o rai’n pladurio, i helpu’r plant gadw rhythm wrth feimio.


    Nodwch pa mor anodd yw hi i gadw mewn llinellau syth, fel bod y cnwd i gyd yn cael ei gasglu o’r cae cyfan yn drefnus.

  3. A yw ffermwyr y wlad hon yn dal i weithio fel hyn?

    Na. Erbyn hyn, mae un, dau neu dri o bobl yn gallu gwneud y cyfan o’r gwaith gyda pheiriannau mawr, o’i gymharu â’r holl bobl oedd eu hangen i helpu gyda’r gwaith ers talwm, ac roedd gan bawb ei rôl neilltuol fel y gwelsom ni.

    Dangoswch y trydydd fideo, o’r dyrnwr medi (combine harvester).

  4. Beth am i ni adeiladu dyrnwr medi dynol?

    Dyma rai o brif rannau’r dyrnwr medi:

    - rîl droi i fwydo’r cnwd i’r peiriant
    - llafn mawr i dorri coesynnau’r gwenith neu’r haidd
    - drwm dyrnu y tu mewn, i wahanu’r grawn oddi wrth y coesynnau a’r tywysennau
    - y fraich i arllwys y grawn i lori sy’n cael ei gyrru ochr yn ochr â’r dyrnwr medi
    - goruchwylwyr y gwellt i wthio’r gwellt allan o’r cefn
    - y gyrrwr.

    Gwahoddwch rai o’r plant i ddod ymlaen i ffurfio’r dyrnwr medi fel a ganlyn:

    - dau blentyn ar eu pengliniau, yn wynebu ymlaen ar y tu blaen ac yn troi eu breichiau i gynrychioli’r rîl droi
    - dau blentyn arall, hefyd ar eu pengliniau, un bob ochr i’r rîl droi
    i fod yn llafnau torri - fe fyddan nhw’n swingio un fraich bob un, yr un sydd ar ochr allan y ‘peiriant’ (un ar y chwith ac un ar y dde), swingio i mewn ac allan i gynrychioli’r llafnau’n torri’r yd
    - dau blentyn y tu ôl iddyn nhw’n sefyll yn wysg ei hochrau, ac yn troi eu breichiau i gynrychioli’r drwm dyrnu
    - un plentyn tal, yn sefyll yn wysg ei ochr, gydag un fraich wedi ei chodi i gynrychioli’r hopran grawn
    - dau yn y tu ôl ar eu pengliniau yn wynebu’n groes i bawb arall, yn taflu eu breichiau allan ac yn ôl wrth iddyn nhw daflu’r gwellt allan o gefn y dyrnwr medi - fe fydd yn rhaid iddyn nhw symud wysg eu cefn a chadw gyda’r gweddill pan fydd y ‘peiriant’ yn symud.
    - yn olaf, gyrrwr sy’n sefyll yn y canol, y tu ôl i’r plant sy’n cynrychioli’r rîl troi a’r drwm dyrnu, ac yn nesaf at y plentyn sy’n cynrychioli’r fraich grawn.

    Rhannwch weddill plant y gynulleidfa’n ddau grwp. Gofynnwch i’r dyrnwr medi symud ymlaen, ac wrth iddo wneud hynny, gofynnwch i un grwp wneud swn tawel peiriant yn troi - ‘chugga-chugga’, a’r grwp arall i wneud swn tawel ‘swish-swish’ trin y cnwd.

    Arweiniwch y dyrnwr medi i deithio ar hyd y llwybr llydan trwy’r gynulleidfa, a throi yn ôl wedi iddo gyrraedd y pen draw (gan bwyll!) a dod yn ei ôl i’r tu blaen wedyn. Wedi hynny gall pawb fynd yn ôl i’w lle. Os bydd y dyrnwr medi’n dod oddi wrth ei gilydd wrth iddo symud, arhoswch a rhoi cyfle i’r plant ail osod eu hunain, gan annog y plant i fod yn ofalgar am bob rhan o’r peiriant, rhag ofn iddo dorri a methu casglu’r cynhaeaf!

    Sylwch, er mai un peiriant yw’r dyrnwr medi, mae i bob rhan ei swyddogaeth bwysig i’w gwneud, ac ni fyddai’r peiriant yn gallu gwneud ei waith oni bai bod pob rhan y gweithio’n iawn. Ambell dro, fe fydd y ffermwyr yn methu cael mynd ymlaen â’u gwaith am eu bod yn disgwyl am rannau newydd i’w dyrnwr medi. Yn ffodus, dydyn nhw ddim yn gorfod aros yn hir fel arfer am y rhannau, ac maen nhw’n gallu dal ati wedyn.

  5. Ar gyfer ysgolion eglwys

    Yn y Beibl, mae Iesu’n sôn am y cynhaeaf. Gwrandewch a cheisiwch ddeall beth mae Iesu’n ei ddweud am y cynhaeaf yn y darlleniad canlynol o Luc 10. adnodau 1–3 ac adnodau 8–9:

    Wedi hynny penododd yr Arglwydd ddeuddeg a thrigain arall, a’u hanfon allan o’i flaen, bob yn ddau, i bob tref a man yr oedd ef ei hun am fynd iddynt. Dywedodd wrthynt, ‘Y mae’r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar arglwydd y cynhaeaf i anfon gweithwyr i’w gynhaeaf. Ewch; dyma fi’n eich anfon allan fel wyn i blith bleiddiaid.
    Ac i ba dref bynnag yr ewch, a chael derbyniad, bwytewch yr hyn a osodir o’ch blaen. Iachewch y cleifion yno, a dywedwch wrthynt, “Y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos atoch.”

    Tybed sut fath o gynhaeaf yr oedd Iesu’n sôn amdano yma?

    Roedd yn sôn am ddod â phethau da i’r byd. Mae Duw’n barod i wneud pethau da, ond mae arno eisiau i bobl weithio gydag ef. Dyma rai o’r pethau y dywedodd Iesu oedd angen eu gwneud:

    – gweddïo am ragor o weithwyr
    – mynd allan a dod o hyd i bobl mewn angen
    – iacháu pobl sy’n sâl, neu helpu rhai mewn trwbl
    – rhannu bwyd a chyfeillgarwch gyda dieithriaid
    – dweud wrth bobl am y ffordd mae Duw eisiau i’w fyd fod a sut y dylai pobl fyw eu bywyd.

    Beth ydych chi’n feddwl fyddai Iesu’n gofyn i ni ei wneud heddiw?

    Ceisiwch gael y plant i roi i chi atebion tebyg i’r canlynol:

    – gofalu am ein byd, cymryd amser i weld pa mor hyfryd yw’r ardaloedd cefn gwlad sydd o’n cwmpas ni – a gofalu am yr amgylchedd
    – gofalu am bobl – ein teulu a’n ffrindiau a’r rhai sy’n byw yn ein hymyl neu ymhell oddi wrthym ni, sydd angen ein help neu ein cyfeillgarwch
    – rhoi arian, os gallwn ni, yn dilyn trychinebau neu pan fydd angen help ar rywrai mewn gwledydd ledled y byd yn ogystal ag yn nes adref
    – hybu masnach deg a rhannu adnoddau gyda’r rhai hynny sydd yn llai abl i siarad drostyn nhw’u hunain (Cyfnod Allweddol 2 yn unig)
    – cefnogi, annog a chalonogi pobl eraill
    – gweddïo ynghylch sefyllfaoedd pan fyddwn ni’n teimlo na allwn ni wneud dim arall
    .

Amser i feddwl

Yn union fel y dyrnwr medi a’i holl rannau, mae gennym ni i gyd ein gwahanol ran i’w gwneud yn ein gweithgareddau. Ac mae gwaith yn cael ei wneud orau pan fydd yr holl rannau’n gweithio’n llyfn gyda’i gilydd fel uned. Yn achos y dyrnwr medi, pan fydd un rhan ddim yn gweithio, does dim modd casglu’r cnwd yn hwylus. Yn achos ein byd, pan fydd gwledydd a chymunedau’n gofalu am eu hunain heb boeni am bobl eraill, fydd pethau’n aml ddim yn gweithio fel y gallen nhw.

Gweddi

Arglwydd,
Diolch i ti am yr holl roddion rwyt ti’n eu rhoi i ni yn dy gynhaeaf.
Helpa ni i gofio bod angen i ni weithio gyda’n gilydd fel y gallwn ni i gyd rannu yn dy ddaioni.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon