Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Spirit Ar Y Blaned Mawrth

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Fideo

(Edrychwch ar y wefan  www.youtube.com/watch?v=yifJW90C9BI)

Spirit ar y blaned Mawrth 
(4 munud 40 eiliad)

Mae’r gwasanaeth hwn yn dilyn llwybr cyflawn, gyda deunydd myfyriol tua’r diwedd. 
Mae’n bosib, wrth gwrs, y byddech yn dymuno ymestyn hyn wedi i’r fideo ddod i ben. Gwelwch syniadau’n dilyn.

Rydym yn argymell eich bod yn gwylio’r fideo cyn ei ddefnyddio gyda’ch cynulleidfa.

Fe all ansawdd rhywfaint o’r deunydd ymddangos yn wael – mae hyn oherwydd oedran y delweddau sydd wedi cael eu defnyddio.

Crynodeb

Mae’r gwasanaeth hwn yn amlinellu cenhadaeth y ddau grwydryn ar blaned Mawrth: Spirit ac Opportunity. Mae’r fideo’n dangos yr hyn a ddigwyddodd yn 2006, pan beidiodd un o olwynion y crwydryn Spirit â gweithio. Fe drodd yr hyn a oedd yn ymddangos yn fethiant i fod yn waith tîm arloesol ac yn ddarganfyddiad cyffrous.

Themâu

Dychymyg, cydweithio, dysgu o anffodion, a chadernid.

Anelu at nod
Dal ati i ddysgu/ symbyliad

Cân/cerddoriaeth

The Planets gan Holst
Unrhyw gerddoriaeth electronig, fel ‘Oxygene’ gan Jean-Michel Jarre
Emynau’n ymwneud â’r byd a’r greadigaeth, neu gariad Duw.

Amser i feddwl

(Goleuwch gannwyll a gadewch i’r myfyrwyr feddwl am yr yn y maen nhw newydd ei weld a’i glywed.)

Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am y pethau sydd wedi ymddangos fel pe bydden nhw wedi mynd o chwith i chi heddiw, yr wythnos hon, y mis hwn, eleni  ….
Galwch i gof sut y gwnaethoch chi ymateb yn y sefyllfaoedd hynny.
Nawr, treuliwch foment yn meddwl am sut y gallech chi fod wedi delio ag un o’r pethau hynny oedd yn ymddangos fel methiant – efallai bod y peth hwnnw’n rhywbeth rydych chi’n dal i geisio delio ag ef ….
Sut y gallech chi droi’r enghraifft hon o rywbeth sy’n ymddangos fel methiant yn ffordd newydd ymlaen?

Gweddi

Helpa fi i sylweddoli, wrth i bethau fynd o chwith,
bod ffordd, yn aml, i wneud i bethau weithio,
i wneud iddyn nhw fynd yn iawn,
a hynny, efallai, mewn ffordd hollol wahanol i’r hyn roeddwn i’n ei ddisgwyl.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon